Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i Ddangosfwrdd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd (PHOF).
Mae'n cael ei gynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Mae hygyrchedd ar y wefan hon yn cael ei arwain gan safonau llywodraeth a Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We (WCAG). Mae WCAG yn cael ei derbyn yn eang fel y safon ryngwladol ar gyfer hygyrchedd ar y we.
Er ein bod yn ceisio gwneud y wefan hon yn hygyrch i bob defnyddiwr a chyrraedd lefel gydymffurfio 'AA' gyda WCAG; rydym yn gweithio'n barhaus gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod cydymffurfio â lefel 'A' yn cael ei dilyn fel isafswm.
Mae nodwedd cyfieithu a thestun-i-lais Recite Me ar y wefan hon yn awtomataidd. Gall fod gwallau ac anghysondebau yn y cyfieithiadau. Y testun swyddogol yw fersiwn Cymraeg/Saesneg y wefan. Os byddwch yn cael unrhyw broblem hygyrchedd ar y safle hwn neu os oes gennych unrhyw sylw, cysylltwch â ni..
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Fersiwn 5, cyhoeddwyd 14/12/2023
Rydym yn gwybod bod rhai rhannau o'r wefan hon nad ydynt yn gwbl hygyrch:
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth am y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei deall, recordiad sain neu Braille, cysylltwch â ni i ddechrau a byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r tîm perthnasol. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi mewn 10 diwrnod gwaith.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd cysylltwch â ni.
Gweithdrefn gorfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar sut y byddwn yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymrwymedig i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We fersiwn 2.1, yn sgil yr achosion o ddiffyg cydymffurfio ac eithriadau a restrir isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Fersiwn 5, cyhoeddwyd 14/12/2023
Er ein bod yn ceisio bodloni ‘WCAG 2.1 AA’ ar hyn o bryd mae gennym y materion canlynol o ran diffyg cydymffurfio:
1.1 Dewisiadau amgen i destun
1.1.1 Cynnwys nad yw’n destun
1.3 Addasadwy
1.3.1 Gwybodaeth a Chydberthynas
1.3.2 Dilyniant Ystyrlon
1.3.3 Nodweddion Synhwyraidd
1.3.5 Nodi Diben Mewnbwn
1.4 Gweladwy
1.4.1 Defnydd o Liw
1.4.3 Cyferbyniad (Isafswm)
1.4.8 Cyflwyniad Gweledol
2.1 Mynediad trwy Fysellfwrdd
2.1.1 Bysellfwrdd
2.4 Llywiadwy
2.4.3 Trefn Ffocws
2.4.4 Diben Dolen
2.4.6 Penawdau a Labeli
3.1 Hygyrchedd darllenydd sgrîn
3.1.1 Iaith Tudalen
4.1 Cydnawsedd
4.1.2 Enw, Rôl a Gwerth
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ym mis Ebrill 2023. Caiff ei adolygu ym mis Ebrill 2024.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Ebrill 2023 gennym ni gan ddefnyddio Mewnwelediadau Hygyrchedd FastPass ar gyfer ehangu’r We.