Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw dehongli

Gweler arweiniad ynghylch sut i ddehongli’r telerau canlynol a ddefnyddir yn yr offeryn:

Mae cyfyngau hyder yn dangos yr amrywiad naturiol y byddai rhywun yn disgwyl ei weld mewn perthynas â chyfradd a dylid ystyried y rhain wrth asesu neu ddehongli cyfradd. Mae maint y cyfwng hyder yn dibynnu ar nifer y digwyddiadau a maint y boblogaeth y mae'r digwyddiadau wedi deillio ohoni. Yn gyffredinol, mae cyfraddau sydd wedi'u seilio ar niferoedd bach o ddigwyddiadau ac ar boblogaethau bach yn debygol o fod â chyfyngau hyder ehangach. I'r gwrthwyneb, bydd cyfyngau hyder cyfraddau sydd wedi’u seilio ar boblogaethau mawr yn debygol o fod yn gulach.

Yn offeryn adrodd y Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd, byddwn yn defnyddio cyfyngau hyder o 95 y cant. Mae hyn yn cynrychioli ystod o werthoedd y gallwn fod 95 y cant yn hyderus ei bod yn cynnwys y gyfradd sylfaenol 'gywir'.

Bydd cymariaethau'n cael eu gwneud yn aml rhwng dau amcangyfrif neu ragor, er enghraifft rhwng gwahanol ardaloedd neu gyfnodau (Ffigur 1). Weithiau, mewn achosion o'r fath, bydd profion ystadegol yn cael eu gwneud drwy gymharu cyfyngau hyder yr amcangyfrifon i weld a ydynt yn gorgyffwrdd â'i gilydd.  Bydd cyfyngau hyder nad ydynt yn gorgyffwrdd â'i gilydd yn cael eu hystyried yn rhai sy’n ystadegol arwyddocaol wahanol (Ffigurau 1a ac 1b).  Er ei bod yn deg tybio bod cyfyngau hyder nad ydynt yn gorgyffwrdd â'i gilydd yn dangos gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol, nid yw bob tro'n wir nad yw cyfyngau hyder sy’n gorgyffwrdd â'i gilydd yn dangos gwahaniaeth o'r fath (Ffigur 1c)  Dull mwy manwl gywir yw cyfrifo cymhareb y ddau amcangyfrif, neu'r gwahaniaeth rhyngddynt, a llunio prawf neu gyfwng hyder sydd wedi'i seilio ar yr ystadegyn hwnnw. Nid yw dulliau fel hyn yn cael eu trafod yn y canllaw technegol hwn, ond gallwch ddarllen amdanynt mewn gwerslyfrau safonol.

 

Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yn fesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru ac yn Ystadegyn Cenedlaethol. Mae’n nodi ardaloedd â’r crynodiadau uchaf o amddifadedd. Mae rhestru’r ardaloedd hyn, a’u rhannu’n bum grŵp cyfwerth o ran maint yn creu pumedau amddifadedd.

Ar gyfer pob dadansoddiad ar lefel genedlaethol a’r rhan fwyaf o’r dadansoddiadau mewn byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, cyfrifir pumedau ar lefel Cymru (pumedau cenedlaethol). Ceir rhai dangosyddion lle defnyddir pumedau lleol, yn benodol disgwyliad oes a disgwyliad oes iach. Mae pumedau lleol yn wahanol i bumedau cenedlaethol o ran bod pum band cyfartal amddifadedd yn cael eu hailgyfrifo ar gyfer yr ardaloedd bach mewn pob bwrdd iechyd a ffin awdurdod lleol yn unig, yn hytrach nag etifeddu’r pumedau cenedlaethol. Mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer dull mwy lleol o greu disgwyliadau iechyd.

 

 

  • Mae Dangosyddion Cenedlaethol (DC) yn cynrychioli’r canlyniadau ar gyfer Cymru, gan arddangos cynnydd tuag at saith nod llesiant. Ceir 50 DC i gyd, nodir deg yn Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd.