Nod ein Strategaeth Iechyd Rhyngwladol yw:
- dod â gweithgarwch iechyd rhyngwladol a byd-eang ynghyd i ddangos ein gwaith da a dathlu arferion da a llwyddiannau;
- cryfhau gweithgareddau, cyfleoedd a phartneriaethau iechyd rhyngwladol presennol a helpu i ddatblygu rhai newydd;
- helpu i ddarparu cyfleoedd ar gyfer datblygu proffesiynol a recriwtio a chadw staff, gan gynorthwyo'r sefydliad fel gweithle sy'n ysbrydoli; a
- hyrwyddo a chryfhau rôl ac effaith arweiniol Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
Ein gweledigaeth iechyd rhyngwladol yw i fod yn sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol sydd wedi'i gysylltu'n fyd-eang ac sy'n ysbrydoli, gan weithio tuag at Gymru iachach a thecach i fynd i'r afael â heriau byd-eang a nodau cyffredin.