Mae newid hinsawdd yn cael ei gydnabod fel bygythiad iechyd cyhoeddus mwyaf arwyddocaol y ganrif, ac yn peryglu iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant. Mae'n bygwth pob maes o fywyd sy'n effeithio ar ein gallu i gyflawni a chynnal iechyd da. Ym mis Hydref 2021, datganodd Sefydliad Iechyd y Byd mai newid hinsawdd yw'r bygythiad iechyd unigol mwyaf sy'n wynebu'r ddynoliaeth, yn sgil tymereddau byd-eang sy'n codi.
Mae'r ddaear eisoes wedi cynhesu 1.1°c uwchben lefelau cyn yr oes ddiwydiannol o ganlyniad i weithgarwch pobl. Mae angen camau gweithredu brys i gyfyngu ar gynnydd mewn tymheredd byd-eang i 1.5°c er mwyn atal niwed dinistriol i iechyd. Mae lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr drwy ddewisiadau gwell o ran trafnidiaeth, bwyd ac ynni yn arwain at well iechyd, yn enwedig drwy leihau llygredd aer.
Mae effeithiau niferus newid hinsawdd yn effeithio ar benderfynyddion cymdeithasol ac amgylcheddol iechyd (aer glân, digon o fwyd, cartrefi diogel a mynediad at wasanaethau). Mae'r effeithiau eisoes yn cael eu teimlo yng Nghymru, o fygythiadau corfforol i fywyd drwy dywydd eithafol, a gorbryder sy'n gysylltiedig â hinsawdd. Yn fyr, mae newid hinsawdd eisoes yn effeithio'n andwyol ar iechyd pobl yng Nghymru a bydd yn parhau i wneud hynny ymhell i'r dyfodol.
Rydym yn gwybod bod rhai cymunedau yng Nghymru yn debygol o gael eu heffeithio'n fwy gan newid hinsawdd nag eraill, a rhai yn llai tebygol o allu cymryd camau gweithredu i ymateb i'r newidiadau hyn. Mae'r rhain yn cynnwys cartrefi incwm is mewn ardaloedd sy'n dioddef llifogydd yn rheolaidd, a phobl sy'n byw gydag anableddau neu gyflyrau cronig (hirdymor), a'u gofalwyr. Mae effeithiau newid hinsawdd yn debygol o wneud anghydraddoldebau iechyd presennol yng Nghymru yn waeth. Rhaid i ni sicrhau bod gennym bolisïau ac ymyriadau addasu effeithlon a theg yn eu lle sy'n helpu i leihau'r anghydraddoldebau hyn.
Mae gan Gymru yr amgylchedd a'r ddeddfwriaeth i gynorthwyo'r trawsnewid sydd ei angen i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn sicrhau bod yr hinsawdd yn cael ei hystyried pan fydd penderfyniadau bob dydd yn cael eu gwneud. Mae'r ddeddfwriaeth hon sy'n arwain y byd yn rhoi dyletswydd arnom i gynorthwyo'r saith nod llesiant a roddwyd ar waith gan y ddeddf.
Mae gennym hanes hir o waith ar newid hinsawdd a chynaliadwyedd, y tu mewn i'n sefydliad a'r tu allan iddo. Gwnaethom sefydlu ein Canolfan Iechyd a Chynaliadwyedd er mwyn helpu i weithredu gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r Ganolfan wedi helpu i ddatblygu ein dull o ran cynaliadwyedd a lleihau ein hallbwn carbon deuocsid. Gyda'n rhanddeiliaid allweddol, rydym wedi dechrau asesiad effaith iechyd cynhwysfawr ar newid hinsawdd yng Nghymru i lywio'r broses o wneud penderfyniadau a pholisi ar addasu i newid hinsawdd.
Yn 2021, gwnaethom gynnal adolygiad o'r adroddiad Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd Cymru (CCRA3). Asesodd yr adroddiad hwn 61 o risgiau a chyfleoedd o newid hinsawdd, ar draws sectorau fel iechyd, tai, yr amgylchedd naturiol, busnes a seilwaith, a risgiau o effeithiau rhyngwladol newid hinsawdd. Nododd yr adroddiad nifer sylweddol o risgiau yr oedd angen camau gweithredu iechyd cyhoeddus brys arnynt.
Ers 2021, mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r system iechyd ehangach i ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Mae hyn wedi ymwneud â chynnwys gweithgarwch ar newid hinsawdd mewn rhaglenni presennol, er enghraifft, Cymru Iach ar Waith a Gwelliant Cymru, neu ddatblygu rhaglenni gweithredu newydd fel Cynllun Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru. Gwnaethom hefyd gyhoeddi ein Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru. Mae hwn yn nodi sut rydym yn bwriadu mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yng Nghymru drwy leihau'r ôl-troed carbon (faint o nwyon tŷ gwydr a ryddheir i'r atmosffer) y sector iechyd (gan gynnwys ni).
Mae rhannau allweddol o'n rôl yn adlewyrchu amrywiaeth a swm y gwaith rydym wedi'i wneud ar newid hinsawdd a chynaliadwyedd. Mae hyn yn cynnwys datblygu, deall a dehongli tystiolaeth i gynorthwyo camau gweithredu, darparu ymyriadau sy'n gweithio a rhoi cyngor technegol i bartneriaid (fel cyngor ar bolisi, newid ymddygiad, cyfathrebu, monitro a chanllawiau).
Mae cynllun y Gymdeithas Ryngwladol o Sefydliadau Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol (IANPHI) ar gyfer camau gweithredu ar iechyd a newid hinsawdd yn nodi sut y mae gan asiantaethau iechyd cyhoeddus cenedlaethol rôl allweddol wrth ymdrin â newid hinsawdd. Mae'r cynllun yn unol â'n safbwyntiau ni ein hunain ynghylch y gwaith sydd ei angen i ymateb i effeithiau newid hinsawdd ar iechyd ac mae wedi'i ddefnyddio fel sail ar gyfer gweithredu.
Mae angen i ni wneud y canlynol.
Diogelu, hyrwyddo ac addysgu
Ymateb a gweithredu
Monitro a gwerthuso
Erbyn 2030, byddwn wedi:
Ac erbyn 2035, byddwn: