Diogelu'r cyhoedd yn erbyn effeithiau heintiau ac amlygiad i broblemau amgylcheddol (fel llygredd aer) a chyflawni ein rhaglenni sgrinio cenedlaethol yw ein prif gyfrifoldebau. Rydym yn gwneud hyn drwy ein gwasanaethau diogelu iechyd a rheoli heintiau a rhaglenni sgrinio cenedlaethol. Rydym yn darparu, yn monitro, ac yn gwerthuso saith rhaglen sgrinio, ac yn cydlynu rhwydwaith clinigol a reolir Cymru gyfan ar gyfer sgrinio cyn geni. Nodau'r rhaglenni hyn yw naill ai lleihau cyfradd clefydau (er enghraifft, drwy sgrinio serfigol) neu wella diagnosis cynnar i leihau effaith clefyd (er enghraifft, sgrinio'r fron).
Diogelu pobl yn erbyn heintiau a bygythiadau amgylcheddol yw'r allwedd i gyflawni Cymru iachach. Roedd pandemig Covid-19, a'i oblygiadau parhaus, wedi tynnu sylw at y bygythiad difrifol i iechyd yn sgil clefydau trosglwyddadwy ac atgyfnerthu pam y bydd amddiffyn iechyd a diogelu iechyd, yn parhau'n flaenoriaeth iechyd cyhoeddus mewn byd rhyng-gysylltiedig.
Mae'r pandemig wedi dangos mor gysylltiedig yr ydym ag eraill o amgylch y byd, a sut y mae'n rhaid i ni fod yn barod i weithredu ar fygythiadau byd-eang i iechyd, gan gynnwys nodi bygythiadau yn y dyfodol. Byddwn yn ystyried yr hyn yr ydym wedi'i ddysgu o'r pandemig a sicrhau ein bod mor barod ag y gallwn fod ar gyfer bygythiadau yn y dyfodol. Un o'r bygythiadau hyn yw ymwrthedd gwrthficrobaidd (lle mae heintiau'n mynd yn fwy anodd eu trin â chyffuriau), a rhaid i ni ganolbwyntio ein gwasanaethau ar leihau hyn. Bydd cysylltu â'n partneriaid o amgylch y byd fel ein bod yn ymwybodol o fygythiadau i iechyd wrth iddynt ddod i'r amlwg a rhoi systemau ar waith i ymdrin â nhw yn bwysig wrth i ni weithio i ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol.
Byddwn yn darparu rhaglenni sgrinio rhagorol sy'n ddiogel, yn effeithiol, yn canolbwyntio ar bobl, yn brydlon, yn effeithlon ac yn deg, ac sydd wedi'u gwerthuso ac y profwyd eu bod yn gwella iechyd pobl.
Mae sut rydym yn darparu ein gwasanaethau i ddiogelu iechyd pobl Cymru yn hanfodol. Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 yn tynnu sylw at y ‘ddyletswydd ansawdd’ sydd gennym i ddarparu gofal mewn amgylchedd dysgu. Credwn y bydd darparu ein gwasanaethau fel hyn yn sicrhau'r canlyniadau gorau i bobl Cymru.
Rydym wedi diffinio rhagoriaeth drwy ‘ddimensiynau ansawdd’ y Sefydliad Meddyginiaethau, sydd hefyd yn cael eu defnyddio yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020. Y rhain yw:
Gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd arloesi a gwella'n gwasanaethau'n barhaus, mae gennym y mesurau rhagoriaeth ychwanegol canlynol hefyd.
Mae'r flaenoriaeth hon yn canolbwyntio ar yr holl wasanaethau cyhoeddus a chleifion a ddarparwn, yn enwedig sgrinio, diogelu iechyd a microbioleg. Ond, wrth i ni roi'r strategaeth hon ar waith, byddwn hefyd yn ceisio defnyddio'r dull hwn ar gyfer y prif wasanaethau iechyd cyhoeddus eraill a ddarparwn.
Rhaglenni cenedlaethol sgrinio'r boblogaeth
Byddwn yn darparu rhaglenni sgrinio er mwyn helpu i wella iechyd pobl yng Nghymru. Nod y rhaglenni hyn yw naill ai lleihau cyfradd yr achosion newydd o glefyd neu wella diagnosis cynnar i leihau effaith clefyd. Rydym yn cynnig sgrinio i bawb sy'n gymwys i'w gael, ond mae nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn amrywio. Un o'n prif flaenoriaethau yw gwella hyn (drwy rannu manteision ac anfanteision sgrinio). Roedd pandemig Covid-19 wedi effeithio'n fawr ar ein gallu i ddarparu ein rhaglenni sgrinio. Byddwn yn adfer ein dwy raglen sgrinio sydd wedi'u hoedi o hyd drwy raglen uchelgeisiol a fydd yn defnyddio technoleg newydd, ac yn defnyddio arloesi sy'n ceisio gwella arferion.
Gwasanaethau diogelu iechyd a heintiau
Mae ymateb i heriau clefydau trosglwyddadwy yng Nghymru yn cynnwys darparu rhaglenni a gwasanaethau, ac amlygwyd pwysigrwydd y rhain yn ystod pandemig Covid-19. Byddwn yn dysgu o brofiadau ein gwasanaethau diogelu iechyd a heintiau yn ystod y pandemig i sicrhau ein bod wedi paratoi ar gyfer heriau bygythiadau yn y dyfodol.
Byddwn yn darparu'r rhaglenni a'r gwasanaethau hyn gyda'n gwasanaethau ehangach, gan eu gwneud yn fwy dibynadwy a chynaliadwy. Mae gennym rôl arweinyddiaeth, gan weithio gyda'n partneriaid a'u cynghori ar strategaethau i sicrhau diagnosis o haint a'i drin yn gynnar ac yn effeithiol i reoli'r lledaeniad. Mae ein gwasanaethau allweddol, gan gynnwys y Ganolfan Wyliadwriaeth ar gyfer Clefydau Trosglwyddadwy, yn cefnogi'r ymateb hwn, a fydd yn ein helpu i ddeall effaith clefydau trosglwyddadwy ac ymyriadau ar bobl Cymru.
Mae Covid-19 a heintiau anadlol eraill yn parhau i ddangos mai imiwneiddio yw'r ffordd bwysicaf o atal clefyd a lleihau difrifoldeb haint, ochr yn ochr â rheoli brigiadau o achosion yn effeithiol a rheoli haint. Y Rhaglen Brechu a Chlefydau Ataliadwy yw'r rhaglen genedlaethol ar gyfer imiwneiddio a brechu. Byddwn hefyd yn chwarae rôl angenrheidiol wrth ddiogelu pobl yn erbyn bygythiadau amgylcheddol, fel llygredd aer. Mae ein gwasanaethau iechyd cyhoeddus amgylcheddol yn sicrhau ein bod yn lleihau nifer y bobl sy'n mynd yn sâl neu'n marw o ganlyniad i fygythiadau amgylcheddol ac yn cynyddu nifer y bobl y mae eu hiechyd yn cael budd o amgylchedd da. Byddwn yn gwneud hyn drwy gymorth, canllawiau polisi, cyngor arbenigol a monitro.
Bydd ein gwasanaethau microbioleg yn parhau i ddarparu gwasanaethau cynghori diagnostig a chlinigol o'r radd flaenaf a Gwasanaethau Microbioleg Arbenigol a Chyfeirio i gynorthwyo sut y mae brigiadau o achosion yn cael eu nodi a'u rheoli.
Arloesi a bygythiadau yn y dyfodol
Bydd ein gwasanaethau iechyd cyhoeddus bob amser yn ceisio cyflawni rhagoriaeth drwy arloesi a gwella. Mae genomeg iechyd cyhoeddus yn canolbwyntio ar boblogaethau, gwasanaethau iechyd a rhaglenni iechyd cyhoeddus, yn hytrach na gofal clinigol unigol, drwy ddefnyddio datblygiadau ym maes genomeg dynol a phathogen i wella iechyd cyhoeddus ac atal clefydau. Bydd ein Rhaglen Genomeg Iechyd Cyhoeddus yn ein helpu i arwain wrth wella canlyniadau i bobl yng Nghymru. Byddwn yn parhau i arwain y gwaith o ddatblygu canllawiau ar y defnydd o wrthfiotigau a'u heffeithiolrwydd ar draws y GIG, gyda'r nod o leihau achosion o haint ac felly'r galw am wrthfiotigau.
Erbyn 2035, byddwn wedi: