Mae gennym rôl arweinyddiaeth genedlaethol, wedi'i chefnogi drwy ddefnyddio gwybodaeth a thystiolaeth, wrth ddatblygu strategaethau iechyd cyhoeddus a gweithio mewn partneriaeth â GIG Cymru a chymunedau ar weithgareddau iechyd cyhoeddus. Mae'r system iechyd a gofal yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod gofal iechyd yn gynaliadwy ac yn addas ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Bydd ein dull yn adlewyrchu gweithgarwch a gweithredu atal sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Uchelgais Cymru Iachach yw i bawb fyw bywydau hir, iach, hapus, ac i nodi sut y bydd y system iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni gofal iechyd cynaliadwy.
Mae gofal iechyd cynaliadwy yn ofal o ansawdd uchel nad yw'n niweidio'r amgylchedd, yn fforddiadwy nawr ac yn y dyfodol, ac yn cael effaith gadarnhaol ar gymdeithas. Mae ein gwaith yn cynnwys symud gwasanaethau allan o'r ysbyty i gymunedau a chael mwy o wasanaethau sy'n canfod salwch neu ei atal yn llwyr. Bydd hyn yn cynnwys helpu pobl i reoli eu hiechyd a'u salwch hirdymor eu hunain. Bydd hefyd yn ei gwneud yn haws i bobl barhau i fod yn egnïol ac yn annibynnol yn eu cartrefi a'u cymunedau.
Mae mwy o bobl yng Nghymru yn byw'n hirach ac mae angen mwy o ofal iechyd a chymdeithasol arnynt nag o'r blaen, ond mae adnoddau o dan bwysau. Mae poblogaeth sy'n heneiddio, anghydraddoldebau iechyd a chanlyniadau iechyd, a chanlyniadau pandemig Covid-19 wedi arwain at bwysau enfawr ar y system iechyd a gofal. Mae hyn yn cael effaith sylweddol ar gleifion a'u teuluoedd, yn ymwneud â mynediad at driniaeth, amseroedd aros a chanlyniadau cyffredinol. Mae'r materion hyn yn debygol o gael eu heffeithio ymhellach gan bwysau uniongyrchol eraill, fel yr argyfwng costau byw, a fydd yn ehangu'r bwlch rhwng y cefnog a'r llai cefnog ymhellach. Fel rhan o'r adferiad o Covid-19, mae gennym gyfle i gynorthwyo datblygiadau a gwelliannau ffisegol, yn enwedig mewn perthynas ag atal eilaidd.
Mae'r pwysau presennol yn y GIG a gofal cymdeithasol yn cael effaith sylweddol ar ganlyniadau iechyd ac yn codi cwestiynau ynghylch dyfodol hirdymor y system gyfan. Er bod sawl pwysau uniongyrchol, mae'n eithriadol o bwysig o hyd ein bod yn canolbwyntio ar atal, ymyrryd yn gynnar a thegwch iechyd i ddatblygu gofal sy'n diwallu anghenion iechyd pobl heddiw ac yn y dyfodol, yn lleihau niwed ac yn gwella canlyniadau.
Mae gennym rôl allweddol wrth gynorthwyo'r system iechyd a gofal i ddatblygu cynlluniau gofal manwl sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau da. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid allweddol i gydlynu ymdrechion ar draws y system. Gwnaethom ddysgu llawer o'r pandemig am glefydau heintus yn y dyfodol a sut mae asiantaethau gofal iechyd yn gallu gweithio gyda'i gilydd i ateb heriau gofal iechyd. Byddwn yn adeiladu ar hyn i sicrhau ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni canlyniadau iechyd teg i bobl. Mae tystiolaeth sylweddol o fanteision atal sylfaenol ac eilaidd mewn perthynas â lleihau achosion o glefydau a marw o glefydau, gan gynnwys llawer o ganserau a chlefyd cardiofasgwlaidd.
Ein nod yw blaenoriaethu adnoddau i sicrhau manteision gorau posibl gofal iechyd i bobl yng Nghymru, gan sicrhau ein bod yn diwallu anghenion unigolion a grwpiau a chanolbwyntio ar leihau anghydraddoldebau iechyd. Gallwn wella iechyd pobl drwy atal a chanfod clefydau'n gynnar neu wella canlyniadau sy'n gysylltiedig ag iechyd drwy ddefnyddio ymyriadau neu driniaethau effeithiol.
Mae'r flaenoriaeth hon yn ganolog i'n rôl wrth symud cydbwysedd ein system iechyd a gofal yng Nghymru i ganolbwyntio ar atal, ymyrryd yn gynnar a thegwch iechyd er mwyn gwella iechyd pobl. Bydd gennym:
Byddwn yn cynorthwyo ein partneriaid drwy asesu a chynllunio anghenion iechyd rhai grwpiau. Bydd hyn yn cynnwys ystyried effaith defnyddio dull ataliol i gynnwys atal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol.
Byddwn hefyd yn darparu ac yn cydlynu adnoddau gyda'r nod o sicrhau bod gan bawb yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol fynediad at ofal iechyd effeithiol ac effeithlon sy'n diwallu eu hanghenion. Bydd hyn yn cynorthwyo'r system ehangach i ddeall iechyd a llesiant yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar leihau marwolaethau a chlefydau. Byddwn hefyd yn sicrhau bod dull cyson o gasglu a rhannu gwybodaeth yn genedlaethol, gan gynnwys gwybodaeth am ymddygiad iechyd, cleifion, clinigwyr a'r gweithlu ehangach.
Byddwn yn cynorthwyo fframwaith ar gyfer lleihau anghydraddoldebau iechyd, y gellir ei ddefnyddio'n gyson ledled Cymru i ymdrin â'r gwahaniaethau mewn cynlluniau gofal (er enghraifft, drwy archwiliadau). Bydd hyn yn cynnal ansawdd profiad, diogelwch a chanlyniadau cleifion. Bydd hefyd yn sicrhau ein bod yn defnyddio adnoddau'n effeithlon, drwy osod blaenoriaethau, adolygu opsiynau ac asesu ein heffeithiolrwydd.
Byddwn hefyd yn cynorthwyo'r gwaith o drawsnewid gofal sylfaenol (gwasanaethau gofal iechyd yn y gymuned, fel meddygon teulu, deintyddion ac ati). Drwy arwain y ffordd ar hyn yng Nghymru, gallwn sicrhau bod gwelliannau gofal iechyd o ran iechyd cyhoeddus ac iechyd pobl, ac wrth leihau anghydraddoldebau yn gallu arwain diwygio gofal sylfaenol ehangach. Byddwn hefyd yn helpu i arwain Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru, gan ganolbwyntio ar y defnydd o ddulliau gwella ansawdd, wrth ddysgu gyda GIG Cymru.
Erbyn 2035, byddwn wedi: