Neidio i'r prif gynnwy

Blaenoriaeth 3: Hybu ymddygiad iach

Cyflwyniad

Mae hybu ymddygiad iach yn cynnwys camau gweithredu i leihau clefyd, anabledd a marwolaeth gynnar sy'n deillio o bethau fel smygu, ein deiet, pa mor egnïol yr ydym a sut rydym yn defnyddio alcohol a sylweddau eraill.

Mae cysylltiad agos rhwng ein hymddygiad â'r ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sydd wedi'u hamlinellu yn ein blaenoriaethau cynharach.  Mae'r cyfleoedd i wneud dewisiadau iachach yn cael eu dylanwadu gan ein hamgylchiadau cymdeithasol ac economaidd, gan lle rydym yn byw, ac yn bwysig, gan ddiwydiannau sy'n cynhyrchu llawer o gynnyrch afiach. Mae'r ffactorau hyn yn un o'r prif ffyrdd y mae'r penderfynyddion ehangach yn arwain at afiechyd.

Gall ein hymddygiad hefyd fod o ganlyniad i'n llesiant meddyliol.  Bydd llawer ohonom yn cydnabod mor hawdd yw bwyta bwydydd afiach – yn aml fel danteithion pan fyddwn yn teimlo'n isel – neu sut y gallwn yfed mwy o alcohol pan fyddwn dan straen neu'n bryderus. I rai pobl daw'r ymddygiad hwn yn arferion hirdymor, ac efallai y bydd angen cymorth arnynt i ddod o hyd i ffyrdd iachach o ymdopi. Yn y sefyllfaoedd hyn, yn aml mae angen cymorth ar bobl i wneud newidiadau, hyd yn oed pan fydd ganddynt gymhelliant i wneud hynny.

 

Trosolwg – pam mae hyn yn flaenoriaeth

Mae gan brif achosion marwolaeth (yn enwedig marwolaeth gynnar yng Nghymru) fel clefyd y galon a chlefyd cylchredol arall, rhai canserau a chlefyd anadlol, gysylltiadau cryf ag ymddygiad iechyd fel ffactorau risg.  Gellir priodoli cyfran sylweddol o'r marwolaethau hyn i bethau fel smygu, deiet a'r defnydd o alcohol. Mae ffactorau ymddygiadol hefyd yn chwarae rhan yn y cyflyrau sy'n arwain at anabledd, fel clefydau cyhyrysgerbydol, a defnyddio sylweddau.

Smygu yw'r ffactor risg arweiniol o hyd ar gyfer iechyd gwael. Mae hyn yn rhannol oherwydd, i rai clefydau, mae'r risg yn parhau am sawl blwyddyn hyd yn oed ar ôl i rywun roi'r gorau i smygu, yn enwedig os oeddent wedi smygu am amser hir. Mae hefyd yn sgil yr amrywiaeth eang o gyflyrau a achosir gan smygu, gan gynnwys clefyd y galon a chylchredol, dementia, canser a chlefyd yr ysgyfaint.  Ond, mae cyfraddau smygu wedi lleihau'n sylweddol dros y degawdau diwethaf ac mae'r ffigurau diweddaraf yn awgrymu mai dim ond 13.8% o oedolion yng Nghymru sy'n smygu ar hyn o bryd. Lansiodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth Cymru Ddi-fwg yn 2022, gyda'r nod o leihau cyfraddau smygu i lai na 5% erbyn 2030.

Mae ein deiet a bod dros bwysau neu'n ordew yn cael llawer mwy o effaith na'r defnydd o dybaco. Wrth i gyfraddau smygu ostwng, mae nifer y bobl sydd dros bwysau, ac yn enwedig y bobl sy'n ordew, yn cynyddu.  Yn 2022, roedd 62% o oedolion yng Nghymru naill ai dros bwysau neu'n ordew ac roedd 25% yn ordew. Mae hyn yn golygu bod eu pwysau ar lefel lle mae'r risg o iechyd gwael yn uchel. Mae cyfraddau gordewdra yn uwch mewn pobl o gefndir mwy difreintiedig. Lansiodd Llywodraeth Cymru Pwysau Iach: Cymru Iach fel strategaeth hirdymor i leihau nifer y bobl sydd dros bwysau ac yn ordew. Ein deiet, ynghyd â faint o alcohol rydym yn ei yfed a ph'un a ydym yn egnïol, yw achos arweiniol bod dros bwysau neu'n ordew. Mae ychydig dros hanner yr oedolion (56%) yn gwneud y 150 munud o weithgarwch cymedrol neu egnïol yr wythnos sy'n cael ei argymell gan Brif Swyddogion Meddygol y DU.  Ond, rydym yn gwybod bod yr enillion iechyd mwyaf i'w gwneud drwy helpu'r 30% o oedolion yng Nghymru sy'n segur ar hyn o bryd (hynny yw, yn egnïol am lai na 30 munud yr wythnos) i fod yn fwy egnïol.

Mae bod yn egnïol yn dibynnu ar amrywiaeth o bethau, gan gynnwys lle rydym yn byw, a oes gennym fynediad hawdd at leoedd i gerdded a beicio neu i drafnidiaeth gyhoeddus aml a dibynadwy (fel dewis arall yn lle car), p'un a allwn fforddio mynd i gampfa neu ganolfan hamdden yn rheolaidd, a'r math o waith rydym yn ei wneud. Yn gynyddol, rydym yn llai egnïol, ac mae'r angen i greu cyfleoedd i fod yn egnïol yn ddatblygiad cymharol ddiweddar na fyddai wedi'i gydnabod gan bobl 100 mlynedd yn ôl.

Mae tlodi bwyd yn broblem sylweddol a chynyddol – mae llawer o deuluoedd yn cael trafferth darparu bwyd o gwbl ac mae ganddynt lawer llai o allu o ran canolbwyntio ar a yw'r bwyd hwnnw yn iach ai peidio.  Ni fydd yn hawdd gwrthdroi newidiadau sydd wedi digwydd dros ddegawdau ond os na fyddwn yn gweithredu, bydd clefyd sy'n gysylltiedig â gordewdra yn parhau i gynyddu.

Yn ystod 1990 i 2016, roedd clefydau a achoswyd gan alcohol a chyffuriau wedi cynyddu. Mae'r defnydd o alcohol yn cael ei weld fel rhywbeth normal yn ein cymdeithas, ond eto cyhoeddodd Sefydliad Iechyd y Byd ddatganiad ym mis Ionawr 2023 lle dywedodd ‘o ran y defnydd o alcohol nid oes swm diogel nad yw'n effeithio ar iechyd’. Hefyd, siaradodd canllawiau a luniwyd gan Brif Swyddogion Meddygol y DU yn 2016 am ‘ganllawiau yfed risg isel’ yn hytrach na lefelau diogel.

 

​​​​​​​Yr hyn y mae'r flaenoriaeth hon yn ei gwmpasu

Bydd y flaenoriaeth hon yn canolbwyntio'n bennaf ar yr ymddygiad sy'n cael yr effaith fwyaf ar afiechyd, anabledd a marwolaeth gynnar y gellir eu hatal. Rydym hefyd yn ymwybodol o sut y mae'r ymddygiad hwn yn cyfrannu at iechyd y blaned yn ogystal ag iechyd unigolion. 

Byddwn yn parhau â'n gwaith gyda’r byrddau iechyd a Chyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus ac awdurdodau lleol i ymdrin â materion smygu a gordewdra.  Byddwn yn defnyddio dull tebyg o ran atal niwed o'r defnydd o gyffuriau ac alcohol. Rydym wedi gweld manteision mesuradwy ar gyfer y dull ar y cyd hwn o ran y defnydd o dybaco, yn enwedig drwy raglen Helpa Fi i Stopio, a byddwn yn ceisio adeiladu ar hyn i gyflawni Cymru ddi-fwg.

Byddwn yn gweithio i gynorthwyo'r system ehangach wrth fesur newid. Bydd hyn yn cynnwys lleihau ymddygiad afiach a'r bwlch rhwng y grwpiau mwyaf a lleiaf cefnog mewn cymdeithas. Mae'r sail ar gyfer llawer o'r ymddygiad hwn yn dechrau yn ystod plentyndod a byddwn yn parhau i gefnogi ymddygiad iach o enedigaeth. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda’n partneriaid i gynyddu nifer y menywod sy'n bwydo ar y fron a chynghori ar yr adeg orau i gyflwyno babanod i fwydydd solet. Byddwn hefyd yn datblygu dull ‘ysgol gyfan’ o ran bwyd a fydd yn cynnwys sicrhau bod safonau maeth yn unol â'r canllawiau gwyddonol diweddaraf a gweld a yw'r polisi hwn yn gwella arferion bwyta plant a phobl ifanc.

Byddwn yn defnyddio dull penderfynyddion iechyd masnachol, sy'n canolbwyntio ar weithgarwch yn y sector preifat sy'n effeithio ar iechyd y boblogaeth. Mae'r dull hwn yn ceisio nodi'r diwydiannau hynny sy'n gwneud cynnyrch sy'n annog ymddygiad sy'n niweidiol i iechyd a chymryd camau gweithredu ar y diwydiannau hynny.  Mae Cymru wedi bod yn weithgar wrth gyflwyno deddfwriaeth i leihau effeithiau niweidiol tybaco, a byddwn yn rhoi tystiolaeth i Lywodraeth Cymru a fydd yn ei helpu i sicrhau bod Cymru yn parhau ymhlith y gwledydd arweiniol yn y byd sy'n mynd i'r afael â'r materion hyn.  I wneud hyn, bydd angen i ni weithio'n agos gydag asiantaethau iechyd cyhoeddus yn y DU ac o amgylch y byd i sicrhau ein bod yn cyfrannu at gymryd camau gweithredu gyda'n gilydd ac yn cael budd o hyn. 

Byddwn hefyd yn gweithio i sicrhau y gallwn nodi ymddygiad newydd ac sy'n dod i'r amlwg y gall diwydiant ei annog neu ddylanwadu arno. Mae pryder cynyddol ynghylch materion fel niwed sy'n gysylltiedig â gamblo, ac mae'r rhan fwyaf o randdeiliaid o'r farn bod hyn yn rhannol oherwydd rôl y diwydiant. Hefyd, bu pryder cynyddol am nifer y bobl ifanc sy'n fepio a'r rôl y gall cynnyrch untro newydd, deniadol â blas eu chwarae. Mae dryswch ynghylch canabis a pha mor niweidiol ydyw yn deillio'n rhannol o gamau gweithredu diwydiant, naill ai drwy hyrwyddo cynnyrch sy'n deillio o ganabis heb gynhwysion gweithredol neu gefnogi ei ddad-droseddoli.

Byddwn yn ymchwilio i ymddygiad iechyd newydd ac sy'n dod i'r amlwg ac ymateb i hyn er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu tystiolaeth a chyngor yn brydlon i Lywodraeth Cymru, y system iechyd ehangach a'r cyhoedd. Byddwn hefyd yn parhau i ddefnyddio gwyddor ymddygiad a'r wybodaeth a'r dystiolaeth orau sydd ar gael o amrywiaeth gynyddol o ffynonellau fel bod gennym y ddealltwriaeth orau posibl o'r hyn sy'n dylanwadu ar ymddygiad afiach.  Er ein bod yn cydnabod y dylem geisio dylanwadu ar yr amgylchedd ehangach yn bennaf (gan wneud y dewisiadau iach yn ddewisiadau hawdd), bydd cefnogi unigolion yn parhau'n brif ran o'n gwaith.  Byddwn yn cynorthwyo'r rhai sy'n gweithio gydag unigolion yn y system iechyd a gofal drwy raglenni fel Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif.

 

​​​​​​​​​​​​​​Amcanion

Erbyn 2035, byddwn wedi:

  • gweithio gydag eraill i leihau afiechyd a marwolaeth o'r defnydd o gynnyrch sy'n niweidiol i iechyd, a hybu ymddygiad sy'n arwain at iechyd da;
  • cynhyrchu, dehongli a rhannu tystiolaeth ar gyfer camau gweithredu effeithiol i gynorthwyo polisi, deddfwriaeth a chamau gweithredu ar dybaco, deiet, anweithgarwch, ac alcohol a sylweddau eraill;
  • datblygu a phrofi dulliau newydd a rhaglenni gwaith cydgysylltiedig ar draws y system ehangach; 
  • dulliau yn eu lle ar gyfer mynd ati'n gyflym i asesu effaith ymddygiad newydd ac sy'n dod i'r amlwg ar iechyd cyhoeddus; ac 
  • adolygu neu werthuso effaith polisi neu raglenni.