Neidio i'r prif gynnwy

Blaenoriaeth 2: Hybu llesiant meddyliol a chymdeithasol

Cyflwyniad

Llesiant meddyliol a chymdeithasol yw sylfeini iechyd a llesiant gydol oes. Os yw'r penderfynyddion ehangach yn darparu'r amodau ar gyfer iechyd da, yna gellir ystyried llesiant cymdeithasol a meddyliol yn sylfeini ar gyfer pobl a chymunedau iach.

Mae llesiant meddyliol yn cwmpasu sut rydym yn meddwl, sut rydym yn deall ein hemosiynau ac emosiynau pobl eraill, sut rydym yn ffurfio perthnasoedd iach, pa mor gydnerth yr ydym, a sut rydym yn gwneud synnwyr o'n profiadau. Mae ein llesiant meddyliol yn cael ei ddylanwadu'n gryf gan yr amgylchedd  yr ydym yn byw, yn gweithio, yn chwarae ac yn dysgu ynddo. Mae blynyddoedd cynnar bywyd yn ganolog i ddatblygu'r sylfeini ar gyfer llesiant meddyliol ac maent yn cael eu dylanwadu gan ryngweithio rhwng plentyn bach a'i rieni neu ofalwyr a chan y berthynas rhwng rhieni yn y cartref. Os nad yw'r amodau yn ystod plentyndod yn ddiogel ac yn feithringar, gall pobl brodi effeithiau hirdymor o ganlyniad i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE).

Yn hanfodol, mae rhwydweithiau cymdeithasol ehangach mewn teuluoedd a chymunedau yn cyfrannu at lesiant cymdeithasol unigolion a chymunedau – mae'r ymdeimlad o berthyn a chysylltiad â chymuned a chreu rhwydweithiau sy'n ceisio cynnwys pawb yn bwysig. Mae cymunedau fel y rhain yn llai tebygol o brofi unigrwydd ac ynysigrwydd ac maent yn fwy cydnerth pan fyddant yn wynebu trallod a thrawma.

 

Trosolwg – pam mae hyn yn flaenoriaeth

Ceir tystiolaeth gynyddol bod llesiant meddyliol yn hanfodol i'n gallu i ymateb i heriau bywyd o ddydd i ddydd a sut rydym yn gofalu am ein hunain. Gall lefel uchel o lesiant meddyliol leihau effaith penderfynyddion ehangach, ond gall llesiant meddyliol isel waethygu eu heffaith. Bydd pobl sy'n mwynhau lefel uchel o lesiant meddyliol mewn sefyllfa well i gymryd camau i wella eu hiechyd a'u llesiant eu hunain a'u teulu a'r gymuned ehangach. Maent yn fwy tebygol o gymryd gwell gofal o'u hunain a chael mwy o fudd o ofal iechyd. Pan fydd llesiant meddyliol yn isel, weithiau bydd pobl yn defnyddio alcohol, cyffuriau neu fwyd fel dull ymdopi. Mae hyn yn ei dro yn cynyddu'r risg o broblemau iechyd, ac mae'r person yn llai tebygol o ofyn am gymorth neu gael mynediad at ofal ar gam cynnar.

Mae'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn casglu gwybodaeth am iechyd a llesiant plant ysgol uwchradd yng Nghymru. Mae wedi canfod dirywiad yn llesiant meddyliol plant o gymharu â'r cyfnod cyn pandemig Covid-19. I lawer o bobl, tynnodd y pandemig sylw at bwysigrwydd eu perthnasoedd ag eraill – cafodd colli cysylltiad â ffrindiau a theulu effaith negyddol ar eu llesiant meddyliol. Gwnaeth llawer o bobl bethau i helpu eu llesiant meddyliol, fel mynd am dro, treulio amser gyda'r teulu, garddio, coginio, crefftau ac ymarfer corff yn yr awyr agored. Mae gennym y potensial i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth pobl o'r camau cymharol syml y gallant eu cymryd i ddiogelu a hyrwyddo eu llesiant meddyliol, yn enwedig yn ystod cyfnod o straen.

Bydd pob un ohonom yn profi lefelau isel o lesiant meddyliol isel ar adegau gwahanol o'n bywydau – pan fyddwn yn colli un o'n hanwyliaid, yn profi perthynas yn chwalu neu golli swydd, neu yn ystod cyfnodau o afiechyd. Ond, i rai pobl a grwpiau, gall llesiant meddyliol isel fod yn hirdymor a gall hyn, ynghyd â straen cronig, gael effaith sylweddol ar eu hiechyd. Gall trawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, heb amddiffyniad a chymorth cadarnhaol, effeithio ar lesiant meddyliol pobl drwy gydol eu bywydau.

Rydym yn anifeiliaid cymdeithasol, ac mae rhyngweithio rhwng pobl yn hanfodol ar gyfer llesiant meddyliol da. Mae'r ffocws cynyddol ar unigrwydd ac ynysigrwydd mewn polisïau yn cydnabod pwysigrwydd hyn. Ond, gall perthnasoedd afiach fod yn sail i gam-drin, trais neu gamfanteisio. Dangosodd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2021/2022 fod, ar gyfartaledd, 13% o bobl yng Nghymru yn teimlo'n unig ac roedd 58% yn teimlo'n unig weithiau. Roedd y ffigurau ychydig bach yn uwch ymhlith pobl ifanc 16 i 24 oed a'r ffigurau isaf ymhlith pobl hŷn.

 

Yr hyn y mae'r flaenoriaeth hon yn ei gwmpasu

Mae'r flaenoriaeth hon yn ymwneud â gosod sylfeini iechyd a llesiant drwy gydol ein bywydau.  Er y bydd ein gwaith o dan y flaenoriaeth hon yn cyfrannu at atal afiechyd meddwl, nid yw'r flaenoriaeth hon yn ymwneud ag iechyd neu afiechyd meddwl yn unig. Yn syml, gellir diffinio llesiant meddyliol fel ‘teimlo'n dda a gweithredu'n dda’. Byddwn yn canolbwyntio ar sylfeini gwahanol llesiant meddyliol a chymdeithasol ar gyfer unigolion ac o fewn cymunedau. Bydd hyn yn cynnwys:

  • ffactorau seicolegol – fel hunan-barch, hunanhyder, hunanbenderfyniaeth, a hunandderbyn;
  • llythrennedd emosiynol – y gallu i nodi ein hemosiynau ac ymateb yn briodol iddynt;
  • perthnasoedd iach – datblygu'r sgiliau i ffurfio a chynnal perthnasoedd iach o ansawdd da gyda gydag eraill;
  • cydnerthedd – ein gallu i ymateb i heriau bywyd o ddydd i ddydd mewn ffordd nad yw'n niweidio ein hiechyd; 
  • lleihau stigma a gwahaniaethu; a
  • dull ‘cymdeithas gyfan’, lle mae unigolion, sefydliadau, cymunedau, systemau a'r gymdeithas y mae pobl yn byw ynddi yn ymwybodol o effaith trawma ac yn gallu ymateb i hyn. 
     

Oherwydd bod sylfeini'r sgiliau hyn yn aml yn cael eu gosod yn ystod plentyndod cynnar, byddwn yn adeiladu ar waith ein rhaglen 1000 Diwrnod Cyntaf i gryfhau llesiant meddyliol plant bach. Byddwn yn cefnogi rhieni a gofalwyr i greu'r amodau gorau ar gyfer datblygiad cymdeithasol ac emosiynol eu plentyn.  Bydd hyn yn cynnwys parhau i dynnu sylw at yr amodau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach sy'n rhoi'r cychwyn gorau mewn bywyd i blant a chefnogi llunwyr polisi i asesu sut y mae eu polisïau yn effeithio ar deuluoedd.

Byddwn hefyd yn parhau i helpu i ddatblygu a gweithredu dull ‘ysgol gyfan’ o ran llesiant meddyliol ac emosiynol.  Byddwn yn cefnogi sut y mae cwricwla ysgolion yn cael eu rhoi ar waith, fel y gall ein hysgolion greu cyfleoedd ac arwain drwy esiampl i feithrin hunan-barch a hunanhyder, datblygu llythrennedd emosiynol, creu ymdeimlad o berthyn a chysylltu, a chryfhau perthnasoedd iach. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar atal trais ymhlith plant a phobl ifanc. Bydd hyn yn cyfrannu at atal pob math o drais yng Nghymru, gan gyflawni'r hyn y gallwn ei ddychmygu yn unig ar hyn o bryd - Cymru heb drais Byddwn yn datblygu rhaglenni sy'n cynhyrchu ac yn rhannu tystiolaeth ar gyfer camau gweithredu effeithiol i hybu llesiant meddyliol a'r amodau mewn cymunedau sy'n cefnogi llesiant cymdeithasol.

Byddwn yn cefnogi cyflogwyr i hybu llesiant meddyliol da ac annog ymdeimlad o berthyn a rhwydweithiau cymdeithasol cynhwysol. Byddwn yn parhau â'n gwaith gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i ychwanegu at y wybodaeth a'r sgiliau sy'n helpu i hybu llesiant meddyliol fel rhan sylfaenol o'r holl ymyriadau gofal iechyd. Byddwn yn parhau â'n gwaith i gadw at isafswm y niwed hirdymor sy'n deillio o drallod a thrawma ar unrhyw adeg yn ein bywydau. Rydym yn ymrwymedig i helpu i gyflawni'r rhaglen waith hon, a fydd yn helpu Cymru i ddod yn genedl sy'n annog pawb i beidio â beirniadu, a bod yn garedig ac yn drugarog. 

Mae cyflymder newid o ran technoleg wedi bod yn gyflym dros y blynyddoedd diwethaf ac mae wedi trawsnewid sut rydym yn cyfathrebu ac yn rhyngweithio â'n gilydd. Bydd ein gwaith hefyd yn cydnabod yr angen i fod yn gydnerth yn feddyliol ar-lein. Byddwn yn ymgorffori'r dull hwn ar draws ein cynlluniau gwaith.

Yn olaf, byddwn yn parhau â'n gwaith sy'n defnyddio asesiadau effaith llesiant meddyliol er mwyn helpu i greu'r amodau gorau ar gyfer iechyd meddwl da. Gan weithio gydag eraill, byddwn hefyd yn ceisio ychwanegu at y dystiolaeth ar gyfer camau gweithredu effeithiol a sicrhau y gallwn fonitro newid a gwerthuso camau gweithredu.

 
​​​​​​​Amcanion

Erbyn 2035, byddwn wedi:

  • gweithio gydag eraill i leihau anghydraddoldebau o ran llesiant meddyliol a chymdeithasol;
  • casglu, dehongli a rhannu tystiolaeth ar gyfer camau gweithredu effeithiol i gynorthwyo'r gwaith o ddatblygu polisi, deddfwriaeth a chamau gweithredu i hybu llesiant meddyliol a chymdeithasol a lleihau anghydraddoldebau;
  • helpu i leihau effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a mathau eraill o drawma;
  • cefnogi camau gweithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth i hybu a diogelu llesiant meddyliol, gan gynnwys mewn addysg, yn y gwaith ac mewn cymunedau;
  • cefnogi'r system ehangach i adolygu neu werthuso polisi neu raglenni am eu heffaith ar lesiant meddyliol a chymdeithasol ac anghydraddoldebau drwy gydol bywydau pobl;
  • datblygu partneriaethau cryf a phwrpasol a fydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl wella eu llesiant meddyliol drwy gymryd rhan yn y pethau sy'n eu cadw'n feddyliol iach; a
  • gweithio gyda phartneriaid a rhieni i helpu plant i gyflawni'r datblygiad cymdeithasol ac emosiynol gorau.