Mae pawb yng Nghymru yn haeddu'r cyfle i gael iechyd da. Ond, yn rhy aml mae pobl yn mynd yn sâl neu'n marw yn rhy gynnar am nad oes ganddynt y ffactorau hanfodol sydd eu hangen arnynt ar gyfer iechyd da. Mae'r rhain yn cynnwys addysg a sgiliau, cartref diogel a chynnes, gwaith teg (lle mae gweithwyr yn cael eu gwobrwyo'n deg, eu clywed a'u cynrychioli, yn ddiogel ac yn gallu datblygu mewn amgylchedd iach, cynhwysol lle mae eu hawliau'n cael eu parchu), arian ac adnoddau, mynediad at drafnidiaeth fforddiadwy a chynaliadwy, ac amgylchedd ffisegol iach. Mae'r ffactorau hyn, neu'r ‘penderfynyddion iechyd’, yn effeithio arnom o'n profiadau cynharaf a thrwy gydol ein hoes.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ein galluogi i weithio gydag eraill er mwyn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Byddwn yn dod â'n harbenigedd a thystiolaeth iechyd cyhoeddus, gan weithio ar sawl lefel i ddylanwadu ar y penderfynyddion hyn a chynyddu cyfleoedd ar gyfer cyfle teg am iechyd da. Nid yw hyn erioed wedi bod yn bwysicach. Mae pandemig Covid-19 wedi dangos sut y mae'r penderfynyddion hyn yn effeithio ar ein holl ymdrechion i wella a diogelu iechyd. Ar hyn o bryd, mae'r argyfwng costau byw yn effeithio'n anghymesur ar iechyd ein cymunedau mwyaf difreintiedig, gan gynyddu effaith tlodi ar gymunedau yng Nghymru.
Mae'r penderfynyddion ehangach, a elwir yn aml yn ‘achosion yr achosion’, yn effeithio ar ganlyniadau iechyd yng Nghymru. Mae profiadau gwahanol o'r achosion hyn yn arwain at wahaniaethau o ran canlyniadau iechyd, neu anghydraddoldebau iechyd, sydd yn eu tro'n gyfrifol am afiechyd a nifer mawr o gyfanswm y marwolaethau cynnar. Gall pobl o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru ddisgwyl colli dros ddegawd o fywyd mewn iechyd da o gymharu â'r rhai o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig (13 blynedd i ddynion ac 17 i fenywod). Mae'r gwahaniaethau annheg hyn yn parhau ar draws cenedlaethau.
Gallwn lywio camau gweithredu ar y penderfynyddion hyn, eirioli amdanynt a pharatoi camau gweithredu ar eu cyfer yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Fel sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol dibynadwy, gallwn gefnogi dull ‘iechyd ym mhob polisi’, gan lywio polisïau a sut y maent yn cael eu rhoi ar waith a dylanwadu arnynt.
Rydym mewn safle unigryw i ddod â safbwynt iechyd cyhoeddus i feysydd o bolisi cenedlaethol Cymru sy'n ymwneud ag iechyd a llesiant, fel tai, addysg, cynllunio, trafnidiaeth, datblygu economaidd a gwariant y llywodraeth. Gallwn gysylltu partneriaid a pholisïau i ddangos sut y gallant gyfrannu at wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Gall y dull ar y cyd hwn a'n harbenigedd hefyd gefnogi'r system ehangach, gan gynnwys byrddau iechyd ac awdurdodau lleol ledled Cymru. Gallwn weithio gydag asiantaethau i ddylanwadu ar bolisïau y tu allan i Gymru lle y bo'n briodol, gan gynnwys wrth ystyried y ffactorau masnachol sy'n effeithio ar iechyd.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn dweud bod yn rhaid i ni weithio i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol drwy gyfrannu at bob un o saith nod llesiant y Ddeddf. Mae'r nodau hyn yn debyg i'r penderfynyddion ehangach iechyd, gan eu bod yn canolbwyntio ar y ffactorau sy'n cyfrannu at iechyd a llesiant da nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Hefyd, o dan Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol 2021, rhaid i ni ystyried anghydraddoldebau sy'n deillio o anfantais gymdeithasol ac economaidd. Mae cymryd camau gweithredu ar benderfynyddion ehangach iechyd hefyd yn cyfrannu at ddyletswyddau'r DU o dan Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.
O dreftadaeth ôl-ddiwydiannol Cymru, drwy gyni, effaith pandemig Covid-19, a'r argyfwng costau byw, bydd effeithiau penderfynyddion yng Nghymru yn parhau i'r dyfodol, mewn ffyrdd y gallwn eu rhagweld a ffyrdd na allwn eu rhagweld.
Mae'r prif benderfynyddion ehangach iechyd yn cynnwys:
Nid yw penderfynyddion ehangach yn ymwneud â'n hamodau byw yn unig, ond maent hefyd yn cynnwys pethau sy'n effeithio ar yr amodau hyn, fel grymoedd economaidd a masnachol, blaenoriaethau gwleidyddol a dosbarthiad anghyfartal incwm, cyfoeth a phŵer. Gelwir y rhain yn achosion sylfaenol hefyd. Mae'r berthynas rhwng iechyd a'r penderfynyddion hyn yn gweithredu'r ddwy ffordd, oherwydd gall iechyd a salwch effeithio ar ein llesiant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Er enghraifft, pan fyddwn yn iach, rydym mewn sefyllfa well i ddysgu neu gymryd rhan mewn gwaith teg.
Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid, gan ddefnyddio tystiolaeth ac arbenigedd i lywio, eirioli am gamau gweithredu a pharatoi ar gyfer hyn er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd a gwella iechyd a llesiant pobl drwy gydol eu bywydau. Byddwn yn defnyddio tystiolaeth o sawl ffynhonnell er mwyn gwneud hyn, yn amrywio o brofiadau cymunedol i fonitro penderfynyddion allweddol, hyd at ymchwil ryngwladol.
Byddwn yn ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth hon drwy gynghori ac arwain ar ymchwil a gwerthuso sy'n ymwneud â'r penderfynyddion ehangach.
Byddwn yn trefnu camau gweithredu ar benderfynyddion ac yn datblygu dealltwriaeth a rennir o sut y gallwn effeithio ar sectorau a meysydd polisi gwahanol sy'n dibynnu ar ei gilydd. Bydd ein hymdrechion yn dibynnu ar y dystiolaeth sydd gennym o bwysigrwydd y penderfynyddion hyn ar gyfer iechyd pobl, yn ogystal â'n gallu unigryw i ddylanwadu arnynt.
Erbyn 2035: