Mae gan 75 y cant o gyflogeion sector cyhoeddus Cymru a holwyd ymwybyddiaeth dda o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE). Fodd bynnag, dim ond 36 y cant sy'n teimlo'n hyderus yn eu gwybodaeth a'u sgiliau i helpu i atal ACE yn eu rôl.
Mae pobl dros 60 oed yng Nghymru ar-lein ac yn cymryd rhan weithredol yn y cyfryngau cymdeithasol, sydd â'r potensial i fod yn offeryn pwysig i iechyd y cyhoedd.
Mae strategaeth Ymchwil a Gwerthuso newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlygu ein hymrwymiad i ymgorffori ymchwil a gwerthuso ar draws y sefydliad, gan ein galluogi i feithrin y wybodaeth sydd ei hangen i wella iechyd a llesiant ledled Cymru (Blaenoriaeth Strategol 7).
Mae angen gwneud mwy i ddiogelu rhag effaith niweidiol bosibl Brexit ar iechyd a lles cymunedau ffermio yng Nghymru, ac i herio'r stigma sy'n gysylltiedig â cheisio cymorth, yn ôl adroddiad newydd.
Mae astudiaeth newydd, a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw yn rhoi tystiolaeth or effaith negyddol y mae cyfrifoldebau gofalu yn ei chael ar gymryd rhan mewn addysg ymhlith y rhai 16 i 22 oed
Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at yr angen i wasanaethau gofal iechyd gofnodi a rhannu gwybodaeth am statws tai cleifion, er mwyn gallu nodi, deall a chefnogi eu hanghenion gofal iechyd yn well.
Mae cyfran y bobl yng Nghymru a ddefnyddiodd y rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol i reoli eu hiechyd bron â dyblu o 25 y cant yn 2019/20 i 46 y cant yn 2020/21, yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae ymchwil newydd yn awgrymu y gallai harneisior ymchwydd mewn gweithredu a arweinir gan y gymuned yn ystod yr ymateb pandemig, fod yn allweddol i adeiladu cymunedau mwy gwydn ledled Cymru.
Mae Labordy Data Rhwydweithiol Cymru (NDL Cymru) wedi dangos potensial data cysylltiedig, drwy ddod â data ynghyd o bob rhan o'r system gofal argyfwng i ddeall iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru yn well.
Mae canfyddiadau o adroddiad newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at effaith andwyol pandemig y Coronafeirws ar iechyd meddwl a llesiant nyrsys a bydwragedd yng Nghymru.