Neidio i'r prif gynnwy

Mae cau'r bwlch ymgysylltu ag addysg i ofalwyr ifanc yn allweddol i wella iechyd a llesiant cenedlaethol dyfodol

Cyhoeddwyd: 1 Medi 2021

Mae astudiaeth newydd, a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw yn rhoi tystiolaeth o’r effaith negyddol y mae cyfrifoldebau gofalu yn ei chael ar gymryd rhan mewn addysg ymhlith y rhai 16 i 22 oed, a sut y mae hyn yn cael yr effaith fwyaf ar y rhai sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Mae’r ymchwil yn dwyn ynghyd ddata Arolwg Cenedlaethol Cymru dros dair blynedd a chanfu'r canlynol: 

Mae gan un o bob pump o bobl ifanc 16 – 22 oed yng Nghymru gyfrifoldebau gofalu  

Mae dynion a menywod yn y grŵp oedran hwn yr un mor yn debygol o fod yn ofalwyr ifanc 

Ar y cyfan, mae cyfran y bobl ifanc mewn addysg amser llawn yn is ymhlith gofalwyr ifanc (45 y cant ymhlith gofalwyr, o gymharu â 54 y cant ymhlith y rhai nad ydynt yn ofalwyr), ac mae’r gwahaniaeth hwn yn fwy yn y rhai sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig. 

Un canfyddiad newydd yn yr astudiaeth hon yw'r dystiolaeth newydd i awgrymu bod y gwahaniaeth hwn yn y grwpiau oedran hŷn (19 i 22 oed) yn bennaf, lle mae'r gyfran mewn addysg drydyddol amser llawn 10 y cant yn llai ymhlith gofalwyr.  Mae’r cyfranogiad isaf ymhlith y rhai â chyfrifoldebau gofalu sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig lle mae dim ond 19 y cant sy'n parhau mewn addysg drydyddol amser llawn.    

Meddai  Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Datblygu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r astudiaeth hon yn rhoi tystiolaeth feintiol werthfawr ar effaith negyddol cyfrifoldebau gofalu ar gyfranogiad pobl ifanc mewn addysg, a sut y mae hyn yn uwch ymhlith y rhai sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Yn ddiddorol, roedd un o’r gwahaniaethau mwyaf ymhlith y rhai 19-22 oed, beth bynnag oedd eu lefelau amddifadedd sylfaenol, ac mae hyn yn tynnu sylw at yr angen i gefnogi pobl ifanc ar draws sectorau addysg.  

Mae addysg yn allweddol i lwyddiant a chyfleoedd bywyd pobl ifanc yn y dyfodol. Mae dulliau fel nodi gofalwyr ifanc, galluogi cymorth cynnar lle mae ei angen a darparu mwy o gymorth mewn lleoliadau addysgol, yn cynnwys y potensial i alluogi pobl ifanc i aros a ffynnu mewn addysg, tra’n parhau i gyflawni eu cyfrifoldebau gofalu.” 

Meddai Fangzhou Huang, Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe: “Mewn astudiaethau eraill myfyriodd gofalwyr ifanc ar y ffaith bod eu dewisiadau addysgol yn cael eu cyfyngu gan gyfrifoldebau gofalu. Dangosodd y dystiolaeth gyfranogiad is o lawer mewn addysg drydyddol ymhlith gofalwyr ifanc. Dylai lleoliadau addysgol, mewn partneriaeth ar draws sectorau, roi cymorth cymdeithasol ac academaidd i ddiwallu anghenion gofalwyr ifanc a chodi eu dyheadau addysgol i gyflawni eu potensial mewn addysg.” 

Meddai Simon Hatch, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru: “Rydym yn croesawu cyhoeddiad heddiw yn gryf sy'n gwneud cyfraniad defnyddiol at ein dealltwriaeth o'r rhyngberthynas rhwng gofalwyr ifanc, tlodi ac addysg. 

Mae'r canfyddiadau yn y ffeithlun hwn yn helpu i fynd i'r afael â rhai bylchau gwybodaeth allweddol yn ein dealltwriaeth o ymgysylltu addysgol gofalwyr ifanc. Mae'r ffeithlun yn rhoi tystiolaeth gref y gellir gwneud mwy ac y dylid gwneud mwy i sicrhau bod yr holl ofalwyr ifanc yn cael y cymorth cywir i’w galluogi i gymryd rhan mewn addysg.  

Ers amser maith, mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a'n partneriaid wedi disgrifio’r cysylltiad rhwng gofalu a pheidio â bod mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant. Gobeithiwn y bydd y dystiolaeth amserol hon yn helpu i lunio camau gweithredu sy’n canolbwyntio ar addysg i ofalwyr ifanc o fewn Cynllun Cyflawni Strategaeth Gofalwyr Llywodraeth Cymru a gyhoeddir yn fuan.  

Mae ‘Cau’r bwlch ymgysylltu addysgol i ofalwyr ifanc’ yn astudiaeth ar y cyd rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe, a gyllidwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.