Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyfran y bobl sy'n defnyddio'r rhyngrwyd yn aml i reoli eu hiechyd bron â dyblu

Cyhoeddwyd: 12 Ebrill 2023

Mae cyfran y bobl yng Nghymru a ddefnyddiodd y rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol i reoli eu hiechyd bron â dyblu o 25 y cant yn 2019/20 i 46 y cant yn 2020/21, yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Ymhlith y rhai sydd â mynediad at y rhyngrwyd, pobl iau, a'r rhai â chyflyrau meddygol hirdymor, oedd fwyaf tebygol o fod yn ddefnyddwyr mynych technoleg ar gyfer iechyd. Mae mwy na hanner (53 y cant) hefyd am wneud mwy o ddefnydd o'r rhyngrwyd i reoli eu hiechyd yn y dyfodol - yn bennaf ymhlith y grwpiau oedran 30-54 oed. 

Gofynnodd yr arolwg hwn sy'n gynrychiadol yn genedlaethol i bobl yng Nghymru yn ystod gaeaf 2021-22 am eu mynediad at y rhyngrwyd a'u defnydd o dechnoleg i wneud y gweithgareddau canlynol: 

  • Olrhain ymddygiad iach – fel cyfrifwyr camau, dilynyddion deiet neu gofnodi symptomau iechyd 
  • Dod o hyd i wybodaeth am iechyd – er enghraifft am symptomau, cyflyrau iechyd a gwasanaethau iechyd 
  • Gofyn am apwyntiad iechyd neu bresgripsiwn 
  • Cael gofal clinigol fel apwyntiadau gan feddyg teulu 
  • Gweithgarwch Covid-19 – fel olrhain symptomau, trefnu brechiad, neu gydymffurfio â gofynion Profi, Olrhain, Diogelu. 

Ar y cyfan, parhaodd cyfran y bobl heb fynediad at y rhyngrwyd gartref i ostwng, i chwech y cant o'r boblogaeth yng Nghymru yn 2020/21. Nid oedd tystiolaeth bod hyn o ganlyniad i'r pandemig, gyda llai nag un y cant yn dweud eu bod wedi cael mynediad newydd at y rhyngrwyd dros y cyfnod hwn.   Mae allgáu digidol pwysig yn parhau, gyda chyfran uwch o'r rhai sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn llai tebygol o fod ar-lein (wyth y cant o gymharu â dau y cant yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig). 

Ymhlith y rhai ar-lein, canfu ymchwilwyr, fel y gellid disgwyl, fod gweithgarwch Covid-19 wedi'u cwblhau'n fwyaf cyffredin ar-lein ar yr adeg hon, ond cael gofal clinigol oedd yn cael ei gynnal leiaf aml ar y rhyngrwyd.  Pan ofynnwyd iddynt fyfyrio ar y dyfodol, roedd y meysydd twf mwyaf ym maes trefnu apwyntiadau iechyd neu archebu presgripsiynau; ac wrth hunanreoli iechyd. Y maes â'r twf lleiaf oedd cael gofal clinigol ar-lein.  

Meddai Dr Diana Bright, Uwch-ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Yn amlwg, cafodd pandemig Covid-19 effaith uniongyrchol ar sawl agwedd ar ein bywydau, gyda llawer o weithgareddau'n trosglwyddo ar-lein yn gyflym iawn. Mae'r astudiaeth hon yn dangos nad oedd hyn wedi gwthio pobl ar-lein, ond ymhlith y rhai a oedd eisoes ar-lein roedd twf amlwg yn y defnydd o'r rhyngrwyd a thechnoleg i gefnogi iechyd.  

“Efallai fod hyn wedi adlewyrchu cyd-destun y pandemig, ond yn ddiddorol roedd diddordeb brwd yn y defnydd o dechnoleg ddigidol ar gyfer iechyd i'r dyfodol. Mae angen i ni ystyried dewisiadau'r cyhoedd wrth ddatblygu iechyd digidol - oherwydd y gall rhai gwasanaethau gael eu derbyn yn well nag eraill (e.e. archebu presgripsiynau a threfnu apwyntiadau, yn hytrach na gofal clinigol). 

Meddai'r Athro Alisha Davies:

“Mae'r adroddiad hwn yn adeiladu ar gyfres o arolygon poblogaeth ar allgáu digidol yng Nghymru a bydd y canfyddiadau'n parhau i gynorthwyo'r gwaith o ddatblygu trawsnewid digidol ar gyfer iechyd, tra hefyd yn sicrhau bod gan y rhai nad ydynt ar-lein, neu nad ydynt yn dewis ymgysylltu ag iechyd drwy dechnoleg yn cael mynediad at yr un gofal.” 

Meddai Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru,

“Rydym yn croesawu’r adroddiad hwn gan aelod o'r Gynghrair, Iechyd Cyhoeddus Cymru.  Mae prif-ffrydio cynhwysiant digidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth allweddol yn agenda CCDC ar gyfer cynhwysiant digidol: Bydd O Gynhwysiant i Wydnwch a'r data yn yr adroddiad hwn yn helpu ein haelodau i dargedu ymyriadau cynhwysiant digidol yn effeithiol.  Mae digideiddio gwasanaethau iechyd a gofal yn creu'r risg o adael y rhai sydd â'r angen mwyaf am ofal ar ei hôl hi yn sgil allgáu digidol – rhaid i ni sicrhau bod pobl yn meddu ar y sgiliau a'r mynediad sydd eu hangen arnynt i reoli eu hiechyd ar-lein.”  

Gellir lawrlwytho'r adroddiad yma.