Neidio i'r prif gynnwy

Mae angen i anghenion iechyd a lles ffermwyr fod yn ganolog i'r ymateb i Brexit – adroddiad newydd

Mae angen gwneud mwy i ddiogelu rhag effaith niweidiol bosibl Brexit ar iechyd a lles cymunedau ffermio yng Nghymru, ac i herio'r stigma sy'n gysylltiedig â cheisio cymorth, yn ôl adroddiad newydd.

Mae’r adroddiad, a gyd-ysgrifennwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Sefydliad Iechyd Meddwl, yn rhoi cipolwg gonest ar y pryderon sydd gan ffermwyr a sefydliadau ffermio am effeithiau posibl Brexit ar iechyd a lles yn eu cymunedau, yn ogystal â'r heriau ehangach y mae'r sector yn eu hwynebu.

Mae ffermwyr a sefydliadau ffermio yn siarad yn agored am eu pryderon ynghylch hyfywedd ffermio fel busnes, pwysau ariannol, beichiau rheoliadol a gweinyddol, anawsterau o ran cynllunio olyniaeth, arwahanrwydd ac unigedd, a diwylliant ffermio sy'n gallu bod yn rhwystr o ran ceisio cyngor a chymorth gan eraill.

Mae'r adroddiad yn dweud bod angen mwy o weithredu i atal ansicrwydd rhag digwydd yn y lle cyntaf, i ddiogelu rhag yr effaith negyddol ar les meddyliol, a hyrwyddo iechyd a lles yn y gymuned ffermio. 

Mae’n argymell gweithgaredd i leihau swm y rheoliadau gweinyddol, cydgynhyrchu a chynnwys y gymuned ffermio, wrth ddatblygu gweledigaeth hyfyw ar gyfer dyfodol ffermio yng Nghymru, a sicrhau nad yw cymunedau gwledig yn cael eu gadael ar ôl o ran cael mynediad i dechnegol ddigidol a'i defnyddio i gefnogi eu hiechyd. 

Meddai Mr Jack Evershed, ffermwr a chadeirydd Iechyd a Gofal Gwledig Cymru:

“Fel cymuned ffermio mae gennym draddodiad cryf o roi cymorth ffisegol ymarferol i'n cymdogion fel rhoi help llaw neu fenthyg tractor pan welwn fod angen y cymorth hwnnw arnynt.

“Byddai’n wych pe gallem fod yr un mor fedrus a chymwys wrth nodi problemau emosiynol neu seicolegol a gwybod beth yw'r ymateb priodol. Gobeithio y bydd yr ymchwil hon yn nodi sut y gellir cefnogi'r gymuned ffermio i gyflawni hyn.”

Meddai Dr Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Datblygu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Am genedlaethau mae ein cymunedau ffermio a gwledig wedi ymateb i galedi drwy ddefnyddio eu cryfderau sylweddol eu hunain. Fodd bynnag, yn aml nid yw'r ffocws ar eu hiechyd a'u lles yn cael blaenoriaeth.

“Er bod Brexit yn bryder, mae ein hadroddiad newydd yn tynnu sylw at y ffaith bod llawer o heriau eraill ym myd ffermio heddiw, a'r adfyd hwn sy'n cronni sy'n rhoi pwysau gormodol ar ffermwyr a'u teuluoedd. Mae angen i ni weithio gyda chymunedau ffermio i gydlynu cymorth yn well, integreiddio iechyd, ac annog mynediad cynnar i gymorth pan fo angen.”

Meddai Dr Antonis Kousoulis, Cyfarwyddwr Sefydliad Iechyd Meddwl Cymru a Lloegr: 

“Daw ein hymchwil ar adeg bwysig, pan fo ansicrwydd ariannol a phwysau teuluol yn cyrraedd uchafbwynt i ffermwyr yng Nghymru.  Mae'n ein hatgoffa'n glir bod y cynlluniau cenedlaethol weithiau'n esgeuluso'r effaith ar iechyd meddwl ar gyfer gweithwyr proffesiynol a chymunedau sy'n wynebu gwendidau.  Ond mae hefyd yn rhoi tystiolaeth newydd ar sut y gallwn atal problemau iechyd pwysig i ffermwyr a'u teuluoedd, a sut y gallwn weithredu cynlluniau i wella lles a fydd yn cael effeithiau cadarnhaol ehangach ar fusnes a chydnerthedd.”

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar gamau gweithredu ar draws tri maes allweddol: 

  • Atal ansicrwydd a lleihau'r heriau 
  • Diogelu rhag yr effaith bosibl ar iechyd meddwl a lles
  • Hyrwyddo iechyd meddwl a lles ymhlith y gymuned ffermio i gynorthwyo cydnerthedd mewn cyfnodau o adfyd

Mae hefyd yn amlinellu atebion arfaethedig, wedi'u llywio a'u cydgynhyrchu gan sefydliadau sy'n gweithio gyda ffermwyr a'r gymuned ffermio, gan ganolbwyntio ar yr angen am well ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael, gan weithio ar draws sefydliadau i gydnabod straen a phryder, ac ar gyfer atebion a arweinir gan ffermwyr, rhwng cymheiriaid.

Er enghraifft, gallai amharodrwydd ffermwyr i ymgysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol gael ei reoli drwy ddarparu cymorth drwy weithwyr proffesiynol nad ydynt yn rhai iechyd, gyda dealltwriaeth dda o'r cyd-destun ffermio, fel aelodau eraill o'r gymuned ffermio, milfeddygon ac asiantaethau amaethyddol eraill.

Daw'r adroddiad i'r casgliad ei bod yn hanfodol, ochr yn ochr â chamau gweithredu i atal ansicrwydd y mae'r sector ffermio yn ei wynebu, canolbwyntio ar iechyd meddwl a lles ffermwyr a'u teuluoedd er mwyn creu sector ffermio gwydn yng Nghymru.

Dadlwythwch: Cefnogi cymunedau ffermio yn ystod cyfnodau o ansicrwydd