Neidio i'r prif gynnwy

Mae iechyd meddwl a llesiant yn flaenoriaeth i'r proffesiwn nyrsio a bydwreigiaeth

 

Cyhoeddwyd: 28 Gorffennaf 2022

Mae canfyddiadau o adroddiad newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at effaith andwyol pandemig y Coronafeirws ar iechyd meddwl a llesiant nyrsys a bydwragedd yng Nghymru. 

Gwnaeth 2,880 o nyrsys, bydwragedd a gweithwyr cymorth gofal iechyd ledled Cymru ymateb i arolwg ar-lein yn 2021, gan rannu eu myfyrdodau ar effaith y pandemig ar eu hiechyd a'u llesiant.  

Ymhlith y canfyddiadau allweddol mae:

  • Roedd 70 y cant o ymatebwyr o'r farn bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu ers dechrau'r pandemig.
  • Roedd gan 50 y cant o'r ymatebwyr sgoriau llesiant meddwl o naill ai iselder clinigol tebygol (31 y cant) neu iselder ysgafn posibl (27 y cant). 
  • Ar ôl ystyried oedran a rhywedd, roedd gweithwyr cymorth gofal iechyd ddwywaith yn fwy tebygol o nodi sgoriau sy'n dangos iselder clinigol tebygol nag uwch nyrsys rheoli. 
  • Roedd mynychu'r gwaith pan oeddent yn sâl (presenoliaeth) yn gyffredin. Ar y cyfan, roedd 80 y cant o ymatebwyr wedi mynd i'r gwaith o leiaf unwaith yn y flwyddyn ddiwethaf pan oeddent yn sâl; 

o    Straen, pryder ac iselder, a chyflyrau cyhyrsgerbydol oedd y prif resymau a nodwyd dros fynd i'r gwaith pan oeddent yn sâl.
o    Nyrsys newydd gymhwyso, nyrsys canol gyrfa a gweithwyr cymorth gofal iechyd oedd y grwpiau proffesiynol a ddywedodd eu bod yn mynychu'r gwaith yn aml pan oeddent yn sâl.

  • Roedd bron 60 y cant o'r ymatebwyr wedi ystyried gadael y proffesiwn ers dechrau'r pandemig. Roedd hyn ar ei uchaf ymhlith nyrsys ar ddechrau eu gyrfa (67 y cant) a nyrsys canol gyrfa (62 y cant). 

Meddai Benjamin Gray, Uwch-ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac awdur arweiniol yr adroddiad: 

“Dyma un o'r arolygon mwyaf ymhlith gweithlu allweddol yn GIG Cymru – a diolch i bawb a gymerodd ran. Er ein bod yn cydnabod efallai nad yw'r rhai a ymatebodd yn cynrychioli'r proffesiwn ehangach, mae'r canfyddiadau'n gyson â thystiolaeth ehangach o bob rhan o'r DU. Mae angen deall effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol tymor hwy ymateb i COVID-19 ar iechyd corfforol a meddyliol er mwyn cyfeirio cymorth.”  
Meddai Rhiannon Beaumont Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd, Nyrsio a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol Perthynol, Tîm Gweithredol, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae'r lefelau iechyd meddwl gwael a nodwyd ymhlith y gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth yn bryder, yng nghyd-destun yr ymateb COVID-19 presennol ac ar iechyd a llesiant y gweithlu yn ehangach, a allai yn ei dro effeithio ar recriwtio a chadw yn y tymor hwy.  Felly, dylai iechyd meddwl barhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer unrhyw strategaethau iechyd a llesiant y gweithlu.”
Meddai Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru:

“Mae sicrhau bod gennym gynnig iechyd a llesiant wedi'i dargedu a chyson i'n gweithlu yng Nghymru yn hanfodol bwysig. Rwyf am i'r holl staff deimlo eu bod wedi'u grymuso i ofyn am help a chymorth i'w hunain ac i'w gilydd yn ôl yr angen. Rydym yn cydnabod bod sefydliadau sy'n blaenoriaethu llesiant staff yn gweld lefelau uwch o foddhad staff a chleifion yn ogystal â gallu cadw'r gweithlu sydd ei angen yn well i fodloni gofynion gwasanaeth ar gyfer nawr a gofynion yn y dyfodol. Diolch i Iechyd Cyhoeddus Cymru am gynnal yr arolwg gwerthfawr hwn.”

Cafodd ‘Iechyd a llesiant y gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru yn ystod pandemig COVID-19’ ei baratoi gan ddefnyddio 2,880 o ymatebion i arolwg ar-lein cenedlaethol ymhlith nyrsys/bydwragedd a gweithwyr cymorth gofal iechyd cofrestredig a myfyrwyr yng Nghymru. Wrth ystyried pwysau gwasanaeth. Roedd yr arolwg ar agor rhwng 21 Mehefin a 9 Awst 2021 ac ar adeg pan oedd pwysau Coronafeirws ar y GIG ar ei isaf mewn 12 mis ac roedd Cymru yn dechrau symud i gam rhybudd un.

Gwnaeth yr holiadur goladu data ar ddemograffeg, gwybodaeth sy'n gysylltiedig â gwaith (rôl, cyflog a ffactorau amgylcheddol) ac iechyd a llesiant gan ymatebwyr.