Neidio i'r prif gynnwy

Mae cofnodi a rhannu data yn well yn hanfodol er mwyn diwallu anghenion gofal iechyd y rhai sy'n profi digartrefedd

Cyhoeddwyd: 7 Hydref 2021 

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at yr angen i wasanaethau gofal iechyd gofnodi a rhannu gwybodaeth am statws tai cleifion, er mwyn gallu nodi, deall a chefnogi eu hanghenion gofal iechyd yn well.

Mae argaeledd tai diogel ac o ansawdd yn un o'r penderfynyddion iechyd allweddol, ond nid yw statws tai unigolyn yn cael ei gasglu'n rheolaidd gan wasanaethau gofal iechyd. 

Gan ddefnyddio dull newydd o ddod â gwybodaeth am statws tai ynghyd ar draws gwasanaethau, mae'r adroddiad hwn yn amcangyfrif bod dros 15,000 o unigolion â phrofiad byw o ddigartrefedd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys bron 2,000 o unigolion y cofnodwyd eu bod yn ddigartref yn ystod pandemig y Coronafeirws.  

Drwy gysylltu data, llwyddodd y tîm i greu darlun mwy cynhwysfawr o iechyd ymhlith y boblogaeth hon, er bod statws tai yn cael ei gofnodi'n anghyson ar draws gwasanaethau.

Dyma'r canfyddiadau allweddol;   

  • O’r boblogaeth â phrofiad byw o ddigartrefedd, roedd 69 y cant yn ddynion ac roedd 86 y cant yn iau na 55 oed 
  • Roedd 13 y cant o unigolion â phrofiad byw o ddigartrefedd yn rheoli dau neu fwy o gyflyrau iechyd hirdymor mewn lleoliadau gofal eilaidd, o gymharu â dim ond 3 y cant yn y grŵp cymharu poblogaeth  
  • Y tri phrif gyflwr hirdymor a reolir mewn lleoliadau gofal iechyd eilaidd ar gyfer unigolion â phrofiad byw o ddigartrefedd yw dibyniaeth ar alcohol, iselder a dibyniaeth ar gyffuriau, beth bynnag fo'u hymwneud â gwasanaethau camddefnyddio sylweddau  
  • Roedd y defnydd o ofal iechyd yn uwch ymhlith y rhai a oedd yn profi digartrefedd yn ystod y pandemig, sy'n debygol o adlewyrchu eu hanghenion iechyd cynyddol.  
  • Roedd presenoldeb yn y gwasanaethau brys yn 562 o dderbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys fesul 1000 o'r boblogaeth yn y rhai â phrofiad byw ddigartrefedd, o gymharu ag 83 yn y grŵp cymharu ar gyfer y boblogaeth gyffredinol yn ystod 2020 
  • Roedd 50 y cant o unigolion a oedd yn profi digartrefedd presennol wedi cael gafael ar o leiaf un gwasanaeth gofal iechyd eilaidd, o gymharu ag 20 y cant yn y grŵp cymharu ar gyfer y boblogaeth gyffredinol yn ystod y pandemig. 
  • Er bod niferoedd tebyg wedi profi'n bositif ar gyfer Coronafeirws yn y rhai a brofodd ddigartrefedd presennol yn ystod y pandemig a'r grŵp cymharu ar gyfer y boblogaeth gyffredinol, roedd y digartref yn fwy tebygol o gael eu derbyn i'r ysbyty a marw gyda'r feirws. 

Meddai Jiao Song, Prif Ystadegydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'r astudiaeth hefyd yn tynnu sylw at yr anghysondeb o ran cofnodi statws tai mewn data iechyd. Ymhlith y rhai a nodwyd fel rhai digartref mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, roedd 78 y cant wedi mynd i un o gyfleusterau arall y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) o fewn mis, ond dim ond 3 y cant a gafodd eu statws tai wedi'i gofnodi yn y gwasanaethau eraill er bod digartrefedd yn effeithio ar driniaeth a gofal effeithiol.  

“Drwy ddod â'r setiau data hyn at ei gilydd gallwn roi cipolwg gwerthfawr ar iechyd y rhai sy'n ddigartref ar hyn o bryd, a hefyd y rhai sydd â phrofiad blaenorol o ddigartrefedd.  Mae hyn yn dangos y berthynas tymor hwy rhwng tai ac iechyd i rai unigolion.” 

Meddai Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Datblygu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:  

“Un o gryfderau allweddol yr astudiaeth hon yw'r gallu i nodi'r boblogaeth â phrofiad byw o ddigartrefedd ar draws Cymru gan ddefnyddio data rheolaidd. Yna gallwn gymhwyso'r dull hwnnw i wella ein dealltwriaeth o ysgogwyr anghydraddoldebau mewn iechyd yn y boblogaeth hon a gwerthuso effaith dulliau polisi a gwasanaeth i nodi anghenion iechyd a mynd i'r afael â nhw.”  

Meddai Ruth Power, Prif Swyddog Gweithredol Shelter Cymru: 

‘Rydym yn croesawu’r adroddiad hwn sy'n dangos y materion iechyd ychwanegol sylweddol sy'n gysylltiedig â digartrefedd a thai annigonol. Mae’r data'n atgyfnerthu ein profiad o roi cyngor ar dai i bobl ledled Cymru - mae tai o ansawdd uchel, fforddiadwy yn hanfodol i iechyd a llesiant da.’ 

Dogfennau


Iechyd unigolion sydd â phrofiad personol o ddigartrefedld yng Nghymru, yn ystod y pandemig COVID-19 Adroddiad