Neidio i'r prif gynnwy

Lansio strategaeth ymchwil a gwerthuso newydd

Mae strategaeth Ymchwil a Gwerthuso newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlygu ein hymrwymiad i ymgorffori ymchwil a gwerthuso ar draws y sefydliad, gan ein galluogi i feithrin y wybodaeth sydd ei hangen i wella iechyd a llesiant ledled Cymru (Blaenoriaeth Strategol 7). 

Cafodd y strategaeth ei datblygu ar ôl ymgysylltu â staff ac yn allanol ar ddiwedd 2018/19, ac mae'n adeiladu ar gynnydd hyd yma a'r gweithgareddau ymchwil presennol sy'n mynd rhagddynt ar draws y sefydliad Strategaeth Ymchwil Iecyhyd Cyhoeddus Cymru 2019 - 2025

Mae'n pennu'r cyfeiriad ar gyfer y dyfodol i gryfhau a thyfu ymchwil a gwerthuso ar draws y blaenoriaethau strategol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, meithrin diwylliant cefnogol a chryfhau cysylltiadau â phartneriaid allanol. 

Meddai Dr Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso: 
“Fel sefydliad, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y 3 blynedd diwethaf, ac mae'r strategaeth hon yn cynrychioli'r cam nesaf yn y daith honno. Meithrin amgylchedd ymchwil a gwerthuso ffyniannus ar draws pob maes ein gwaith, gan ganolbwyntio ar gynhyrchu'r dystiolaeth sydd ei hangen arnom i wneud gwahaniaeth i iechyd. 

 “Rydym yn gobeithio y bydd y strategaeth newydd hon hyd yn oed yn fwy trawsnewidiol na'r strategaeth ddiwethaf.  Mae'n darparu cyfeiriad strategol hanfodol, yn ailbwysleisio pwysigrwydd cefnogi staff i dyfu yn y meysydd allweddol hyn, gan ddefnyddio partneriaethau presennol a meithrin partneriaethau newydd a rhannu llwyddiannau”

Mae’r strategaeth yn amlinellu chwe amcan strategol ar gyfer camau gweithredu â blaenoriaeth rhwng 2019 a 2025:

1.    Gosod yr agenda ar gyfer ymchwil a gwerthuso iechyd y boblogaeth
2.    Meithrin diwylliant ymchwil a gwerthuso drwy fuddsoddi yn ein staff
3.    Cynhyrchu tystiolaeth i lywio camau gweithredu drwy arwain a hwyluso ymchwil a gwerthuso arloesol
4.    Gweithio gyda'n gilydd i gael effaith gadarnhaol ar iechyd y boblogaeth
5.    Bod yn weladwy: sicrhau newid drwy gyfathrebu
6.    Meithrin a galluogi seilwaith i gynorthwyo gweithredu llwyddiannus. 

Ceir mwy o wybodaeth am y strategaeth yma:

Ymchwil a Gwerthuso