Neidio i'r prif gynnwy

Mae gennyf ragor o gwestiynau, i bwy y gallaf ofyn?

Gall plant a phobl ifanc, neu eu rhieni a gofalwyr, siarad â nyrs GIG yr ysgol am unrhyw gwestiynau sydd ganddynt. Bydd gan ysgolion fanylion cyswllt ar gyfer gwasanaeth nyrsio ysgolion y GIG.

Gall pobl ifanc o dan 25 oed nad ydynt wedi cael unrhyw frechiadau HPV eto, a phlant sy'n cael addysg yn y cartref  neu nad ydynt yn mynd i'r ysgol ofyn i'w nyrs practis meddyg teulu os bydd ganddynt unrhyw gwestiynau.

Gall dynion hoyw, deurywiol neu ddynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion ac sydd o dan 45 oed ofyn i'w meddyg neu nyrs yn y clinig iechyd rhywiol os oes ganddynt unrhyw gwestiynau.