Gall plant a phobl ifanc sy'n cael addysg yn y cartref neu nad ydynt yn mynd i'r ysgol ar hyn o bryd gael y brechiad HPV yn eu meddygfa drwy drefnu apwyntiad gyda'r nyrs practis.
Mae plant oedran ysgol a phobl ifanc sy'n cael addysg yn y cartref, neu nad ydynt yn mynd i'r ysgol ar hyn o bryd, hefyd yn gymwys i gael brechiad ffliw chwistrell trwyn bob hydref. Dylai'r rhai 13 oed a hŷn hefyd gael brechiad 3 mewn 1 (i hybu amddiffyniad yn erbyn difftheria, tetanws a pholio) a brechiad MenACWY (i amddiffyn yn erbyn rhai mathau o lid yr ymennydd septisemia). Gall plant a phobl ifanc nad ydynt yn mynd i'r ysgol hefyd gael y brechiadau hyn yn eu meddygfa.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y brechiadau arferol a argymhellir i bobl ifanc yn: www.icc.gig.cymru/brechlynnau/poblifanc