Neidio i'r prif gynnwy

A yw'r dos o'r brechiad HPV yn newid i bobl sydd â system imiwnedd wannach neu sy'n HIV positif?

Nid yw pobl â system imiwnedd wannach neu HIV yn ymateb i frechu yn yr un ffordd. Ar hyn o bryd, nid oes digon o dystiolaeth i ddangos y bydd brechu pobl imiwnoataliedig, neu'n HIV positif, â llai na thri dos yn rhoi digon o amddiffyniad iddynt yn erbyn HPV. Felly hyd nes bod rhagor o dystiolaeth ar gael, bydd y GIG yn parhau i gynnig tri dos o'r brechiad HPV i'r bobl hyn.