Neidio i'r prif gynnwy

A yw dos y brechiad HPV yn newid i ddynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion (HDDRhD)?

Nac ydy, nid i bob HDDRhD. Mae'r dos dim ond yn newid i bobl o dan 25 oed. Mae HDDRhD sydd dros 25 oed ar hyn o bryd yn gymwys i gael dau ddos o'r brechiad nes eu bod yn 45 oed. Ni fydd y dos ar gyfer y grŵp hŷn hwn yn newid. Ar hyn o bryd nid oes digon o dystiolaeth y bydd HDDRhD sy'n cael eu dos cyntaf o frechiad HPV rhwng 25 a 45 oed yn cael digon o amddiffyniad o un dos, felly dylai'r grŵp hwn gael dau ddos o hyd.