Neidio i'r prif gynnwy

Mpox (Brech y Mwncïod) - Gwybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol

Ar y dudalen yma:

Cefndir 

Afiechyd prin yw mpox (brech y mwncïod) sy'n cael ei achosi gan haint â feirws brech y mwncïod, sef feirws DNA. Gyda dileu'r frech wen yn 1980 a rhoi'r gorau wedyn i frechu rhag y frech wen, daeth i'r amlwg fel yr orthopocsfeirws pwysicaf. Mae mpox yn digwydd yn achlysurol mewn rhannau canolog a gorllewinol o goedwig law drofannol Affrica.

Mae dau gytras feirol gwahanol; un a ganfuwyd ym masn y Congo yng nghanolbarth Affrica, a'r llall yng ngorllewin Affrica.

Gan fod mpox yn gysylltiedig â'r feirws sy'n achosi'r frech wen, bydd brechiadaau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y frech wen yn darparu lefel o amddiffyniad. Mae data blaenorol o Affrica yn awgrymu y gallai brechiadau blaenorol yn erbyn y frech wen fod hyd at 85% yn effeithiol wrth atal haint mpox.

Mae mpox wedi'i chynnwys ar y rhestr genedlaethol o Afiechydon Heintus Canlyniad Uchel (HCID) yn Lloegr ac mae'n afiechyd hysbysadwy.

Mae trosglwyddo o berson i berson yn digwydd drwy gyswllt corfforol agos drwy ddau brif lwybr:    

  • Toriadau ar y croen sy’n cynnwys llawer iawn o feirws a all heintio eraill drwy doriadau ar y croen neu'r pilenni mwcosaidd. Er nad yw mpox wedi'i disgrifio o'r blaen fel haint a drosglwyddir yn rhywiol, gellir ei throsglwyddo drwy gyswllt uniongyrchol yn ystod rhyw. Yn ogystal, gellir cael haint o feirws o fewn croen wedi’i fwrw sy’n cronni mewn dillad neu ddillad gwely.
  • Mae'r feirws hefyd i'w gael yn y llwybr resbiradol uchaf a gall gael ei drosglwyddo drwy ddafnau anadlol yn ystod cyswllt wyneb yn wyneb uniongyrchol ac estynedig.            

Gellir ei drosglwyddo hefyd o fam i blentyn, a thrwy gyswllt ag anifail wedi’i heintio neu drwy fwyta cig anifail wedi’i heintio.

Yn nodweddiadol, mae gan mpox gyfnod magu rhwng 5 a 21 diwrnod.

 

Y brechiad

Brechiad y frech wen sydd ar gael yw’r Modified Vaccinia Ankara – Bavarian Nordic (MVA-BN). Ar hyn o bryd mae'n cael ei ddosbarthu o dan 2 enw brand, er mai'r un brechiad ydyw.

Enwau’r  brand yw:

Gellir rhoi’r brechiad drwy’r llwybr dwfn dan y croen neu yn y cyhyrau (edrychwch ar bennod 4). Y lleoliad a ffafrir yw ardal deltoid rhan uchaf y fraich.

Ym mis Awst 2022, yn dilyn cymeradwyaeth defnydd brys gan Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau yr Unol Daleithiau, cymeradwyodd JCVI y defnydd o ddos ​​ffracsiynol (0.1ml) o MVA-BN a roddir drwy chwistrelliad intradermal yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau cyflenwi. Mae'r dull hwn hefyd wedi'i gynghori gan Dasglu Argyfwng yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd. https://www.ema.europa.eu/en/news/emas-emergency-task-force-advises-intradermal-use-imvanex-jynneos-against-monkeypox . Gellir rhoi pigiad intradermal dos ffracsiynol ar gyfer MVA-BN ar y deltoid (yr un lleoliad ag a argymhellir ar gyfer BCG – edrychwch ar benodau 2932 a 4 y Llyfr Gwyrdd) neu ar ochr gledrol (ochr cledr y llaw) y fraich tua 2 i 4 modfedd o dan y pant gwrth-elinol (yr un lleoliad ag a ddefnyddir fel rheol ar gyfer profion Mantoux).

Mae'r feirws a ddefnyddir yn y brechiad yn straen gwan na ellir ei ddyblygu mewn celloedd mamaliaid. Dylid ei ystyried fel brechiad anweithredol.

Er bod astudiaethau effeithiolrwydd MVA-BN (Imvanex®) wedi'u hanelu at ddeall ei effeithiolrwydd amddiffynnol yn erbyn y frech wen, mae llawer o'r astudiaethau trwyddedu wedi defnyddio her gyda feirws mpox.

Mae’r brechiad wedi’i awdurdodi’n ddiweddar ar gyfer imiwneiddio gweithredol yn erbyn mpox mewn oedolion yn y DU gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) (https://products.mhra.gov.uk/search/?search=IMVANEX)

Brechiad Cyn Cyswllt

Yn 2022, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru bod ardaloedd sydd ag achosion lleol i gael eu blaenoriaethu wrth ddosbarthu cyflenwadau ledled y DU o frechiad mpox. Wrth i fwy o stoc o’r brechiad gael ei ddarparu, roedd modd i’r byrddau iechyd ailddechrau cynnig brechiad cyn cyswllt.

Ar hyn o bryd, mae byrddau iechyd yn gwahodd unigolion sydd wedi cael dos cyntaf am ail ddos, ar yr amlder a nodir gan y cyngor clinigol. Mae’r dechneg cynilo dosau intradermal yn parhau i gael ei defnyddio ar gyfer y dos cyntaf a’r ail ddos, o ystyried na chodwyd unrhyw bryderon clinigol yn y cynllun peilot Cymru gyfan a gynhaliwyd.

Bydd unrhyw unigolion nad ydynt wedi derbyn eu dos cyntaf yn dal i gael mynediad at frechu drwy’r egwyddor ‘Neb yn cael ei adael ar ôl’. Argymhellir bod pawb sy'n gymwys i gael y brechiad yn manteisio ar y cynnig cyn gynted â phosibl.

Brechu galwedigaethol

  • disgwylir i staff ddarparu gofal i achosion o mpox mewn unedau afiechydon heintus canlyniad uchel (HCID)
  • staff mewn clinigau iechyd rhywiol sydd wedi’u dynodi i asesu achosion a amheuir
  • staff mewn ysbytai ychwanegol y tu allan i unedau HCID sydd wedi'u dynodi i ofalu am gleifion mpox
  • gweithwyr mewn labordai lle mae feirysau brech (fel mpox neu frech y fuwch a addaswyd yn enetig) yn cael eu trin, ac eraill sy'n gweithio mewn labordai arbenigol a chyfeirio
  • staff sy’n cynnal dadheintio amgylcheddol yn rheolaidd o amgylch achosion o mpox

Y flaenoriaeth gychwynnol oedd darparu dosau cyntaf i gynifer yn y grŵp risg uchaf â phosibl. Ym mis Medi 2022, oherwydd nifer y brechiadau sydd wedi'u rhoi eisoes, y gostyngiad yn nifer yr achosion a’r cyflenwad presennol o frechiadau, cytunodd y JCVI mai’r flaenoriaeth nesaf yw cynnig ail ddos i ddynion hoyw, deurywiol a dynion sy’n cael rhyw gyda dynion sy’n wynebu’r risg fwyaf o tua 2 i 3 mis ar ôl eu dos cyntaf.  Mae cynnig ail ddosau i’r grŵp cymwys risg uchel presennol yn cwblhau eu cwrs sylfaenol, gan sicrhau'r warchodaeth uniongyrchol orau bosibl a gwarchodaeth anuniongyrchol drwy eu cyfraniad at drosglwyddo presennol ac yn y dyfodol. Byddai'r dull hwn yn debygol o arwain at rai dosau o frechiadau'n parhau i fod ar gael i'w defnyddio mewn achosion.

Brechiad cyn cyswllt wedi'i dargedu

Cynigiodd JCVI y dylid cynnig brechiad cyn gynted ag y bo modd i ddynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion (GBMSM) sy’n wynebu’r risg uchaf oherwydd nifer fawr o gysylltiadau.

Cytunodd y pwyllgor y gellid nodi GBMSM sydd â’r risg uchaf ymhlith y rhai sy’n mynychu gwasanaethau iechyd rhywiol, gan ddefnyddio marcwyr ymddygiad risg uchel tebyg i’r rhai a ddefnyddir i asesu cymhwysedd ar gyfer proffylacsis cyn cyswllt HIV (PrEP), ond yn cael eu cymhwyso waeth beth fo’r statws HIV. Byddai’r meini prawf risg hyn yn cynnwys hanes diweddar o bartneriaid lluosog, cymryd rhan mewn rhyw grŵp, mynychu lleoliadau rhyw yn yr eiddo neu farciwr procsi fel haint bacterol diweddar (yn ystod y flwyddyn ddiwethaf) a drosglwyddwyd yn rhywiol.

O ystyried yr epidemioleg a’r cyflenwad o’r brechiad sydd ar gael ar hyn o bryd, ni chynghorir brechu ehangach mewn unigolion GBMSM risg isel  na’r boblogaeth gyffredinol ar hyn o bryd.

Brechiad ar ôl-cyswllt

Bydd unigolion sy'n cael eu hadnabod drwy olrhain cyswllt achosion a gadarnhawyd yn parhau i gael eu blaenoriaethu a chynigir brechiad ar ôl cyswllt iddynt lle dynodir hynny.

Prin iawn yw’r dystiolaeth o effeithiolrwydd brechiad ar ôl cyswllt gan ddefnyddio MVA-BN, ac felly dylid blaenoriaethu’r brechiad ac asesu risg unigolion ar gyfer y rhai sydd fwyaf tebygol o elwa. Byddai hyn yn seiliedig ar amseroldeb y brechu yn dilyn cyswllt ac ar gyfer unigolion sydd â risg uwch o afiechyd difrifol yn dilyn haint.

Argymhellir bod brechiad ar ôl cyswllt ar gyfer cysylltiadau cymunedol neu alwedigaethol risg uchel yn cael ei gynnig yn ddelfrydol o fewn 4 diwrnod i ddod i gysylltiad, er y gellir ei gynnig hyd at 14 diwrnod i'r rhai sy'n wynebu risg barhaus, neu'r rhai sy'n wynebu risg uwch o gymhlethdodau mpox.

Mae'r JCVI hefyd wedi argymell, yn ystod cyfnodau o gyfyngu ar gyflenwadau, y dylid blaenoriaethu cynigion brechu ar ôl cyswllt. Rhoddir blaenoriaeth i frechu ar ôl cyswllt ar gyfer y rhai sydd mewn mwy o berygl o gael afiechyd difrifol, gan gynnwys plant o dan bump oed, menywod beichiog a phobl sydd ag imiwnoddiffygiant difrifol. Yn ogystal, efallai y bydd pobl sy'n gymwys i gael brechiad cyn cyswllt, er enghraifft dynion hoyw a deurywiol risg uchel, yn cael cynnig brechiad ar ôl cyswllt. Edrychwch ar yr adran Brechiad Cyn Cyswllt uchod.

SgÎl-effeithiau

Fel pob meddyginiaeth, gall y brechlyn achosi sgîl-effeithiau, ond nid yw pawb yn eu cael. Y sgîl-effeithiau cyffredin yw:

  • cur pen
  • cyhyrau poenus
  • teimlo’n sâl
  • blinder 
  • oerfel
  • tymheredd uchel
  • poen yn y cymalau, poen yn yr eithafion (dwylo a thraed)
  • colli archwaeth bwyd
  • poen, cochni, chwyddo, caledi, cosi, colli lliw, lwmp neu glais yn lleoliad y pigiad                  

Mae'r sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin y rhoddir gwybod amdanynt yn gysylltiedig â safle'r pigiad. Mae'r rhan fwyaf yn ysgafn i gymedrol eu natur ac yn clirio heb unrhyw driniaeth o fewn 7 diwrnod. Roedd pigiad intradermal (ID) yn gysylltiedig â chyfradd uwch o gosi ac adweithiau lleol fel erythema a chaledu o gymharu â phigiad dan y croen, er bod poen yn safle’r pigiad yn llai cyffredin nag ar ôl ei roi o dan y croen.

Mae adweithiau eraill yn brin. I gael rhagor o wybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin a phrin, edrychwch ar:

(Tudalennau allanol yw’r rhain ac nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn eu monitro.)

 

Cyfarwyddyd

Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i'w gweld yn y dolenni isod.

Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio - GOV.UK (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch e.e. mpox)

 

Adnoddau a digwyddiadau hyfforddi

Tudalen adnoddau a digwyddiadau hyfforddi, gweminarau

E-ddysgu

Fideo hyfforddi techneg chwistrellu intradermol:
Gweinyddu'r Brechlyn MVA-BN Gan Ddefnyddio Techneg Chwistrellu Intradermol | Turas | Dysgu (nhs.scot) Mae'r adnodd fideo byr hwn a gynhyrchwyd gan y GIG addysg i'r Alban, yn dangos bod brechlynnau MVA-BN yn cael eu rhoi'n gywir gan ddefnyddio techneg chwistrellu intradermol. [NES Fersiwn 1 Rhagfyr 2022].

Atodiad Hyfforddiant Brech y MwncÏod Cymru 31 Hydref 2022 - Mae'r sleidiau hyn yn atodiad i becynnau hyfforddi cyfredol a dim ond ar y cyd â “Brechu rhag brech y mwncïod gan ddefnyddio'r brechiad MVA-BN: hyfforddiant i ymarferwyr gofal iechyd” 20 Hydref 2022, a gyhoeddwyd gan yr UKHSA, ddylid eu defnyddio. 

Set Sleidiau hyfforddiant brechu Brech y Mwncïod 20 Hydref 2022

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

 

Adnoddau Clinigol

Argymhellion brechu brech y mwncïod - GOV.UK (www.gov.uk) 

Cwestiynau Cyffredin: Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Brechu Cysylltiadau Brech y Mwncïod (MPX) 

Ffurflen Ganiatâd Imiwneiddio rhag y Frech Wen

Rhestr wirio brechiad y frech wen rhag brech y mwncïod Saesneg/cymraeg

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod: Brechiad mewngroenol brech y mwncïod

Cyfarwyddyd Penodol i Gleifion (PSD) Templed ar gyfer brechu rhag Brech y Mwncïod ar gael gan Ganolfan Gwybodaeth Meddyginiaethau Cymru (WMIC) yn: Brech y Mwncïod – Canolfan Gwybodaeth Meddyginiaethau Cymru (wales.nhs.uk)

 

Data a Goruchwyliaeth