Neidio i'r prif gynnwy

Mwynhewch yr haf yn Ddiogel

Cynnwys:

Cadw'n ddiogel rhag salwch feirysol
Cadw'n ddiogel ar wyliau
Parhau'n ddiogel mewn tywydd poeth
Bwyta'n ddiogel a barbeciwiau haf
Cadw'n ddiogel wrth nofio

 

Mae'r haf yn amser gwych i dreulio gyda theulu a ffrindiau. P'un a ydych yn mynd i ŵyl gyda ffrindiau, yn mynd allan am y diwrnod, yn teithio dramor neu'n mwynhau gwyliau gartref, mae rhai pethau syml y gallwch eu gwneud i gadw'n iach a chadw eich cynlluniau ar gyfer yr haf ar y trywydd iawn.  

 

Cadw'n ddiogel rhag salwch feirysol 

Mae feirysau cyffredin fel COVID-19 yn dal yma a gall hyn effeithio ar y rhai mwyaf agored i niwed, gan gynnwys ffrindiau ac aelodau o'r teulu sydd â chyflyrau iechyd hirdymor.  

Mae dal angen i ni wneud yr hyn y gallwn i gadw'n iach fel y gallwn i gyd fwynhau'r haf. Parhewch i chwarae eich rhan i atal lledaeniad yr holl feirysau anadlol fel nad ydych chi a'ch anwyliaid yn colli allan ar gael haf gwych.   

Cofiwch: 

  • Golchwch eich dwylo'n rheolaidd â sebon a dŵr. Cadw eich dwylo'n lân yw un o'r ffyrdd gorau o atal lledaeniad heintiau.   

  • Gwiriwch eich bod chi a'ch teulu wedi cael eich brechiadau diweddaraf. Ceir rhagor o wybodaeth am frechiadau yma.

  • Dylech osgoi mynd allan os ydych yn teimlo'n sâl. Bydd hyn yn helpu i amddiffyn eraill yn erbyn heintiau a germau a all ledaenu'n hawdd drwy arwynebau a chyswllt.   

 

Cadw'n ddiogel ar wyliau 

Mae teithiau haf yn aml yn llawn o atgofion ac anturiaethau arbennig. Dyma ychydig o awgrymiadau defnyddiol i'ch amddiffyn chi a'ch anwyliaid fel y gallwch fwynhau haf o hwyl. 

Cofiwch: 

  • Paciwch eli haul, cynnyrch ymlid pryfed ac unrhyw feddyginiaeth y gallai fod ei hangen arnoch. 

  • Gwiriwch eich bod chi a'ch teulu wedi cael eich brechiadau diweddaraf.     

  • Gwiriwch y cyngor teithio diweddaraf yma.

  • Ewch â larwm carbon monocsid gyda chi os ydych yn aros i ffwrdd o'ch cartref. Mae carbon monocsid yn nwy di-liw a diarogl sy'n wenwynig. Gallai larwm achub eich bywyd drwy eich rhybuddio am lefelau carbon monocsid peryglus yn yr aer. Cynhyrchir carbon monocsid pan nad yw tanwydd fel glo, nwy ac olew yn llosgi'n gywir. Gall offer cyffredin hefyd gynhyrchu carbon monocsid weithiau gan gynnwys boeleri, poptai, tanau nwy, stofiau gwersylla a thanau agored.  Ceir rhagor o wybodaeth yma.

 

Parhau'n ddiogel mewn tywydd poeth 

Gall cyfnodau hir o dywydd poeth niweidio iechyd. Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i gadw eich hun a'ch anwyliaid yn ddiogel yn y gwres. 

Cofiwch: 

  • Gwisgwch eli haul ffactor uchel, het a dillad llewys hir a llac.  

  • Yfwch ddigon o ddŵr.  

  • Gwisgwch sbectol haul ag amddiffyniad UV. 

  • Treuliwch amser yn y cysgod rhwng 11am a 3pm, sef yr amser poethaf o'r dydd.   

Cliciwch yma am fwy o gyngor a gwybodaeth am dywydd poeth eithafol.

 

Bwyta'n ddiogel a barbeciwiau haf 

Mae bwyta yn yr awyr agored yn rhywbeth y mae llawer ohonom yn ei fwynhau pan fo'r tywydd yn gynhesach ac yn heulog.  Dyma rai awgrymiadau hawdd i gadw'n ddiogel ac yn iach. 

Cofiwch: 

  • Golchwch eich dwylo cyn ac ar ôl coginio.  

  • Gwiriwch fod eich bwyd wedi'i goginio drwyddo - gall thermomedr bwyd helpu.  

  • Cadwch gig amrwd i ffwrdd o fwyd sy'n barod i'w fwyta.   

  • Gorchuddiwch fwyd wedi'i goginio a'i oeri o fewn 1-2 awr.  

Wrth gynllunio barbeciw haf: 

  • Dylech bob amser gael barbeciw yn yr awyr agored, byth yn eich pabell, carafán neu gaban.  

  • Cadwch eich barbeciw i ffwrdd o goed, planhigion a glaswellt hir.  

  • Peidiwch â gadael eich barbeciw heb oruchwyliaeth. 

  • Cadwch blant ac anifeiliaid anwes i ffwrdd.  

  • Sicrhewch fod y barbeciw yn oer cyn ei symud.   

  • Peidiwch byth â chladdu barbeciw yn y tywod 

 

Cadw'n ddiogel wrth nofio 

Mae nofio'n ffordd wych o gadw'n iach ac yn oer yn yr haf. Dyma rai ffyrdd o gadw'n ddiogel wrth nofio. 

Cofiwch: 

  • Gwiriwch fod yr ardal lle rydych am nofio yn ddiogel. 

  • Darllenwch unrhyw arwyddion rhybudd a dilyn y cyngor a roddir. 

  • Mae'n fwyaf diogel nofio mewn mannau lle mae achubwr bywyd  ar ddyletswydd.  

  • Cadwch allan o'r dŵr os ydych wedi bod yn yfed alcohol neu'n cymryd cyffuriau.   

I gael rhagor o wybodaeth ac awgrymiadau defnyddiol, ewch i Cadw'n ddiogel mewn dyfroedd awyr agored yng Nghymru.

Helpwch ni i ni ledaenu'r neges am fwynhau'r haf yn ddiogel drwy lawrlwytho a rhannu'r negeseuon a'r deunyddiau ar ein padlet.