Neidio i'r prif gynnwy

Bydd 48,000 o bobl ychwanegol â diabetes yng Nghymru erbyn 2035 – dadansoddiad newydd

Cyhoeddig: 14 Tachwedd 2023

Gallai tua un o bob 11 o oedolion yng Nghymru fod yn byw gyda diabetes erbyn 2035 os yw'r tueddiadau presennol yn parhau, yn ôl dadansoddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Ddiwrnod Diabetes y Byd.

Byddai hyn yn 48,000 o bobl ychwanegol â'r clefyd a chynnydd o 22 y cant o gymharu â 2021/22.

Byddai cynnydd fel hyn yn rhoi pwysau ychwanegol sylweddol ar wasanaethau iechyd.  Ar gyfartaledd, costiodd cyfnodau yn yr ysbyty a oedd yn gysylltiedig â diabetes £4,518 fesul cyfnod yn yr ysbyty i GIG Cymru yn 2021/22, heb gynnwys cyfnodau sy'n ei gwneud yn ofynnol cael trychiadau.  Gwariwyd £105 miliwn ar gyffuriau i reoli diabetes yng Nghymru yn 2022/23.

Mae dros 200,000 o bobl yng Nghymru eisoes yn byw gyda diabetes, sef tua wyth y cant o oedolion.  Mae gan tua 90 y cant o'r achosion hyn ddiabetes math 2, a gallai dros hanner ohonynt gael eu hatal neu eu hoedi drwy newidiadau mewn ymddygiad.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arwain Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan, sy'n cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru a'i chyflwyno'n lleol gan weithwyr cymorth gofal iechyd pwrpasol hyfforddedig ac arweinwyr deietig sy'n gweithio ym maes gofal sylfaenol.

Mae'r rhaglen yn cynorthwyo pobl sy'n wynebu risg uwch o ddiabetes math 2 i wneud newidiadau i'w deiet a bod yn fwy egnïol yn gorfforol.

Mae pobl yn cael eu nodi fel rhai sy'n wynebu risg uwch drwy brawf gwaed, o'r enw prawf HbA1c, sy'n mesur lefelau siwgr gwaed (glwcos) cyfartalog person dros y ddau i dri mis diwethaf.

Mae pobl gymwys mewn ardaloedd lle mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno yn cael eu hatgyfeirio i weithiwr cymorth gofal iechyd a fydd yn siarad â nhw am yr hyn y gallant ei wneud i leihau eu risg o ddatblygu diabetes math 2.  Gallant hefyd gael eu hatgyfeirio i ffynonellau ychwanegol o gymorth.

Ers lansio Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan ym mis Mehefin 2022, mae wedi cynnig cymorth i dros 3,000 o bobl ledled Cymru.  Mae bellach yn cael ei chyflwyno mewn 32 o'r 60 o glystyrau gofal sylfaenol yng Nghymru. 

Meddai Dr Amrita Jesurasa, ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Bu cynnydd o 40 y cant yn nifer y bobl sy'n byw gyda diabetes yng Nghymru mewn cyfnod sydd ychydig dros y 10 mlynedd diwethaf - cynnydd o 60,000 o bobl. 

“Mae diabetes math 2 yn un o brif achosion colli golwg ac yn cyfrannu at fethiant yr arennau, trawiad ar y galon a strôc.  Yn 2021/22 yn unig, cafodd dros 560 o bobl yng Nghymru drychiadau a oedd yn gysylltiedig â diabetes.

“Felly, mae'r nifer cynyddol o achosion o ddiabetes math 2 yn peri pryder mawr o ran iechyd a llesiant pobl Cymru, yn ogystal â chydnabod y pwysau ychwanegol y mae hyn yn ei roi ar wasanaethau iechyd.

“Ond y newyddion da yw, drwy gefnogi pobl i wneud newidiadau ymddygiad, gellid atal dros hanner yr achosion o ddiabetes math 2.  Mae'r prif ffactorau risg y gall pobl weithredu arnynt yn cynnwys cael pwysau iachach, bwyta deiet iach a bod yn egnïol yn gorfforol.

“Dangos gwerthusiad proses annibynnol o'r rhaglen nad oedd bron hanner y rhai a aeth i apwyntiad gyda ni a chwblhau arolwg yn ymwybodol eu bod yn  wynebu risg o ddatblygu diabetes math 2 cyn derbyn gwybodaeth am y rhaglen.  Dyna pam ei bod mor bwysig i bobl ddarganfod eu lefel risg o ran datblygu diabetes math 2.

“Mae darganfod hyn yn cymryd ychydig o funudau yn unig, a gall pobl wneud hyn drwy ddefnyddio offeryn Gwybod Eich Risg Diabetes UK. Mae hwn yn gam cyntaf pwysig oherwydd drwy ddeall eu risg, gall pobl weithredu. 

“I'r rhai sy'n wynebu risg uchel, gallai hyn gynnwys cael eu hatgyfeirio i Raglen Atal Diabetes Cymru Gyfan os ydynt yn gymwys ar gyfer y rhaglen a'i bod ar gael yn lleol.”

Ar Ddiwrnod Diabetes y Byd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi amrywiaeth o adroddiadau a data am y clefyd yng Nghymru:

Mae’r rhain yn cynnwys:

Mae'r rhain ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Astudiaeth Achos

Darparwyd yr astudiaeth achos isod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Ar ôl i brawf llygaid arferol dynnu sylw at newid i un o'i lygaid, cafodd Darren Rix (50) ei anfon am brawf gwaed a ddatgelodd yn ddiweddarach ei fod yn gyn-ddiabetig.

“Roedd yn gwbl annisgwyl,” meddai Darren, o Bontardawe.  “Cefais brawf llygaid a sylwodd yr optometrydd ar rywbeth ar gefn fy llygad felly cefais fy atgyfeirio i gael prawf gwaed.  Cefais fy ngalw i'm meddygfa a dywedwyd wrthyf fod fy lefelau siwgr yn y gwaed yn uchel.

“Roedd yn dipyn o sioc. Pe bawn i wedi edrych yn y drych, ni fyddwn wedi meddwl fy mod yn gyn-ddiabetig.

“Gofynnodd y meddyg teulu i mi a fyddwn yn barod i gael trafodaeth gyda thîm y Rhaglen Atal Diabetes, a chytunais.”

Aeth Darren i ymgynghoriad gyda gweithiwr cymorth gofal iechyd yn ei bractis meddyg teulu, a'i anogodd i gynyddu ei ymarfer corff.

Ychwanegodd: “Es i draw a chael sgwrs ac roedd yn ddiddorol.  Gwnaethant fy annog i wneud mwy o ymarfer corff gan nad oeddwn yn gwneud llawer cyn hynny heblaw am fynd â'r ci am dro.

"Fe wnes i hefyd ddechrau nofio o ganlyniad, ac rydw i'n dal i wneud hynny nawr gan fy mod i wir yn ei fwynhau. Rwy'n gwneud yn siŵr fy mod yn trefnu hyn o amgylch fy ngwaith shifft.

"Fe wnes i hefyd newidiadau yma ac acw i'm prydau bwyd a thorri yn ôl ar ddanteithion llawn siwgr."

"Yn fy apwyntiad diweddaraf fe wnaethon nhw ddweud wrthyf fod yr hyn roeddwn i wedi'i wneud wedi bod yn wych ac roeddwn i wedi dod â fy mhwysau i lawr," meddai.  "Dywedwyd wrthyf nad wyf bellach yn gyn-ddiabetig ac y dylwn barhau i wneud yr hyn rwyf wedi bod yn ei wneud.

"Rwy'n ddiolchgar i'r optometrydd am fy anfon am y prawf gwaed a hefyd i fy meddyg teulu am fy atgyfeirio i'r rhaglen.

"Dwi ddim yn meddwl bod pobl yn sylweddoli pa mor ddifrifol mae diabetes yn gallu bod.

"Mae'n debyg bod yna bobl allan yna nad ydynt yn sylweddoli y gallent fod yn gyn-ddiabetig.

"Dwi ddim yn gwybod sawl blwyddyn roeddwn i wedi bod yn gyn-ddiabetig ac mae'n debyg y byddwn i'n dal i fod nawr heb yr ymyriad.

"Weithiau mae angen y sioc yna arnoch chi er mwyn eich cael chi i wneud rhywbeth am y peth."

Dywedodd Rachel Long, prif ddeietegydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: "Hyd yn hyn doedd llawer o gleifion heb gael gwybod eu bod mewn perygl mawr o ddatblygu diabetes math 2.

"Felly, pan maen nhw'n dod i mewn i'r ymgynghoriad, mae wedi bod yn dipyn bach o ryddhad iddyn nhw allu siarad â rhywun a chael y cyngor hwnnw.

"Mae atal yn well na gwella ac mae'r data dilynol hyd yma yn dangos addewid ac yn mynd i'r cyfeiriad cywir."