Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth Trawsnewid

Mae’r wybodaeth hon i chi os ydych yn draws (trawsryweddol), anneuaidd neu rywedd-amrywiol.

Os ydych chi'n aelod o'r teulu, yn ffrind neu'n weithiwr iechyd proffesiynol, efallai y bydd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol i chi hefyd.

Bydd gwybodaeth yn yr adran hon yn eich helpu i ddeall pa brofion sgrinio y gallwch eu cael a phryd.  Bydd hefyd yn eich helpu i benderfynu a ddylech gymryd rhan ai peidio.
 

Sut y byddaf yn cael fy ngwahodd i sgrinio?

Os ydych chi'n byw yng Nghymru, bydd rhaglenni sgrinio yn eich gwahodd yn seiliedig ar eich:

  • oed; a’ch
  • rhywedd.

Gwahoddir pobl yn seiliedig ar sut y maent wedi’u cofrestru gyda’r meddyg teulu, er enghraifft wedi’u cofrestru fel dynion, menywod neu rywbeth arall (er enghraifft ‘amhenodol’)

Gall eich risg o rai cyflyrau ddibynnu ar y rhyw a neilltuwyd i chi ar eich genedigaeth.  Er enghraifft, os rhoddwyd chi mewn categori rhyw gwrywaidd adeg eich geni, rydych chwe gwaith yn fwy tebygol o gael Ymlediad Aortig Abdomenol na rhywun a roddwyd mewn categori rhyw benywaidd adeg ei eni.

Yn seiliedig ar y dynodwr rhywedd cofrestredig, efallai y bydd rhai pobl yn cael eu gwahodd yn awtomatig i sgrinio nad oes ei angen arnynt.  Er enghraifft, os ydych wedi'ch cofrestru’n fenyw gyda'ch meddyg teulu, fe'ch gwahoddir i wneud apwyntiad ar gyfer sgrinio serfigol. Os nad oes gennych geg y groth, nid oes angen i chi fod yn bresennol.

Yn seiliedig ar y dynodwr rhywedd cofrestredig, efallai na fydd rhai pobl yn cael eu gwahodd yn awtomatig ond argymhellir eu bod yn ystyried mynychu.  Er enghraifft, os nad ydych wedi'ch cofrestru’n fenyw gyda'ch meddyg teulu, ni chewch eich gwahodd i sgrinio'r fron er y gallai fod gennych fronnau.

Os credwch y dylech fod wedi cael gwahoddiad i gael prawf sgrinio, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu ewch i dudalennau ‘cysylltu â ni’ y rhaglen. Bydd yn gallu dweud wrthych sut i gael y profion sydd eu hangen arnoch.

 

Sgrinio'r GIG

Bydd yr wybodaeth ganlynol yn dweud wrthych pa brofion sgrinio:

  • y byddwch yn cael gwahoddiad ar eu cyfer
  • y gallwch elwa o gael

Rhywun a roddwyd mewn categori rhyw gwrywaidd adeg ei eni (siart lif)

Rhywun a roddwyd mewn categori rhyw benywaidd adeg ei eni (siart lif)

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y gwahanol raglenni sgrinio yn y daflen hon.  Bydd yn dweud wrthych pa sgrinio sydd ar gael i chi.  Darperir manylion cyswllt ar gyfer y gwahanol raglenni sgrinio os oes gennych gwestiwn ac rydych eisiau cysylltu â hwy.

 

Cymryd rhan mewn sgrinio

Rydym yn deall y gallech fod yn poeni am gymryd rhan mewn sgrinio.  Efallai yr hoffech chi siarad â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo, er enghraifft ffrindiau, teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol.

Er mwyn eich helpu i benderfynu a yw sgrinio'n iawn i chi, ewch i'n cwestiynau cyffredin.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw un o'r rhaglenni sgrinio, ewch i wefan y rhaglen.

Os na allwch ddod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r dudalen cysylltu â ni.

 

Dywedwch wrthym beth yw eich barn

Mae'n bwysig bod pawb yn cael eu trin ag urddas a pharch wrth gymryd rhan mewn sgrinio.   Hoffem glywed gennych os:

  • Nad ydych wedi cael eich trin fel hyn
  • Ydych chi eisiau rhannu eich profiad gyda ni
  • Gallem wella ein gwasanaethau

Bydd popeth a ddywedwch wrthym yn cael ei drin yn hollol gyfrinachol.

E-bost: Ymgysylltu.sgrinio@wales.nhs.uk

 

Sut y galla i gymryd rhan?

Edrychwch ar dudalennau adborth y rhaglen oherwydd efallai y bydd cyfleoedd i chi gymryd rhan yn y dyfodol.

 

Darganfyddwch fwy  gwefannau’r GIG / gwefannau trydydd sector (bydd yr adran Darganfod Mwy ar y wefan yn tynnu sylw at gysylltiadau defnyddiol ar ffurf tabl)

Am ragor o wybodaeth neu gyngor, ewch i'r gwefannau canlynol:

Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/sgrinio

Iechyd Cyhoeddus Cymru icc.gig.cymru

Cymdeithas Ymchwil ac Addysg Hunaniaeth Rhywedd gires.org.uk

Unique Transgender Network uniquetg.org.uk

Stonewall Cymru stonewallcymru.org.uk

Clinig Hunaniaeth Rywedd Cymru gender.wales

 

Cwestiynau Cyffredin