- Gwnewch yn siŵr bod eich cartref yn ddigon cynnes - tua 18°C/65°F (ystafell wely) a 21°C/70°F (ystafell fyw).
- Gallech wresogi un ystafell yn unig ac aros ynddi gymaint â phosibl.
- Dylai babanod gysgu mewn ystafelloedd sydd wedi'u gwresogi rhwng 16C ac 20C.
- Cadwch ddrafft oer allan a gwres i mewn trwy ddiogelu ymylon ffenestri a drysau. Er hynny, cadwch y mannau awyru yn glir ac agored.
Offer nwy: Gas Safe
Offer Tanwydd Solid: HETAS
- Gwiriwch a allwch gael help, budd-daliadau neu gyngor er mwyn i’ch cartref ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon, a gwella'ch system wresogi neu i helpu gyda biliau. Am ragor o gefnogaeth, ewch i Cyngor ar Bopeth a’r Taliad Tanwydd Gaeaf. Dylai eich offer gwresogi a choginio gael gwasanaeth o leiaf unwaith y flwyddyn gan beiriannydd proffesiynol. I ddod o hyd i beiriannydd cofrestredig: