Boddi yw’r perygl iechyd amlycaf a’r mwyaf ar y pryd yn ystod llifogydd.
Gellir achosi anaf difrifol hefyd gan syrthio i ddŵr sy’n llifo’n gyflym neu gan beryglon dan y dŵr, fel gorchuddion tyllau archwilio sydd ar goll.
Mae yna berygl difrifol hefyd gan fygdarth carbon monocsid wrth ddefnyddio generaduron a chyfarpar arall sy’n gweithio â phŵer sydd wedi eu cludo i mewn i’r tŷ i sychu adeiladau.
Peidiwch â thanbrisio straen llif yn eich cartref a glanhau ar ôl llifogydd. Cymrwch amser i ystyried eich iechyd meddyliol a’ch lles chi a’ch teulu.
Peidiwch â gor-wneud pethau wrth lanhau, a chofiwch fod blinder a phryder yn normal yn yr amgylchiadau hyn.