Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori pobl i beidio â bwyta unrhyw fwyd sydd wedi ei gyffwrdd neu ei orchuddio â llifddwr neu garthion.
Peidiwch â bwyta unrhyw gynnyrch sydd wedi’i dyfu ar randir neu ardd sydd wedi ei orlifo, oni bai bod y bwyd wedi’i goginio.
Golchwch eich dwylo cyn ac ar ôl paratoi bwyd. Defnyddiwch ddŵr glan, glanedydd, yna ddiheintydd cegin arferol, glanhewch a diheintiwch eich arwynebau gwaith, platiau, sosbeni, cyllyll a ffyrc, a byrddau torri plastig/gwydr, cyn paratoi bwyd. Os oes gennych beiriant golchi llestri dyna sydd orau ar gyfer eitemau llai.
Taflwch unrhyw fwyd yn eich oergell os nad yw wedi bod yn gweithio am ychydig oriau.
Gwnewch felly hefyd ag unrhyw fwyd rhewgell sy’n cynnwys cig, pysgod neu gynnyrch llaeth os bydd eich rhewgell wedi stopio gweithio. Bydd angen i chi daflu unrhyw fwyd y byddech yn ei fwyta wedi’i rewi, fel hufen ia.