Gall tywydd oer fod yn ddifrifol o beryglus i iechyd y cyhoedd ac achosi marwolaethau ‘gormodol’ yn ystod y gaeaf o gymharu â gweddill y flwyddyn. Y rheswm am hyn yw bod tywydd oer yn gallu cyfrannu at gynyddu peryglon cysylltiedig â hypothermia, cwympiadau ac anafiadau, trawiadau ar y galon, strôc, clefydau anadlol a’r ffliw. Mae effeithiau anuniongyrchol oerni yn cynnwys pethau sy’n achosi salwch meddwl megis iselder, a gwenwyn carbon monocsid o wresogyddion, offer coginio a boeleri sydd heb eu hawyru’n ddigonol.
Y bobl fwyaf agored i niwed gan dywydd oer yw:
Gall salwch cysylltiedig â thywydd eithafol o oer roi pwysau ychwanegol ar ysbytai, adrannau brys a meddygfeydd lleol.
Am fwy o wybodaeth, ewch i: Tywydd oer eithafol