Mae data CARIS yn cael ei ddefnyddio ar gyfer:
Gallwch darganfod mwy am y defnyddiau hyn yn yr adrannau perthnasol ar y wefan.
Mae Rhwydweithiau EUROCAT ac ICBDSR (Y Tŷ Clirio Rhyngwladol er Arolygu ac Ymchwilio i Namau Genedigaethol) yn cynnal gwasanaeth arolygu gan ei gwneud hi’n bosibl i wneud cymariaethau rhwng cyfraddau o fewn Ewrop a ledled y byd.
Rhwydwaith anomaleddau cynhenid Ewropeaidd yw EUROCAT a sefydlwyd ym 1979. Ymunodd CARIS yn 1998. Trosglwyddir data i EUROCAT bob blwyddyn. Mae EUROCAT yn darparu meddalwedd i gadw golwg ar anomaleddau a thueddau hirdymor. Gellir adborthi’r canlyniadau hyn wedyn i’r gofrestr.
Rhoddir mwy o fanylion ynghylch EUROCAT a’r astudiaethau y mae’n eu cefnogi ar http://www.eurocat-net.eu
Sefydlwyd ICBDSR ym 1975 ac ymaelododd CARIS yn 2005. Yr un fath ag yn achos EUROCAT, trosglwyddir data bob blwyddyn. Bydd ICBDSR yn cynnal arolwg chwarterol ar anomaleddau penodol, sy’n gallu rhoi rhybudd am gynnydd neu leihad sydyn yn nifer yr achosion.
Rhoddir mwy o fanylion ynghylch ICDBSR ar http://www.icbdsr.org/