Mae'r adran hon yn dwyn ynghyd ystod o wasanaethau cefnogi iechyd meddwl, ar gyfer rheolwyr a gweithwyr, ar draws Cymru.
Hyd yn oed gyda'r cynlluniau ataliol gorau ar waith, gall gweithwyr gael amseroedd yn eu bywydau sy'n annifyr ac yn straen ac yn profi eu gallu i ymdopi neu addasu. Mae rheolwyr yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi eu staff a'u cyfeirio at gymorth ychwanegol yn ôl y galw. Felly mae'n bwysig bod rheolwyr yn cael yr amser, yr hyfforddiant a'r gefnogaeth i gyflawni'r rôl hon.
Mae gwahanol wasanaethau ar gael mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae pob bwrdd iechyd (dewch o hyd i'ch bwrdd iechyd isod) yn darparu gwybodaeth am gael cymorth iechyd meddwl yn ei ardal a gall y gwefannau canlynol fod yn fan cychwyn defnyddiol i gyfeirio gweithwyr at wasanaethau lleol yn ogystal ag adnoddau hunangymorth:
Ymddiriedolaethau a byrddau iechyd GIG Cymru |
|
Gyfrifol am wasanaethau’r GIG ym:
|
Melo |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:
|
Hwb iechyd meddwl |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Gyfrifol am wasanaethau’r GIG yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
|
Stepiau |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG ym:
|
Hyb cymorth cymunedol |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:
|
IAWN (Gwybodaeth, ymwybyddiaeth a llesiant nawr) |
Yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG ym Mhowys. |
Gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod COVID-19 a gwasanaeth gwybodaeth iechyd meddwl Powys |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe Yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, yn ogystal â rhai gwasanaethau rhanbarthol arbenigol. |
Cymorth gydag iechyd meddwl |
Mae'r rhestr ganlynol yn manylu ar amrywiaeth o gymorth hunangymorth y gall cyflogwyr a gweithwyr ei gyrchu ledled Cymru.