Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd a Diogelwch

Y ffordd fwyaf effeithiol o reoli iechyd a diogelwch yw sicrhau eu bod yn rhan o'r broses ddyddiol o redeg eich busnes. Gall gwneud eich sefydliad yn lle mwy diogel i weithio ynddo a gall helpu i leihau damweiniau ac anafiadau yn y gweithle, lefelau absenoldeb, a gwella cyfathrebu, morâl tîm, a chynhyrchiant.

Yr egwyddorion allweddol ar gyfer rheoli iechyd a diogelwch eich sefydliad yn effeithiol yw:

  • Arweinyddiaeth a rheolaeth glir a chadarnhaol (gan gynnwys prosesau busnes priodol)
  • Gweithlu hyfforddedig a medrus sy'n berthnasol i'r math o fusnes a gweithgareddau
  • Amgylchedd lle y gellir ymddiried mewn pobl a lle y gallant gymryd rhan

Mae deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch wedi'i chynllunio i'ch diogelu chi, eich gweithwyr, a'r cyhoedd rhag peryglon yn y gweithle. Mae gan sefydliadau ddyletswydd gyfreithiol i roi trefniadau addas ar waith i reoli iechyd a diogelwch; fodd bynnag, yn aml gall fod yn broses ddryslyd. Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn annog ymagwedd synnwyr cyffredin ac ymarferol at reoli iechyd a diogelwch.

Cyf: ‘ONS – sickness absence in labour market (Saesneg yn unig) , 2014’

Gwasanaethau Cymorth ac Adnoddau Sydd ar Gael

*Cysylltwch â Chymru Iach ar Waith i gael gwybodaeth am y rhaglenni gwobrwyo yn y gweithle sydd wedi'u hariannu a'u cefnogi’n llawn, a all eich helpu i adolygu a hyrwyddo amgylchedd gwaith mwy diogel yn eich sefydliad.

Anfonwch e-bost atom yn WorkplaceHealth@wales.nhs.uk gyda’ch ymholiadau a bydd un o’n Cynghorwyr yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn rhan o’r Adran Gwaith a Phensiynau.  Dyma’r corff sy’n gyfrifol am annog, rheoleiddio a gorfodi iechyd, diogelwch a llesiant yn y gweithle, ac am ymchwil i risgiau galwedigaethol. Mae HSE yn gweithio i atal pobl rhag cael eu lladd, eu hanafu neu eu gwneud yn sâl gan waith. Mae HSE Cymru yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, yn benodol ym meysydd sy’n gyffredin o ran diddordeb e.e. iechyd a diogelwch mewn amaethyddiaeth, iechyd a gofal cymdeithasol, addysg a gwasanaethau cyhoeddus.

Isod mae ychydig o gyngor ac arweiniad a hyrwyddir gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (Saesneg yn unig) (HSE). Cliciwch yma (Saesneg yn unig) ar gyfer pob un o ganllawiau HSE.

Llyfrynnau Canllaw Iechyd a Diogelwch

Saesneg yn unig

  • Pecyn cymorth iechyd a diogelwch (Saesneg yn unig) – mae’r wefan hon yn rhoi cyngor defnyddiol ar amrywiaeth o bynciau iechyd a diogelwch. Mae pob adran yn cysylltu â chanllawiau manylach os oes angen.
  • Rheoli iechyd a diogelwch (Saesneg yn unig)– gall y meicrowefan hon eich helpu i roi system rheoli iechyd a diogelwch syml ar waith a chreu diwylliant diogelwch cadarnhaol
Deall asesiadau risg a pholisïau

Deall asesiadau risg a pholisïau – canllawiau ar gael ar ddatblygu polisi iechyd a diogelwch ac asesiadau risg.

Asesiadau risg enghreifftiol a rhyngweithiol – Mae gwefan HSE yn cynnwys rhai asesiadau risg enghreifftiol a rhai asesiadau risg rhyngweithiol ar-lein ar gyfer amgylcheddau risg isel.

Diweddariadau a Gwybodaeth Bellach