Neidio i'r prif gynnwy

Adran 7 - Casgliad

A ydym wedi cyrraedd y nod eto?

Sut y byddwn yn gwybod pryd y byddwn wedi cyrraedd y nod neu a ydym yn mynd i’r cyfeiriad iawn? Byddwn yn gwerthuso!

Ym mhob un o’n tri maes, byddwn yn mesur a ydym yn gwneud cynnydd a byddwn yn ystyried a yw’r gwaith a wnawn yn alinio â’r 5 egwyddor.

Bydd gwerthuso yn ein helpu i ddeall y cynnydd a wnawn tuag at nodau’r strategaeth hon, ac yn ein helpu i nodi’r systemau sy’n cyfrannu i’n llwyddiant neu’n ein rhwystro rhag symud ymlaen. 

Byddwn yn datblygu cynllun gwerthuso sy’n cofnodi cynnydd yn unol â 5 egwyddor arweiniol y strategaeth hon, ac yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwn drwy’r gwerthusiad i lywio’r modd y byddwn yn gweithio yn y dyfodol.

Dyma rai cwestiynau posibl: 

 

Ac, wrth gwrs, bydd defnyddio’r safonau gwasanaeth digidol a’r safonau cyhoeddi data yr ydym wedi ymrwymo iddynt yn cynnig llawer o gyfleoedd i werthuso ac asesu ein cynnydd. 

Byddwn yn casglu’r dystiolaeth i’n helpu i ddeall y cwestiynau hyn drwy wahanol ddulliau gweithredu, er enghraifft drwy siarad â’n pobl, drwy gynnal arolygon gyda’n defnyddwyr gwasanaeth, drwy astudiaethau achos a thrwy sicrhau ein bod yn clywed gan ystod o bobl sy’n cynrychioli’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu yng Nghymru.

Ac yna, byddwn yn dechrau ar y broses ailadrodd nesaf.

Penderfyniadau cydweithredol 

Er mwyn gwneud penderfyniadau ar y cyd ynghylch beth sydd bwysicaf i’n timau technoleg ddigidol a data ei wneud, rydym yn datblygu Awdurdod Dylunio Technoleg Ddigidol a Data. Mae’n grŵp lle mae unigolion o bob rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dod ynghyd i rannu cyfrifoldeb am benderfynu beth sydd bwysicaf i’w wneud yn gyntaf.

Bydd gwneud penderfyniadau am flaenoriaeth yn ein hannog i fod yn ymwybodol o anghenion ein gilydd ac i rannu ein hadnoddau a’n gwybodaeth ar sail anghenion y sefydliad ehangach. Bydd rhannu perchenogaeth ar benderfyniadau ar lefel weithredol yn arwain at fwy o gydweithredu wrth ddatrys problemau cyffredin. Byddwn hefyd yn rhannu atebolrwydd am wario arian cyhoeddus yn ddoeth, drwy asesu’r gwaith a wneir yn erbyn safonau cenedlaethol. Drwy osod y grŵp ar lefel y bobl sy’n cyflawni’r gwaith, rydym yn cael darlun clir o’r rhannau hynny o Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd â’r un anghenion – felly, ni fyddwn yn creu pethau newydd fwy nag unwaith. 

Bydd yr Awdurdod Dylunio Technoleg Ddigidol a Data yn cynorthwyo pobl i greu gwasanaethau addas i’w diben mewn sefydliad lle mae technoleg ddigidol a data’n elfennau sylfaenol o’r ffyrdd o weithio. Yn unol â’r cylch gwaith (Nid yw’r dudalen hon ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd), bydd yr Awdurdod Dylunio Technoleg Ddigidol a Data yn cynnig arweiniad er mwyn bodloni egwyddorion dylunio gwasanaethau sector cyhoeddus Cymru a Chod Ymarfer Technoleg (Nid yw’r dudalen hon ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd) y DU. 

Wrth ystyried beth sy’n gorfod digwydd, mae angen i ni ystyried sut y bydd yn digwydd.

Byddwn yn cymryd llawer o gamau bach yn hytrach nag ychydig o gamau mawr. Y rheswm am hynny yw bod yna lawer o wahanol ffyrdd o sicrhau canlyniad, ond na fydd pob un ohonynt yn gweithio i ni nac i’r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu. Yn achos gwasanaethau digidol neu gynnyrch data, mae’n aml yn fwy defnyddiol rhoi rhywbeth bach ar waith i ddechrau er mwyn gweld beth y mae’n ei wneud, yn hytrach na threulio amser hir yn ceisio penderfynu beth fydd yn gweithio, a hynny cyn rhoi prawf ar unrhyw beth.

Adnoddau a chyllid 

Bydd y strategaeth yn cael ei chyflawni drwy fusnes normal Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mewn partneriaeth â sefydliadau sy’n cydweithio â ni, megis Llywodraeth Cymru, sefydliadau eraill GIG Cymru a phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol ehangach. 

Dangos sut yr ydym yn elwa

Bob tro y byddwn yn gwneud darn o waith, mae’n debygol y byddwn yn darganfod rhai pwyntiau sy’n poeni defnyddwyr. Drwy archwilio beth sy’n golygu ei bod yn anodd i bobl wneud yr hyn y mae angen iddynt ei wneud, gallwn weld ble y mae newid yn debygol o wneud gwahaniaeth.
Yn fras, os gwnawn ni rywbeth yn iawn, dylai olygu y bydd pobl yn iachach ac yn hapusach, neu y bydd mwy o bobl yn cael eu gwasanaethu, neu y bydd angen i lai o bobl gael eu gwasanaethu yn y GIG.

Y camau nesaf 

Byddwn yn blaenoriaethu’r gwaith y mae angen i ni ei wneud yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf. Byddwn yn dechrau gwneud cais am gyllid ar gyfer gwaith na allwn fforddio ei wneud ein hunain ar hyn o bryd. Byddwn yn rhannu ein strategaeth ac yn gweld beth y mae rhannau eraill o Gymru yn ei gynllunio, fel na fyddwn yn dyblygu unrhyw beth yn ddamweiniol.
Ar ôl i ni wneud hynny, byddwn yn ceisio dysgu o’r hyn a wnaethom, newid yn unol â’r hyn a ddysgwyd gennym, ac yna ei wneud eto.
Byddwn yn gwneud hynny am 12 mis, yn gweld sut hwyl yr ydym yn ei chael arni, ac yna’n ailystyried ein strategaeth. Os yw’n dal i weithio ac yn edrych fel pe bai’n cynnwys y dull gweithredu iawn, byddwn yn sganio’r gorwel ac yn dechrau rownd arall. Os nad yw’n cyflawni’r canlyniadau y mae arnom eu hangen, byddwn yn gwneud rhagor o ymchwil i ddefnyddwyr ac yn rhoi cynnig ar ffordd arall.
Fel y gwnaethom sôn ar y dechrau, os oes yna unrhyw beth yr ydych yn credu y gallwn ei newid er mwyn gwella’r strategaeth hon, byddem yn falch iawn pe baech yn cysylltu ac yn rhoi gwybod i ni. Gallwch gael gwybod mwy am y strategaeth yma a chysylltu â ni drwy [insert link here].