Neidio i'r prif gynnwy

Adran 2 - Crynodeb

Ar u dudalen hon:

 - Adeiladu ar sylfeini cryf

 - Alinio

 - Adeiladu i wneud gwahaniaeth

 - Ein hegwyddorion

Mae’r strategaeth hon yn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion llawer o grwpiau. Er mwyn rhoi pwys teg ar bob maes, rydym wedi dewis tri maes cyffredinol i roi cyd-destun i’n gwaith. O fewn y tri maes hynny, byddwn yn parhau i ddychwelyd at y pum blaenoriaeth y dywedodd y rhan fwyaf o bobl eu bod yn bwysig.

Dyma ein tri maes:

 

Adeiladu ar sylfeini cryf 

Byddwn yn cryfhau pob un o’r meysydd craidd a fydd yn sylfaen ar gyfer trawsnewid technoleg ddigidol a data yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

  • Pobl sydd wedi’u grymuso – byddwn yn gwrando ar bobl sy’n defnyddio pob gwasanaeth, cyn dechrau ar waith newydd a thrwy gydol y gwaith, fel bod ein gwasanaethau’n diwallu eu hanghenion.
  • Gweithwyr proffesiynol sydd wedi’u grymuso – byddwn yn gweithio gyda sefydliadau eraill y GIG i ddod â’r fframwaith proffesiynol ar gyfer technoleg ddigidol a data yn nes at sectorau eraill. Byddwn yn dod â chymunedau ymarfer at ei gilydd ac yn mynd ati i ddatblygu mwy o ffyrdd o rannu gwybodaeth a gwella.
  • Data diogel – cyfuno seiberddiogelwch a phrosesau modern ar gyfer data er mwyn bod yn warcheidwaid cyfrifol data personol sensitif.
  • Tirwedd weladwy – dylai fod gan ein systemau a’n data fapiau a chatalogau clir, fel bod unrhyw rai sy’n gorfod darganfod pwy sy’n berchen ar system, neu ble y mae’r wybodaeth y mae arnynt ei hangen, yn gallu cael gafael ar y wybodaeth honno.
  • Ansawdd da – dylai ein data a’n systemau fod o ansawdd digon da iddynt gael eu defnyddio heb fod angen darganfod ffyrdd o ddatrys problemau neu fod angen eu gwirio’n bersonol wedyn. Byddwn yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o wneud y data a ddefnyddir gennym yn well i bawb y mae angen iddynt ei ddefnyddio. Byddwn yn sicrhau bod pobl yn gallu deall pa ddata sydd ar gael a beth y mae’n ei ddweud.

 

Alinio

Nid yw’r strategaeth hon yn bodoli mewn gwagle.

Mae yna strategaeth ehangach, sef Strategaeth Hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac yn gysylltiedig â honno y mae Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a nodau datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig (Nid yw’r dudalen hon ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd) sy’n ceisio helpu i ddiwallu anghenion pobl yng Nghymru ac o gwmpas y byd. Mae hynny’n golygu bod angen i ni gael: 

  • Safonau cyffredin – drwy ddefnyddio safonau cenedlaethol neu ryngwladol ar gyfer ein cynnyrch a’n gwasanaethau ym maes data a thechnoleg ddigidol, bydd yn hawdd i bobl gysylltu â ni a’n deall. Gallai’r safonau hynny gynnwys:
    • y cod ymarfer ar gyfer ystadegau (Nid yw’r dudalen hon ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd)– fel bod ein hystadegau a’n hadroddiadau swyddogol yn hawdd eu deall, yn ddibynadwy ac o safon 
    • safon ddylunio gwasanaethau digidol Cymru – fel ein bod yn gallu rhoi prawf ar b’un a yw ein gwasanaethau’n gynhwysol, yn diwallu anghenion pobl Cymru ac yn cysylltu â gwasanaethau eraill
    • y cod ymarfer rhannu data (Nid yw’r dudalen hon ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd)– fel ein bod yn gallu cadw gwybodaeth pobl yn ddiogel yn ogystal â rhannu’r data iawn er mwyn darparu cyngor a gwasanaethau da.
  • Cydrannau cyffredin – mae’n cymryd amser hir i greu rhywbeth o’i ddechrau i’w ddiwedd. Ond mae llawer o’r pethau a wnawn yn rhannu prosesau. Drwy ddod o hyd i’r hyn sydd yr un fath mewn llawer o wasanaethau a chynnyrch, gallwn dreulio mwy o amser yn gweithio ar un ateb gwirioneddol dda a’i ddefnyddio at fwy nag un diben.
  • Alinio â rhaglenni eraill – mae yna gydrannau sy’n cael eu creu ar draws y GIG yng Nghymru, megis Ap GIG Cymru. Os yw’r cydrannau hynny’n diwallu angen, dylem eu defnyddio.
  • Cwsmer deallus – mae angen i ni ddefnyddio Systemau Gwybodaeth Labordai (Nid yw’r dudalen hon ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd) newydd, systemau e-Ragnodi, yr Adnodd Data Cenedlaethol a mwy. Ym mhob achos, byddant yn diwallu rhai o anghenion Iechyd Cyhoeddus Cymru, felly mae angen i ni fod yn bartner cyfrifol a deallus yn ystod y rhaglenni.
  • Creu cynnyrch sy’n gwella i’r eithaf ein gallu i wireddu a chyflawni Strategaeth Hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

 

Adeiladu i wneud gwahaniaeth  

Gallwn wneud gwahaniaeth y mae modd ei fesur i iechyd a llesiant, drwy ddata a gwaith dadansoddi pwerus y gellir gweithredu ar eu sail, a thrwy adnoddau a systemau digidol arloesol ac effeithlon.

  • Creu gyda’n gilydd – Mae angen i ni greu’r hyn y mae ar bobl ei angen.
  • Bod yn yr un man â phobl – Byddwn yn gweithio ac yn cyhoeddi mewn mannau lle gall y bobl y mae ein hangen arnynt gael gafael arnom.
  • Meddwl yn ystwyth, dylunio’n ymarferol – Byddwn yn parhau i ddefnyddio cylchoedd cyflym o ddatblygu a chyflawni pethau sy’n “ddigon da”, fel bod modd iddynt gael eu defnyddio’n brydlon.
  • Croesawu pethau newydd – Byddwn yn gwneud yn fawr o’r data yr ydym yn gofalu amdano fel ei fod o fudd i iechyd a llesiant y cyhoedd. Mae angen i ni ystyried ffynonellau newydd o wybodaeth, megis technoleg y gellir ei gwisgo; gwaith monitro gweithgarwch; gwaith dadansoddi iechyd a gweithgareddau iach; a ffyrdd gwell o rannu gwybodaeth a chyngor â phobl Cymru. At hynny, gallwn wneud defnydd gwell o wasanaethau digidol a thechnolegol newydd, megis gwasanaethau’r cwmwl ar gyfer ein gwaith dadansoddi a phrosesu, a hygyrchedd gwell o bell.
  • Defnyddio deallusrwydd artiffisial yn ofalus – Mae technoleg deallusrwydd artiffisial ymhell o fod yn gallu cymryd lle pobl. O safbwynt cyfreithiol, moesegol a thechnegol, mae angen i dechnoleg deallusrwydd artiffisial gael ei goruchwylio o hyd gan bobl. Er hynny, mae ganddi rôl bwysig i’w chwarae ym maes iechyd a gofal, ochr yn ochr â sgiliau ac arbenigedd pobl. Gall defnyddio’r math cywir o ddeallusrwydd artiffisial yn ofalus ac yn dda ryddhau amser y gall arbenigwyr ei dreulio’n rhyngweithio â phobl yn uniongyrchol.
  • Mesur dylanwad – Byddwn yn tracio ein heffaith, gan archwilio sut y mae ein data’n cael ei ddefnyddio gennym ni a gan eraill i wneud gwahaniaeth i iechyd a llesiant pobl.

Byddwn yn gwerthuso ein datblygiadau arloesol ym maes technoleg ddigidol a data er mwyn deall a yw’r hyn a wnawn yn gwneud gwahaniaeth i iechyd a llesiant pobl yng Nghymru, ac os nad ydyw, er mwyn dysgu, addasu a gwella.

 

Ein hegwyddorion 

O fewn pob un o’r tri maes, byddwn yn parhau i ddychwelyd at yr egwyddorion sydd fwyaf gwerthfawr i’n timau. Cafodd yr egwyddorion hynny eu datblygu gan bobl o bob rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Pobl yn gyntaf – man cychwyn a gorffen ein gwasanaethau yw pobl, oherwydd mae gwella iechyd a llesiant y cyhoedd yn ganolog i’r hyn a wnawn. Rydym yn gwerthfawrogi’r cyhoedd. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi’r bobl sy’n creu ac yn rhedeg ein gwasanaethau, oherwydd er mwyn darparu gwasanaethau gwych mae arnom angen timau gwych.

Yn hygyrch, yn deg ac yn gyfartal – dylai pawb y mae arnynt angen ein gwasanaethau fod yn gallu dod o hyd iddynt a’u defnyddio. Rydym am ddylunio a chreu ein gwasanaethau fel nad oes dim ynglŷn ag anghenion person yn ei rwystro rhag defnyddio ein gwasanaethau.

Yn agored yn ddiofyn, ac yn ddiogel o ran dyluniad – wrth rannu’r hyn a allwn yn agored ac yn dryloyw, rydym yn cynyddu gwerth ein gwasanaethau ac yn ennill ymddiriedaeth pobl eraill. 

Yn effeithlon – rydym yn ailddefnyddio’r hyn a allwn, yn dileu copïau ac yn creu cydrannau y mae modd eu hailddefnyddio, fel bod gennym lai o bethau i ofalu amdanynt. Rydym yn gwneud y defnydd gorau o’r hyn sydd gennym. Gallwn ddefnyddio dulliau gwahanol megis gweithio’n ystwyth a gweithio’n ddarbodus i roi prawf a rhoi cynnig ar syniadau mewn ffyrdd cyflymach a rhatach. 

Yn canolbwyntio ar y dyfodol – rydym yn troi data yn ddealltwriaeth y gallwn ei defnyddio i wneud penderfyniadau. Rydym yn creu systemau a gwasanaethau y gall pobl eu defnyddio mewn ffyrdd sy’n gweithio orau iddyn nhw.