Mae ymchwil ar y brechiad HPV wedi bod yn mynd rhagddi ers llawer o flynyddoedd. Mae'r JCVI yn monitro rhaglenni brechu ac unrhyw dystiolaeth newydd o ymchwil i frechiadau. Yn seiliedig ar y dystiolaeth newydd, mae'r JCVI wedi cynghori bod un dos yn rhoi amddiffyniad gwych ymhlith pobl ifanc ac oedolion hyd at 25 oed.
Mae'r holl dystiolaeth a ystyriwyd gan y JCVI yn cael ei chyhoeddi yn ei ddatganiad sydd ar gael yn:
Datganiad y JCVI ar amserlen un dos ar gyfer rhaglen imiwneiddio arferol HPV - GOV.UK (www.gov.uk)
Mae nifer o astudiaethau rhyngwladol hirdymor wedi helpu'r JCVI i wneud y penderfyniad hwn. Mae'r astudiaethau hyn yn darparu dros 10 mlynedd o dystiolaeth i gefnogi gwneud y newid hwn.
Mae'r dystiolaeth yn dangos bod un dos o'r brechiad HPV yn creu gwrthgyrff sy'n rhoi amddiffyniad parhaus cyn i bobl ddechrau cael rhyw. Mae un dos o'r brechiad HPV fwy na 97% yn effeithiol o ran amddiffyn yn erbyn y ddau straen o HPV sy'n achosi o leiaf 70% o ganser ceg y groth.
Mae Grŵp Cynghori Strategol o Arbenigwyr Imiwneiddio (SAGE) Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud:
“….mae un dos o'r brechiad Feirws Papiloma Dynol (HPV) yn rhoi amddiffyniad cadarn yn erbyn HPV, y feirws sy'n achosi canser ceg y groth, y gellir ei gymharu ag amserlenni 2 ddos. Gallai hyn newid cywair o ran atal y clefyd…”
Mae rhagor o wybodaeth gan SAGE Sefydliad Iechyd y Byd am y rhaglen frechu HPV ar gael yn: