Yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd ar gyfer 2023-24
Ar y dudalen hon
Mae tua 100 o fathau o'r papilomafeirws dynol (HPV). Mae HPV yn feirws DNA elfen ddwbl sy'n heintio epithelia cennog gan gynnwys y croen a mwcosa'r llwybrau anadlol ac anogenhedlol uchaf. Er bod y rhan fwyaf o heintiau yn asymptomatig ac yn bosib eu rheoli eich hun, mae haint cenhedlol gan HPV yn gysylltiedig â defaid gwenerol a chanserau anogenhedlol mewn dynion a merched. Mae feirysau HPV yn cael eu dosbarthu naill ai fel mathau ‘risg uchel’ neu ‘risg isel’ yn dibynnu ar eu cysylltiad â datblygiad canser.
Ers 2018, mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi bod yn adolygu'n fanwl y dystiolaeth am amddiffyn drwy gael un dos o frechlyn HPV. Mae'r JCVI o'r farn bod y dystiolaeth bellach yn gryf iawn bod un dos yn rhoi amddiffyniad tebyg i'r hyn a roddir gan ddau ddos.
Gweler datganiad y JCVI yn llawn yma: Datganiad y JCVI ar amserlen un dos ar gyfer y rhaglen imiwneiddio HPV arferol - GOV.UK (www.gov.uk)
Yng Nghymru a Lloegr o 1 Medi 2023, bellach mae amserlen un dos ar gyfer brechiadau HPV ar gyfer rhaglen arferol y glasoed a dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion (GBMSM) o dan 25 oed. Darperir manylion pellach yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru WHC/2023/016 (gweler yr adran Canllawiau isod).
Argymhellir un dos o'r brechlyn HPV ar gyfer:
Pawb yn y glasoed sy'n imiwnogymwys (bechgyn a merched)*. Mae'r brechlyn HPV yn cael ei gynnig mewn ysgolion i ddisgyblion ym Mlwyddyn 8 (rhwng 12 a 13 oed fel arfer). Mae dynion a merched mewn carfannau sy'n gymwys i gael eu brechu yn y rhaglen genedlaethol yn parhau felly tan eu pen-blwydd yn 25 oed - gweler y Llyfr Gwyrdd am fanylion.
GBMSM hyd at 25 oed sy'n mynychu Gwasanaethau Iechyd Rhywiol Arbenigol a/neu glinigau HIV.*
Mae amserlen dau ddos or brechiad HPV yn cael ei argymell ar gyfer:
GBMSM sydd rhwng 25 a 45 oed.
* Noder: dylai unigolion sy'n gymwys ar gyfer brechiad HPV sy'n imiwnoataliedig neu'n HIV positif gael cynnig tri dos o'r brechlyn HPV.
Gardasil yw’r brechlyn sydd wedi cael ei ddefnyddio gan y GIG ers 2012. Yn 2022, cyflwynwyd Gardasil 9 yn rhan o raglen frechu HPV y GIG. Dyma’r prif frechlyn HPV sy’n cael ei roi yng Nghymru nawr.
Mae Gardasil 9 yn gwarchod rhag mathau o HPV (6, 11, 16, 18, 31, 33, 45, 52 a 58). Mae mathau HPV: 16 ac 18 yn fathau HPV risg uchel a all arwain at ganser; mae 6 ac 11 yn fathau HPV sy’n achosi tua 90% o’r holl ddefaid anogenhedlol mewn gwrywod a benywod.
Mae Gardasil 9 yn cynnig gwarchodaeth rhag 5 math ychwanegol o HPV (31, 33, 45, 52, 58) sydd, er yn llai cyffredin na mathau 16 a 18, hefyd yn cael eu hystyried yn risg uchel. Mae Gardasil 9 yn gwarchod rhag y mwyafrif o ganserau ceg y groth, y fagina a’r fylfa a briwiau cyn-ganseraidd, yn ogystal â defaid gwenerol sy'n gysylltiedig â HPV.
Mae'r Amserlen Imiwneiddio Rheolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am brechlynnau sy'n rheolaidd a'r rhai sydd ddym yn rheolaidd.
Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.
Joint Committee on Vaccination and Immunisation - GOV.UK (i ddarllen cyhoeddiadau a datganiadau'r JCVI gallwch chwilio am e.e. HPV)
Newidiadau i’r brechlyn ar gyfer y rhaglen Imiwneiddio HPV (WHC/2022/023) Medi 2022
Cyngor interim y JCVI ar amserlen un dos ar gyfer y rhaglen imiwneiddio HPV Chwefror 2022
Y brechlyn HPV i fechgyn yn eu harddegau (2018)
Y brechlyn HPV i ddynion sy’n cael rhyw gyda dynion (2017)
Llythyr y Prif Swyddog Nyrsio i Gyfarwyddwyr Addysg Awdurdodau Lleol a Swyddogion Llywodraethu Ysgolion (sharepoint.com) Chwefror 2021
Llythyr ar y cyd y Prif Swyddog Meddygol/y Prif Swyddog Nyrsio/Cyfarwyddiaeth y Cyfarwyddwyr Addysg at benaethiaid - Cynnal rhaglenni brechu mewn ysgolion yn ystod COVID-19 (2020)
Gellir cael mynediad i gyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau ac afiechydon drwy'r dudalen E-ddysgu.
Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddi.
Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar dudalen Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru
Mae Sgrinio Serfigol Cymru yn gyfrifol am raglen sgrinio serfigol y GIG yng Nghymru.