Casglwch eich syniadau:
Gall creu “Jar Llawenydd” eich helpu gyda rhai o'r teimladau hyn a bydd yn rhywbeth i edrych ymlaen ato.
Gall y pethau rydych yn eu hychwanegu at y jar fod yn fawr neu'n fach - rhywbeth rydych yn edrych ymlaen at ei wneud, rhywbeth rydych yn gwybod eich bod yn ei fwynhau a'i garu.
Dilynwch y camau syml hyn:
- Dewch o hyd i jar gartref, ei addurno â sticeri neu ei baentio, a gwnewch dwll bach yn y caead
- Pan fyddwch yn teimlo eich bod yn gweld eisiau rhywbeth neu'n meddwl am rywbeth rydych chi wir eisiau ei wneud, ysgrifennwch eich syniad ar ddarn o bapur.
- Rhowch hwn yn y jar.
- Ymrwymwch i wneud pob syniad a'i fwynhau'n fawr, pan fyddwch yn gallu gwneud hynny.
Ddim yn gwybod lle i ddechrau? Dyma rai enghreifftiau:
- Adeiladu cestyll tywod ar y traeth gyda fy mhlant
- Mynd i fy hoff dafarn a chael diod gyda fy ffrindiau gorau
- Mynd â fy ŵyr i fwydo'r hwyaid