Mae'r argyfwng COVID19 yn golygu ein bod yn aros yn ein cartrefi ac yn agos at ein cartrefi yn fwy nag ar unrhyw adeg arall yn ein hanes - ond mae llawer o bobl yn dod o hyd i ffyrdd y gallant gael gwared ar effeithiau bod dan do yn rhy hir. Gall hyn helpu p'un a ydych chi ddim fel arfer yn meddwl gormod am weithgarwch corfforol neu yn gyfarwydd â chymryd rhan mewn chwaraeon neu ymarfer corff yn rheolaidd.
- Mae cadw'n egnïol, beth bynnag yw eich oedran neu'ch gallu, yn dod â buddiannau gwirioneddol i'ch iechyd corfforol a'ch llesiant meddyliol.
- Gall cadw'n egnïol olygu bod yn egnïol yn eich cartref a'ch gardd: gwneud swyddi a thasgau yn y cartref, chwarae gemau gyda'ch plant neu roi cynnig ar raglen ymarfer corff strwythuredig sy'n addas i chi.
- Gall cadw'n egnïol olygu defnyddio'r amser ymarfer corff dyddiol yn yr awyr agored y mae canllawiau'r Llywodraeth yn ei ganiatáu, i fynd am dro, rhedeg neu feicio, gan gofio gwneud hyn yn agos at eich cartref a phan allwch fod yn siŵr o ddilyn y rheolau cadw pellter cymdeithasol, i'ch cadw chi ac eraill yn ddiogel.
Fe gewch offer, cyngor a syniadau isod i'ch helpu i'ch cadw chi a'ch teulu i symud, beth bynnag yw eich oedran neu'ch gallu. Rydym yn awyddus i glywed sut hwyl a gewch arni ac i chi rannu eich profiad a'ch cyngor ag eraill sy'n defnyddio'r wefan hon.