Neidio i'r prif gynnwy

Ystadegau newydd samplau patholeg yn dangos effaith y pandemig ar ddiagnosis canser ac adferiad parhaus

Cyhoeddig: 8 Medi 2023

Mae cyfraddau canfod canser yn adfer yn arafach ar gyfer rhai mathau o ganser i’w cymharu ag eraill, yn ôl dadansoddiad newydd o samplau patholeg gan Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (WCISU) o Iechyd Cyhoeddus Cymru. Roedd cyfraddau canfod canser y prostad bron 20 y cant yn is yn 2022 nag yn 2019, ac roedd canser yr ysgyfaint bron bump y cant yn is yn yr un cyfnod.   
 
Yr ystadegau swyddogol sydd wedi'u rhyddhau gan Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (WCISU) yw'r tro cyntaf y mae samplau patholeg wedi'u defnyddio i asesu'r darlun o ganfod canser ledled Cymru, ac mae'n galluogi amcangyfrif mwy amserol a chyfoes o nifer yr achosion o ganser ledled Cymru. 

Mae'r data hefyd yn dangos bod canserau eraill yn adfer yn raddol, gyda chyfraddau canfod canser y fron wedi cynyddu 5.2 y cant a chanser y coluddyn 2.8 y cant rhwng 2019 a 2022. 

Mae'r dadansoddiad patholeg yn dangos bod y gyfradd o ddiagnosis canser o bob math ar y cyd wedi gwella a bron wedi cyrraedd lefelau cyn y pandemig erbyn 2022, gyda dim ond 0.4 yn llai o ganserau wedi'u canfod nag yn 2019. 

Meddai'r Athro Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'r dadansoddiad hwn yn dangos effaith barhaus y pandemig ar ganfod canserau yng Nghymru.   

“Mae'r datganiad cyntaf erioed hwn o ystadegau canser o samplau patholeg yn dangos bod adfer y niferau o ddiagnosis adeg y pandemig yn dal i amrywio rhwng gwahanol ganserau.   

“Mae'n galonogol bod canserau'r fron a'r coluddyn yn dangos gwelliannau mewn lefelau canfod, ond yn amlwg fod heriau'n parhau mewn cyfraddau canfod ar gyfer canserau eraill. Mae data patholeg misol hefyd yn awgrymu bod y gyfradd canfod canser gyffredinol yn hanner cyntaf 2023 wedi parhau tua'r un peth â'r un cyfnod yn 2022. 

“Rwy'n falch ein bod wedi gallu gweithredu'r broses o gasglu data o samplau patholeg, a fydd yn rhoi gwybodaeth fwy amserol a chyfoes i ni.  Bydd y datganiad newydd o ystadegau yn cael ei ddangos ar yr offeryn adrodd ar ganser ar-lein, a gafodd ei lansio'n gynharach eleni, sydd ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.” 

Mae'r ystadegau canser swyddogol diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cynnwys data cofrestru canser o ansawdd uchel, cywir a chyflawn ar bob achos o ganser ym mhoblogaeth Cymru hyd at a chan gynnwys 2020, yn ogystal â'r data patholeg cyflymach. Mae'r rhain yn atgyfnerthu’r data a ryddhawyd yn gynharach yn y flwyddyn, sy'n dangos bod y nifer diffiniol o ganserau newydd a ganfuwyd wedi gostwng 14.2 y cant yn 2020 o gymharu â 2019, sy'n cyferbynnu â'r duedd rhwng 2002 a 2019 sy'n dangos cynnydd o bron 27 y cant.