Mae'r offeryn adrodd ar ganser newydd yn cadw Ystadegau Swyddogol ar mynychder o ganser, marwolaethau, a goroesiad yng Nghymru ar gyfer y blynyddoedd 2002 ymlaen. Mae’n ddangosfwrdd rhyngweithiol sy’n eich galluogi i archwilio’r data mewn gwahanol ffyrdd megis, er enghraifft: dadansoddiad cyfres amser, proffiliau ardal ddaearyddol, cam adeg diagnosis, amddifadedd ardal, cymariaethau â gwledydd eraill y DU ac effaith y pandemig COVID-19. Mae’r offeryn hefyd yn cynnwys ystadegau arbrofol newydd sy’n dangos samplau patholeg canser misol hyd at 2023, sy’n caniatáu cipolwg cyflymach ac amserol ar fynychder canser yng Nghymru.
Mynychder yr holl ganserau ar gyfer blynyddoedd diagnosis 2002-2020 a samplau patholeg ar gyfer blynyddoedd 2018 i 2023. Gellir archwilio'r Ystadegau Swyddogol mynychder newydd a data patholeg arbrofol yn yr Offeryn Adrodd ar Ganser a'u canfod yn y tablau data mynychder a phatholeg.
Cliciwch yma i weld negeseuon allweddol y cyhoeddiad blaenorol
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein cynhyrchion i sicrhau eu bod yn hawdd eu defnyddio. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth ar y cyhoeddiad hwn, cysylltwch â ni drwy e-bostio wcu.stats@wales.nhs.uk
Diwygiwyd lawrlwythiadau data atodol ar 26 Mehefin i fynd i'r afael â phroblem ansawdd a nodwyd yn y cyfansymiau a'r cyfraddau oed-benodol cyhoeddedig. Mae rhai grwpiau oedran wedi'u cyfuno yn y ffeil wedi'i diweddaru. Nid yw hyn wedi effeithio ar unrhyw ystadegau a gyhoeddwyd yn yr adnodd adrodd am ganser.
Ystadegydd cyfrifol: Leon May
E-bost: wcu.stats@wales.nhs.uk
Ffôn: +44 (0)29 2037 3500
Cliciwch yma i archwilio'r tablau data
Offeryn Adrodd Canser Canllaw Technegol
Dr Tracey Cooper, Cadeirydd Bwrdd Canser GIG Cymru a Prif Weithredydd Iechyd Cyhoeddus Cymru
Yr Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru
Anthony Davies, Uwch Reolwr Polisi, Tîm Polisi Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, Llywodraeth Cymru