Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd a Gofal Seiliedig ar Atal

Fframwaith i wreiddio atal yn y system iechyd a gofal yng Nghymru.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi datblygu Fframwaith Iechyd a Gofal Seiliedig ar Atal (IGSA), sy’n nodi’r elfennau sylfaenol sydd eu hangen i symud y system iechyd a gofal tuag at ymagwedd sy’n seiliedig ar atal.

Mae’r Fframwaith yn gweithredu fel ambarél, gan ddwyn ynghyd nifer o ddulliau sydd wedi’u hen sefydlu, a’r bwriad yw ei gysoni â gwaith ar draws y system, gan gynnwys gwaith ar anghydraddoldebau, rheoli iechyd y boblogaeth, gofal iechyd y cyhoedd, llwybrau gofal iechyd a gwaith ar draws sectorau a rhaglenni cenedlaethol â’r nod o wreiddio iechyd ym mhob polisi.

Trwy greu cyd-ddealltwriaeth o ddull gweithredu systematig a chyd-gysylltiedig sy’n seiliedig ar atal, mae’r Fframwaith IGSA yn helpu i nodi:

  • Pa gamau sydd eu hangen i gyflawni nod cyffredin.
  • Cyd-ddibyniaethau a chyfleoedd ar gyfer aliniad
  • Gyda phwy i gydweithio i gael yr effaith gyfunol orau.

Mae adroddiad llawn i gyd-fynd â’r ffeithlun yn cael ei ddatblygu gyda rhanddeiliaid ar draws y system iechyd a gofal yng Nghymru, a bydd yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.