Neidio i'r prif gynnwy

Beth fydd angen i mi ei wneud?

Er mwyn cynnal yr ymchwil bydd angen i ni siarad â phobl a gafodd wybod gan swyddog olrhain cysylltiadau eu bod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun gafodd brawf positif ar gyfer y coronafeirws a bod yn rhaid iddynt hunanynysu.  Dyma pam y cawsoch neges destun (SMS) neu alwad ffôn yn ddiweddar i gymryd rhan mewn arolwg byr ar-lein neu dros y ffôn.

Mae Asiantaeth Beaufort Research (gwefan: https://beaufortresearch.co.uk/?lang=cy) yn ogystal â Healthcare Communications (gwefan: https://healthcare-communications.com/) yn gweithio ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cawsant eich manylion cyswllt gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gan fod Tîm Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu y GIG wedi cysylltu â chi’n ddiweddar i roi gwybod eich bod yn un o gysylltiadau agos i rywun a gafodd brawf positif ar gyfer y coronafeirws a bod yn rhaid i chi hunanynysu. Mae’n ofynnol yn statudol i Iechyd Cyhoeddus Cymru gynnal a chomisiynu ymchwil sy’n darparu gwybodaeth a all ddiogelu iechyd pobl Cymru.  I gael gwybodaeth am hyn, ewch i wefan Llywodraeth y DU yma: https://www.legislation.gov.uk/wsi/2009/2058/article/3/made