Neidio i'r prif gynnwy

Adran 6 - Sgrinio ar gyfer syndrom Down, syndrom Edwards a syndrom Patau yn ystod beichiogrwydd

Mae’r adran hon yn esbonio’r profion y gellir eu cynnal yn ystod beichiogrwydd i gael gwybod a oes gan eich babi syndrom Down (trisomedd 21 neu T21), syndrom Edwards (trisomedd 18 neu T18) neu syndrom Patau (trisomedd 13 neu T13). Bydd menywod sy’n cael gwybod ei bod yn fwy tebygol bod gan eu babi y cyflyrau hyn yn cael cynnig prawf sgrinio arall neu driniaeth fewnwthiol, fel prawf samplu filws corionig neu amniosentesis (gweler adran 7).

Mae’r clip ffilm, sy’n rhoi rhagor o wybodaeth i chi am sgrinio ar gyfer y cyflyrau hyn, ar gael o: icc.gig.cymru/sgrinio-cyn-geni

Gallwch ddewis a ydych am gael y profion hyn ai peidio. Mae rhai menywod am wybod a oes gan eu babi un o’r cyflyrau hyn ac nid yw eraill am wybod hyn.
 

Mae'r animeiddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y profion sgrinio a gynigir i chi yn ystod beichiogrwydd i chi a'ch babi.

 

Beth yw syndrom Down (T21)?

Achosir syndrom Down gan gopi ychwanegol o gromosom 21 mewn rhai, neu bob un, o gelloedd y corff.

Gall pobl â syndrom Down gael ansawdd bywyd da ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn dweud eu bod yn mwynhau eu bywydau. Gyda

chymorth, mae llawer o bobl â syndrom Down yn gallu cael swyddi, cael perthnasoedd a byw’n lled-annibynnol pan fyddant yn oedolion.

Bydd gan berson sydd â syndrom Down ryw lefel o anabledd dysgu.

Mae hyn yn golygu y bydd yn anoddach deall a dysgu pethau newydd na’r rhan fwyaf o bobl eraill. Gallant wynebu heriau cyfathrebu a chael trafferth ymdopi â rhai tasgau bob dydd. Mae’r rhan fwyaf o blant â syndrom Down yn mynd i ysgolion prif ffrwd, ond mae angen cymorth ychwanegol arnynt.

Mae’n fwy tebygol y bydd pobl â syndrom Down â rhai cyflyrau meddygol, gan gynnwys cyflyrau’r galon. Gellir trin llawer o’r cyflyrau hyn, gyda chanlyniadau da.

Yng Nghymru, mae 90% (9 mewn 10) o blant â syndrom Down yn byw heibio i’w pen-blwydd yn bump oed. I fabanod heb gyflyrau iechyd difrifol, mae’r cyfraddau goroesi’n debyg i rai plant eraill. Gyda gofal iechyd da, bydd y rhan fwyaf o bobl yn byw i’w 60au.

Mae gan bob menyw siawns o gael babi â syndrom Down. Mae’r siawns yn cynyddu gydag oedran, ond genir babanod â syndrom Down i fenywod iau hefyd. Dyma pam y cynigir y prawf sgrinio i fenywod o bob oed.

Mae syndrom Down yn digwydd mewn 1 o bob 415 beichiogrwydd yng Nghymru.

Gallwch weld rhai straeon teulu am fyw gyda syndrom Down ar wefan Sgrinio Cyn Geni Cymru yma.
 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am syndrom Down o'r canlynol:

NHS 111 Wales - Health A-Z : Down's syndrome

 

Beth yw syndrom Edwards (T18) a syndrom Patau (13)?

Mae babanod â syndrom Edwards â chopi ychwanegol o gromosom 18 mewn rhai, neu bob un, o’r celloedd. Mae babanod â syndrom Patau â chopi ychwanegol o gromosom 13 mewn rhai, neu bob un, o’r celloedd.

Yn anffodus, mae’r cyfraddau goroesi’n isel ac, o’r babanod a enir yn fyw yng Nghymru, dim ond 13% (1 mewn 7) sy’n byw heibio i’w pen-blwydd yn flwydd oed.

Mae rhai babanod yn goroesi nes eu bod yn oedolion, ond mae hyn yn brin.

Bydd gan yr holl fabanod sy’n cael eu geni â syndrom Edwards a syndrom Patau anabledd dysgu ac amrywiaeth eang o heriau corfforol, a all fod yn eithriadol o ddifrifol. Efallai y bydd ganddynt gyflyrau sy’n effeithio ar eu calon, eu haelodau, eu harennau a’u system dreulio.

Bydd tua hanner y babanod â syndrom Patau â gwefus a thaflod hollt. Bydd babanod â syndrom Edwards a syndrom Patau â phwysau geni isel.

Er gwaethaf eu hanawsterau, gall plant wneud cynnydd araf yn eu datblygiad. Byddai angen i blant hŷn â’r naill gyflwr neu’r llall fynd i ysgol arbenigol.

Mae gan bob menyw siawns o gael babi â syndrom Edwards neu syndrom Patau. Mae’r siawns yn cynyddu gydag oedran, ond genir babanod â’r cyflyrau hyn i fenywod iau hefyd. Dyma pam y cynigir y prawf sgrinio i fenywod o bob oed.

Mae syndrom Edwards yn digwydd mewn tua 1 o bob 1656 beichiogrwydd a syndrom Patau mewn 1 o bob 4201.

Gallwch weld rhai straeon teulu am fyw gyda syndrom Down ar wefan Sgrinio Cyn Geni Cymru yma.
 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am syndrom Edwards a syndrom Patau o'r canlynol: 111.wales.nhs.uk/Encyclopaedia/e/article/edwardssyndrome(trisomy18)

111.wales.nhs.uk/Encyclopaedia/p/article/pataussyndrome

 

Pa brawf sgrinio fydd yn cael ei gynnig i mi?


Prawf sgrinio cyfunol – cynhelir y prawf hwn ar ôl rhwng 11 a 14 wythnos o feichiogrwydd

Cewch gynnig sgan uwchsain (os yw’n bosibl, bydd y sonograffydd yn mesur y crynhoad bach o hylif (tryleuder y gwegil) yng nghefn gwddf y babi). Yna, cewch gynnig prawf gwaed. Caiff y mesuriadau eu cymryd ar adeg y sgan. Defnyddir canlyniadau’r prawf gwaed a’ch oedran i bennu’r siawns bod gan eich babi syndrom Down a’r siawns bod gan eich babi syndrom Edwards neu syndrom Patau.

Weithiau, gall y mesuriadau fod yn anodd eu cael. Er enghraifft, mae’n bosibl bod eich babi yn gorwedd yn y safle anghywir neu mae’n bosibl eich bod yn pwyso’n fwy na’r cyfartaledd ar gyfer eich taldra ac mae hyn yn golygu ei bod yn anodd edrych ar eich babi gan nad yw’r delweddau’n glir. Os na all y sawl sy’n cynnal y sgan (y sonograffydd) gael mesuriad, bydd yn dweud wrthych.
 

Prawf sgrinio pedwarplyg – cynhelir y prawf hwn ar ôl rhwng 15 a 18 wythnos o feichiogrwydd

Cewch gynnig prawf pedwarplyg os na ellir cymryd y mesuriadau sydd eu hangen neu os ewch i apwyntiad sgan pan fyddwch wedi bod yn feichiog am fwy na 14 wythnos. Mae hyn yn golygu cael prawf gwaed i gael gwybod y siawns bod gan eich babi syndrom Down, ond nid syndrom Edwards na syndrom Patau.

Gallwch ddewis cael sgan dyddio beichiogrwydd cynnar ai peidio. Hefyd, gallwch ddewis cael sgan dyddio beichiogrwydd cynnar, ond nid y prawf sgrinio ar gyfer syndrom Down, syndrom Edwards a syndrom Patau.

 

Beth fydd canlyniad y prawf sgrinio’n ei ddweud wrthyf?

Gall y prawf sgrinio ddweud wrthych pa mor debygol ydyw y bydd gan eich babi un o’r cyflyrau.

Y prawf cyfunol

  • Caiff hwn ei gynnal ar neu cyn yr adeg yn feichiog am 14 wythnos ac 1 diwrnod.
  • Os cewch y prawf cyfunol, cewch ddau ganlyniad gwahanol:
    • Bydd un yn dweud wrthych pa mor debygol ydyw y bydd gan eich babi syndrom Down.
    • Bydd y llall yn dweud wrthych pa mor debygol ydyw y bydd gan eich babi syndrom Edwards neu syndrom Patau.

 Y prawf pedwarplyg

  • Cynhelir hwn ar ôl rhyw 16 wythnos o feichiogrwydd (ond gellir ei gynnal rhwng 15 wythnos a 0 diwrnod a 18 wythnos a 0 diwrnod o feichiogrwydd) a bydd dim ond yn dweud wrthych beth yw’r siawns y byddwch yn cael babi â syndrom Down.

Nid yw’r prawf sgrinio’n nodi’r holl fabanod â’r cyflyrau hyn. Er enghraifft, ar gyfartaledd, bydd 70% i 80% (tua saith neu wyth mewn 10) o fabanod â'r cyflyrau hyn yn cael eu nodi drwy sgrinio. Mae hyn yn golygu na fydd 20% i 30% (tua dau neu dri mewn 10) o fabanod â’r cyflyrau hyn yn cael eu nodi gan y prawf sgrinio.

 

Beth yw manteision cael prawf sgrinio ar gyfer y cyflyrau hyn?

Os bydd gan eich babi un o’r cyflyrau hyn, gallwch wneud dewisiadau am eich beichiogrwydd. Er enghraifft, gallwch benderfynu a ddylid paratoi ar gyfer genedigaeth eich babi gydag un o’r cyflyrau hyn neu roi terfyn ar eich beichiogrwydd.
 

Beth yw anfanteision cael prawf sgrinio ar gyfer y cyflyrau hyn?

Gall cael y prawf eich gwneud yn bryderus, yn enwedig os cewch ganlyniad sy’n dangos bod gennych siawns uwch o gael babi ag un o’r cyflyrau hyn. ‘Siawns uwch’ yw sut rydym yn disgrifio’ch canlyniad os yw rhwng 1 mewn 2 ac 1 mewn 150. Os yw’r canlyniad rhwng 1 mewn 2 ac 1 mewn 150, cewch gynnig naill ai:

  • dim rhagor o brofion
  • prawf sgrinio arall o’r enw prawf cynenedigol anfewnwthiol (NIPT), sy’n fwy cywir na’r prawf cyfunol neu’r prawf pedwarplyg, neu
  • brawf mewnwthiol i weld a yw’ch babi yn bendant ag un o’r cyflyrau hyn.

Oherwydd bod siawns fach y gallai’r prawf mewnwthiol, o’r enw amniosentesis neu’r prawf samplu filws corionig, achosi camesgoriad, mae hwn yn benderfyniad anodd i lawer o fenywod.

 

A ddylwn gael y prawf sgrinio ar gyfer syndrom Down (T21), syndrom Edwards (T18) a syndrom Patau (T13)?

Dim ond chi all benderfynu cael y prawf sgrinio ai peidio. Mae rhai menywod am gael gwybod a oes gan eu babi’r cyflyrau hyn, ac nid yw eraill am wybod hyn. Mae pob ysbyty yng Nghymru yn cynnig prawf sgrinio i fenywod, ond chi sy’n penderfynu a ddylid cael y prawf ai peidio. Gallwch drafod â’ch bydwraig yr hyn rydych am ei wneud. Bydd eich penderfyniad yn cael ei barchu a bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cefnogi beth bynnag yw’ch penderfyniad.

Yn achlysurol, gall y sganiau a gewch yn ystod beichiogrwydd weld pethau a all nodi y gallai’ch babi fod ag un o’r cyflyrau hyn ac mae’n bosibl y cewch gynnig prawf mewnwthiol bryd hynny.
 

Canlyniadau

Rhoddir y canlyniadau naill ai fel ‘siawns uwch’ neu ‘siawns is’.
 

Beth sy’n digwydd os caf ganlyniad siawns is?

Os yw’ch canlyniad yn dangos bod gennych siawns is o gael babi â syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau, ni chynigir rhagor o brofion. Cofiwch nad yw cael siawns is yn golygu nad oes gennych siawns o gael babi ag un o’r cyflyrau hyn.
 

Beth sy’n digwydd os caf ganlyniad siawns uwch?

 

6

Os yw’ch canlyniad prawf yn dangos bod gennych siawns uwch o gael babi neu fabanod ag un o’r cyflyrau y cynhelir y profion sgrinio ar eu cyfer (hynny yw, siawns o 1 mewn 2 i 1 mewn 150), cewch gynnig apwyntiad gyda bydwraig neu feddyg ysbyty (obstetregydd). Byddant yn esbonio’ch canlyniad prawf i chi’n fanwl, gan gynnwys eich siawns unigol, a gallwch drafod a ydych am gael prawf sgrinio mwy cywir, sef prawf cynenedigol anfewnwthiol (NIPT), neu driniaeth fewnwthiol (prawf samplu filws corionig neu amniosentesis), a fydd yn rhoi canlyniad pendant i chi, ond mae’n cynnwys risg fach y byddwch yn camesgor. Mae’n bosibl y byddwch yn wynebu rhai penderfyniadau anodd ar ôl triniaeth fewnwthiol y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt ymlaen llaw.

 

Po isaf y rhif, uchaf y siawns. Felly, er enghraifft, mae 1 o bob 80 yn siawns uwch y bydd gan eich babi syndrom Down nag 1 o bob 140.

Mae rhwng 2% a 4% o fenywod (rhwng dwy a phedair mewn 100) sy’n cael y profion sgrinio cyfunol neu bedwarplyg yn cael canlyniad sy’n dangos bod ganddynt siawns uwch o gael babi ag un o’r cyflyrau hyn.

 

Prawf cynenedigol anfewnwthiol (NIPT)

Prawf sgrinio arall yw NIPT ac ni fydd yn rhoi canlyniad pendant. Fodd bynnag, mae’n fwy cywir na’r prawf cyfunol neu bedwarplyg. Mae’n brawf gwaed a gymerir gennych yn y modd arferol – bydd gan eich gwaed rywfaint o DNA eich babi (deunydd genetig o’r brych). Mae’r labordy’n sgrinio’r sampl gwaed hon i ddweud wrthych a oes siawns ‘uchel’ neu ‘isel’ bod gan eich babi syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau.

Os byddwch yn dewis y prawf hwn, mae’n cymryd tua dwy wythnos i gael y canlyniad fel arfer. Mewn tua 0.3% (1 mewn 300) o feichiogrwydd, ni fydd y prawf NIPT yn gallu rhoi canlyniad a chewch gynnig prawf mewnwthiol neu efallai y byddwch yn penderfynu peidio â chael rhagor o brofion.

Os yw canlyniad y prawf NIPT yn siawns uchel, cewch gynnig prawf mewnwthiol i ddweud wrthych yn bendant a oes gan eich babi un o’r cyflyrau hyn. Os penderfynwch beidio â chael prawf mewnwthiol, cewch eich cefnogi yn eich penderfyniad, a gallwn roi cymaint o wybodaeth

ag y dymunwch am y syndrom y mae’r prawf NIPT yn dweud bod siawns uchel ohono.

Os yw canlyniad y prawf NIPT yn siawns isel, mae’n annhebygol y bydd gan eich babi syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau ac ni chewch gynnig rhagor o brofion.

 

Pa driniaethau mewnwthiol a gynigir i mi os yw canlyniad y prawf sgrinio’n siawns uwch neu uchel?

Yn dibynnu ar nifer yr wythnosau rydych wedi bod yn feichiog, cewch gynnig naill ai prawf samplu filws corionig neu driniaeth amniosentesis (gweler adran 7).
 

Beth fyddai canlyniad prawf mewnwthiol yn ei ddweud wrthyf?

Byddai’r canlyniad yn dweud wrthych a yw’ch babi neu’ch babanod â syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau. Os yw’ch babi neu’ch babanod ag un o’r cyflyrau hyn, cewch benderfynu a ydych am baratoi ar gyfer genedigaeth eich babi neu roi terfyn ar eich beichiogrwydd.