Mae'r fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) hwn yn dweud wrthych beth fydd yn digwydd pan fyddwch chi'n dod i gael prawf sgrinio'r fron. (Eich helpu i Benderfynu)
Gallwch wylio hwn fel un fideo, neu mewn penodau byrrach os yw'n well gennych. Mae gennych yr opsiwn i ychwanegu isdeitlau Cymraeg neu Saesneg hefyd.
Mae'r fideo byr yma yn helpu i ateb rhai o'r cwestiynau a allai fod gan bobl am fynd i gael eu sgrinio.
Cafodd y fideo ei ddatblygu mewn partneriaeth â Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd, TAPE Community Music and Film a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr