Neidio i'r prif gynnwy

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru - Gwasanaeth CIVAS COVID-19 Cymru Gyfan

Yn ystod pandemig COVID-19, roedd cyfleusterau gofal critigol ledled Cymru o dan bwysau aruthrol. Rhoddodd gofynion y mewnlifiad uchel hwn o gleifion difrifol wael faich enfawr ar staff nyrsio ac adrannau fferylliaeth i gynnal cyflenwad o feddyginiaethau arbed bywyd hanfodol. Y canlyniad oedd bod cydweithwyr nyrsio yn treulio amser yn paratoi meddyginiaethau, gan leihau'r amser a oedd ar gael i'w neilltuo i ofal cleifion a chynyddu'r risg feddyginiaeth oherwydd yr amgylchedd dan bwysau. Roedd cyfyngiadau rheoleddio meddyginiaethau yn atal adrannau fferylliaeth rhag gallu darparu cymorth digonol.

Gwnaethpwyd y penderfyniad gan GIG Cymru i ymgysylltu â chyflenwyr masnachol i ddylunio ac adeiladu cyfleuster ystafell lân dros dro a oedd yn cadw at y gofynion rheoleiddio llym. Byddai'r uned feddyginiaethau hon yn cael ei staffio gan weithredwyr gweithgynhyrchu meddyginiaethau newydd eu hyfforddi gan ddefnyddio technoleg lled-awtomataidd i sicrhau'r effeithlonrwydd gorau.

Y broses gynhyrchu, gan ddefnyddio technolegau awtomataidd newydd, oedd prif ffocws y profion o fewn y prosiect. Mae gweithgynhyrchu meddyginiaethau aseptig yn broses a reoleiddir ac a reolir yn llym ac mae angen cynnal profion helaeth i sicrhau bod y broses yn ailadroddadwy ac yn atgynhyrchadwy, ac nad yw'n peri unrhyw risg i ddiogelwch cleifion. Ochr yn ochr â’r broses hon, roedd gofyn i hyfforddi a phrofi’n helaeth sgiliau a thechnegau’r gweithredwyr a oedd yn cyflawni prosesau dadheintio critigol a gweithgynhyrchu meddyginiaethau.

Ers derbyn Trwydded MHRA i weithgynhyrchu meddyginiaethau ym mis Ionawr 2021 mae uned Meddyginiaethau CIVAS@IP5 wedi paratoi a chyflenwi dros 26,000 o feddyginiaethau parod i’w rhoi i unedau gofal critigol yng Nghymru. Amcangyfrifir bod hyn wedi arbed 260 diwrnod o amser nyrsio, amser sydd bellach ar gael ar gyfer gofal cleifion uniongyrchol.

Wrth i'r galw am ofal critigol ddychwelyd i lefelau cyn-bandemig, mae'r uned yn defnyddio ei gallu i ddatblygu cynhyrchion newydd sy'n cael effaith ar ddiogelwch cleifion neu lefel gwasanaeth.


Gareth Tyrrell

gareth.tyrrell@wales.nhs.uk