Mae CCAM yn digwydd pan fydd syst anweithredol o feinwe abnormal yn cymryd lle rhan o’r ysgyfant.
Ni wyddys yn iawn, ond credir iddo gael ei achosi gan atresia bronciol lleol neu rwystriad bronciol.
Ni wyddys am yr un.
Mae’n bosibl darganfod CCAM yn gynenedigol trwy sganiad uwchsain. Dengys data CARIS fod y gyfradd ddarganfod o gwmpas 85 y cant.
Yng Nghymru
Mae 112 o achosion wedi cael eu hadrodd i CARIS (1998-2016) gan roi cyfradd fynychder grynswth o 1.8 i bob 10,000 o enedigaethau byw a marw. Mae dadansoddiad diweddar gan EUROCAT wedi awgrymu cynnydd cyffredinol yng Nghymru dros y degawd diwethaf. Nid yw’r rhesymau dros hyn yn glir, ond gallent ddeillio o welliannau yn y dulliau darganfod cynenedigol.
Cymru o’i chymharu â mannau eraill
Mae cyfradd gymedrig EUROCAT rywfaint yn is, sef 0.7 i bob 10,000 o enedigaethau byw a marw.
Rheolaeth a deilliannau
Mae’r deilliant yn dda iawn yn y rhan fwyaf o achosion, ac mae rhai achosion yn ymddatrys yn ystod y beichiogrwydd. Mae ymchwilio ôl-enedigol yn bwysig ar gyfer asesu ac efallai tynnu’r syst oherwydd y risg o o falaenedd, er bod barnau clinigol yn amhendant ynghylch yr opsiwn triniaeth sydd orau. Mae archwiliad diweddar ar achosion yng Nghymru’n awgrymu methiant i ganlyn arni â monitro wyth o bedwar deg wyth o achosion ar ôl genedigaeth.[1]
Ffynonellau
Textbook of Fetal Abnormalities 2nd edition, 2007 Twining, McHugo, Pilling Churchill Livingstone
Cyfeiriad
[1] Outcome of antenatally suspected congenital cystic adenomatoid malformation of the lungs (CCAM) and sequestration of the lungs in Wales, UK: 7 years experience 2000-2006, Gopalkrishnan, Calvert, Morris, Doull and Tucker, ICBDSR annual meeting, Salt Lake City, USA, 2009.