Neidio i'r prif gynnwy

Rheolaeth a deilliannau

Mae’r rhan fwyaf o rieni sy’n wynebu diagnosis tebygol o nam yn y tiwb niwrol yn derbyn cyngor realistig gan bediatryddion a newrolegwyr ynghylch y dyfodol sy’n debygol ar gyfer eu baban. Gall spina bifida achosi ystod eang o symptomau, ac yn benodol problemau gwybyddol, problemau o ran symudedd a chynhwystra (y coluddyn a’r bledren). Yn aml bydd rheoli spina bifida yn golygu llawdriniaeth a bydd angen cefnogaeth arbenigol ac aml-ddisgyblaethol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae datblygiadau mewn triniaeth wedi arwain at ragolygon mwy cadarnhaol ar gyfer spina bifida, ac mae’r rhan fwyaf o blant yn goroesi nes tyfu’n oedolion.

Genir 16% o’r holl fabanod sydd â namau yn y tiwb niwrol yn fyw (1998-2012); gwta 3% yw’r ganran ar gyfer anenseffali a 24% ar gyfer spina bifida.  Mae 95% o’r plant a enir yn fyw (1998-2006) â spina bifida yn goroesi tan eu pumed penblwydd.