Neidio i'r prif gynnwy

Patrymau a thueddau

Yng Nghymru

Yn draddodiadol mae’r mynychder wedi bod yn uchel yng Nghymru, ond mae’n gostwng:

  • Ym 1957 adroddodd astudiaeth yn ne Cymru gyfradd mynychder o 115 o NTDs i bob 10,000 o enedigaethau
  • Ym 1992 adroddodd astudiaeth ar rai ardaloedd yn ne Cymru gyfradd mynychder o 21 o NTDs i bob 10,000 o enedigaethau
  • O 1998 i 2008, dangosodd cyfraddau CARIS duedd barhaus tuag i lawr.

Ers 1998, mae’r duedd hon tuag i lawr wedi lefelu ac mae’n bosibl bod tuedd ysgafn tuag i fyny bellach. Ar hyn o bryd cofnodir tua 50 o achosion y flwyddyn o namau’r tiwb niwrol yng Nghymru, y genir 9 ohonynt yn fyw.

 

Neural tube defect welsh

Mae tua hanner yr achosion a adroddir i CARIS yn cynnwys spina bifida ac mae bron 40% yn cynnwys anenseffali; mae gan rai babanod namau lluosog yn y tiwb niwrol ynghyd ag anomaleddau cysylltiol eraill.

NTD 2018 trend

Ar lefel yr awdurdodau lleol gwelir gwahaniaethau yn y cyfraddau (ar gyfer pob NTD) ar draws Cymru na ellir eu hesbonio trwy batrymau amrywiaeth hysbys wrth adrodd. Ymddengys bod cyfraddau’n uwch yn ne’r wlad, ac adroddir y cyfraddau uchaf yn Sir Gaerfyrddin. Ymchwiliwyd i’r canfyddiad hwn yn 2007, ond ni chafwyd hyd i’r un ffactor a allai achosi’r lefelau uwch yn Sir Gâr (John, 2007). Mae CARIS yn dal i fonitro’r sefyllfa ers hynny. Mae’r cyfraddau uchel wedi parhau yn Sir Gaerfyrddin, ond erys y rhesymau’n anniffiniol.

 

NTD map 2018 welsh

Dengys data CARIS fod cyfraddau namau’r tiwb niwrol yn uwch ym mhumed mwyaf difreintiedig ardaloedd Cymru, o’u cymharu â’r ardaloedd yn y pumed lleiaf difreintiedig (mwyaf goludog). Nid yw’r rhesymau’n amlwg, ond mae’n bosibl mai un ffactor yw’r amrywiad yn y defnydd a wneir o ychwanegion asid ffolig mamol cyn ac yn ystod misoedd cynnar beichiogrwydd.

NTD WIMD 2018 welsh

1 – lleiaf difreintiedig           5 – mwyaf difreintiedig

O ran grwpiau oedran, gwelir y cyfraddau uchaf mewn menywod dan 25 neu dros 40 mlwydd oed. Mae cyfraddau ymhlith mamau hŷn yn debyg o fod yn gysylltiedig â phresenoldeb uwch anomaleddau cromosomaidd, sy’n ffactor risg hysbys ar gyfer namau’r tiwb niwrol. Mae’n bosibl bod y maint o asid ffolig a gymerir yn y deiet yn amrywio hefyd yn unol ag oedran y fam.

Mae cofnod mamolaeth Cymru gyfan wedi sefydlu system lle nad yw maint yr asid ffolig a gymerir gan y fam cyn ac yn ystod cyfnod cynnar y beichiogrwydd yn cael ei gofnodi’n ddigon fanwl i fod yn ddefnyddiol. Nid yw’n bosibl asesu cymeriant y fam felly na sut gallai hyn effeithio ar fynychder namau’r tiwb niwrol yng Nghymru. Roedd y data hanesyddol i Gymru a adroddwyd i CARIS yn anghyflawn, ond awgrymai fod llawer o famau’n methu â chymryd asid ffolig ar yr adeg a argymhellid i leihau’r risg o namau’r tiwb niwrol.