Neidio i'r prif gynnwy

Darganfod y nam

Mae darganfyddiad cynenedigol wedi gwella’n aruthrol diolch i gamau ymlaen ym maes uwchsain, sydd wedi disodli sgrinio mamol â phrotein serwm alffa ffeto mamol. Mae anomaleddau ym mwy na 91.5% o’r babanod sydd â spina bifida a 94.5% o’r babanod ag anenseffali’n cael eu darganfod yn gynenedigol (ar sail achosion CARIS 2010-2012).