Neidio i'r prif gynnwy

Cymru o'i chymharu â mannau eraill

Mae cymariaethau rhyngwladol gan EUROCAT yn awgrymu cyfradd gyffredinol yn Ewrop o 9.1 o achosion o namau’r tiwb niwrol i bob 10,000 o enedigaethau (95% CIs 8.9 i 9.3) dros y ddau ddegawd diwethaf fwy neu lai. Yn ôl y dadansoddiad hwn, mae gan Gymru yr ail gyfradd uchaf yn Ewrop, sef 15.1 o achosion i bob 10,000 o enedigaethau (1998 i 2011). Ond nid yw’r dadansoddiadau hyn yn cymryd i ystyriaeth oedran y fam, ac mae’r cyfnodau amser yn amrywio ar gyfer y data a gyflwynir gan wahanol gofrestrau. Mae’r gwahanol bolisïau cenedlaethol yng nghyswllt terfynu beichiogiadau amharedig, a lefelau cyflawnder yr adrodd ynghylch achosion a gollir yn nyddiau cynnar beichiogrwydd yn debygol hefyd o gael effaith arwyddocaol ar gyfraddau. er gwaethaf y cafeatau hyn, mae’r cyfraddau yng Nghymru’n ymddangos yn uchel o’u cymharu â llawer ardal arall yn Ewrop.
Mae’r patrwm a welir yng Nghymru, sef saib yng nghyfraddau namau yn y tiwb niwrol, wedi cael ei weld hefyd mewn rhannau eraill o Ewrop (rhagwelir cyhoeddiad yn 2014/15), gan gynnwys Iwerddon (McDonnell, Delany, O’Mhony, & Mullan, 2014).