Mae namau’r tiwb niwrol yn anomaleddau cynhenid o bwys a all fod yn farwol neu arwain at anabledd difrifol. Maent yn cael eu hachosi gan ddatblygiad abnormal y tiwb niwrol. Mae’r anhwylderau’n cynnwys:
- Anenseffali - anhwylder angheuol lle mae cromen y benglog a’r ymennydd oddi tani’n methu ymffurfio’n gywir; ceir hyn mewn rhyw 39% o namau’r tiwb niwrol (1998-2014)
- Spina bifida – mae’r nam yn digwydd ymhellach i lawr y tiwb niwrol gan amharu ar ddatblygiad yr asgwrn cefn a llinyn y cefn. Mae tri math o spina bifida: spina bifida occulta (anaf caeëdig, y math lleiaf difrifol), meningosel a myleomeningose (anaf agored â nerfau’r asgwrn cefn wedi’u dinoethi). Y ddau fath olaf hyn yn unig sy’n cael eu cynnwys fel achosion yn nata CARIS.
- Enseffalosele – ceir torgest yn yr ymennydd a’r pilenni sy’n ei orchuddio (y breithellau) trwy nam yn y benglog
Mae namau yn y tiwb niwrol yn arfer digwydd fel namau unigol, ond gallant fod yn gysylltiedig hefyd â syndromau cromosomaidd neu syndromau eraill sy’n cynnwys camffurfiadau lluosol.